Pobl Aberteifi 20: John Weston; Eluned Griffiths

Ceffylau a chart, efallai yn sefyll o flaen y Black Lion, Aberteifi? John Weston, Stryd y Farchnad yw’r dyn â chroes dros ei ben (gweler isod). Oes rhywun yn nabod unrhyw un arall yn y llun? [gyda diolch i Dr Rhian Davies]
John Weston (canol) (1872–1964), cyfrwywr a dyn coetsys y Black Lion.
Grwp o actorion a thelynor. Y person sy’n sefyll nesaf ond un i’r telynor yw Eluned Griffiths (isod). Oes rhywun yn nabod unrhyw un arall yn y llun? [gyda diolch i Dr Rhian Davies]
Eluned Griffiths (1917–1938) o deulu’r Royal Oak, Stryd y Cei.

Pobl Aberteifi 19: Edward Vernon Mathias – Memoirs of a Cardigan P.O.W. 18826

Atgofion Carcharor Rhyfel o Aberteifi: Edward Vernon Mathias (Mr Mathias, Bon Marche).

18826 Memoirs of a P.O.W. during the years 1940–45, Edward Vernon Mathias.

Ar gael i lawrlwytho i’ch Kindle:

Dim ond £3.06 i lawrlwytho. Yr arian yn mynd at Sefydliad y Lleng Brydeinig.

Cyn y rhyfel gweithiai Vernon Mathias yn siop John Lewis, Stryd Oxford, Llundain. Ar ddechrau’r ail ryfel byd ymunodd gyda Chatrawd Reiffl y Frenhines Victoria. Erbyn 1940 roedd ar ei ffordd i Ffrainc. Bu’n ymladd o gwmpas Calais, cafodd ei anafu a’i ddal. Wedyn, treuliodd 5 mlynedd mewn sawl camp cyn cyrraedd carchar rhyfel yng Ngwlad Pwyl. Mae ei gyfrol hynod ddiddorol ac onest yn disgrifio bywyd bob dydd mewn Carchar Rhyfel, y caledi a’r gobaith am ddyfodol gwell nôl yn Aberteifi.

“We moved off stumbling over the railway lines, a stinking, dirty and dishevelled mob…
“the Red Cross food parcel was the one thing that we looked forward to…”
“Physically I lost weight in a rapid an alarming manner and the side effects were weakness, an outbreak of skin sores, loss of some teeth and worst of all, one’s weakness encouraged the infestation of body lice which practically made life unbearable”

Yn y camp mae’n cwrdd â gŵr arall o Aberteifi – Jack Griffiths!

Mae’r Hydref yn ymestyn mla’n i’r Gaeaf caled:

“The river Vestula froze to a great depth…”
“The frosty nights were marvellous and I would look at the stars and imagine Nan (later his wife) also looking at the same stars…”

Cafodd ei symud wedyn i Heydebreck. Mae 1941… yn mynd heibio, wedyn 1942… ac wedyn  1943. Roedd bywyd yn anodd – cloddio ffosydd tra bo’r ymosodiadau o’r awyr yn bla, nenwedig yn ystod haf 1942. Wedyn mae swyddog meddygol newydd yn cyrraedd – Capten James o Geinewydd. (Bu farw yn 1981). Mae Vernon Mathias wedyn yn penderfynu, cynllunio a cheisio (ond yn methu) dianc o’r Gwersyll. Canlyniad hyn oedd treulio misoedd ar ben ei hun mewn cell (10tr x 6 tr).

“1943 gradually came to a close and Christmas was here again…”
“whilst we POWs grumbled over our lot, it was as nothing compared to what the Jews suffered…”

Ar 22 Ionawr 1945 mae’r orymdaith i rhyddid yn cychwyn, gan ddianc o flaen y Rwsiaid oedd yn dilyn. Ar ôl sawl wythnos dyma gyrraedd Burgmeistr, ym Mafaria.

“We flew home via Holland…when I arrived in Carmarthen railway station there was a taxi waiting for me. It took me the last 30 miles to Cardigan arriving in the evening where quite a few people were waiting to welcome me. My sister and my parents were waiting at the front door.”

“My journey was over” ac yn bryd edrych tua’r dyfodol.

Bon Marche c.1984

Darlun cyfareddol o fywyd fel carcharor rhyfel.

Pobl Aberteifi 17: Dr James M. Phillips; Dr Llewellyn C. P. Phillips

Dr James Mathias Phillips M.D., M.R.C.S., L.S.A. (1839–1903)

Yn enedigol o Landudoch. Yn 1870 fe oedd llawfeddyg Gwaith Glo Margam. Dychwelodd i Aberteifi yn ystod y 1880au. Roedd yn byw a gweithio o 10 Stryd y Priordy. Fe oedd maer y dref yn 1882. Erbyn 1901 roedd yn byw yn Bank House, 6 Stryd Fawr. Bedyddiwr oedd e ac yn aelod ym Mlaenwaun. Claddwyd ef ym Mlaenwaun. Roedd ei fab hefyd yn ddoctor: Llewellyn Caractacus Powell Phillips (gweler isod):

Dr Llewellyn Caractacus Powell Phillips M.A., M.D., F.R.C.P., F.R.C.S. (1871–1927):

Dyma beth sydd gan y British Medical Journal (1927) i weud amdano:


Ganed yn Taibach, Morgannwg ar 28ain Gorff. 1871. Yn 1881 roedd yn byw yn 10 Stryd y Priordy, Aberteifi. O Goleg Epsom aeth i Goleg Caius, Caergrawnt, yn 1889, ac ennill gradd dosbarth cyntaf yn Rhan I y Tripos Gwyddoniaeth 1892. Bu wedyn yn fyfyriwr yn Ysbyty St Bartholomew. Enillodd gradd MRCS a LRCP yn 1894, a graddau MB a B.Ch Camb, in 1895, ac yn 1897 enillod ddiploma FRCS Eng. Yn 1903 aeth ymlaen i ennill MD ac MRCP, ac yn 1909 fe’i etholwyd yn Gymrawd y Coleg Brenhinol Meddygol yn Llundian. Bu’n ddoctor am ychydig o amser yn Aberteifi. (tua 1898)
Dechreuodd ei yrfa yn yr Aifft pan benodwyd ef fel llawfeddyg i Ysbyty Kasr-el-Aini, Cairo. Etholwyd ef wedyn fel Athro Meddygaeth yn yr Ysgol Frenhinol Feddygol, Cairo. Yn ystod y Rhyfel Gyntaf cafodd gomisiwn dros dro fel lefftenant-cyrnol yn gyfrifol am Ysbyty’r Groes Goch yn Giza; enwyd ef mewn adroddiadau pedair gwaith. O 1914 i 1917 apwyntiwyd ef fel meddyg i’r H.H. la Hussein Kamel, Swltan yr Aifft, ac am ei wasnaeth cafodd aelodaeth Urdd y Nil a’r Medjidie.
Roedd ganddo gasgliad arbennig o bwysau gwydr ac arian Arabeg. Bu farw yng Nghairo yn Ionawr 1927.
Cyfranodd yn haelaeth i gylchgronau ar meddygaeth trofannol gan gynnwys: “Phlebotomus Fever” yn Bryan ac Archibald, Practice of Medicine in the Tropics, v Amoebiasis and the Dysenteries, 8vo, London, 1915.
Mae ‘na blac er cof amdano yn Eglwys S Mary:
https://www.geograph.org.uk/photo/6273412

Pobl Aberteifi 16: Ada Ince Williams; Revd William Jones; David J. P. Richards; Dr Selby Clare

Ada Ince Williams (1856–22.09.1923)

Yn wreiddiol o Hwlffordd. Byw yn Northgate Terrace. Gwraig y Capten Thomas Howell Williams.

David J. P. Richards: ‘Un o gerddwyr gorau Cymru ei genhedlaeth

David J. P. Richards, mab Capten David ac Annie Ida, Kelvin, St Mary’s Terrace. Cafodd ei frawd George Ivor Milton Phillips ei ladd ar 26.03.1917 ym mrwydr cyntaf Gaza [David Griffiths, Cenotaph, p. 92]

Roedd David yn aelod o’r Newport Harriers. Fe oedd yn dal record Cymru am y ras 2 filltir [South Wales Argus] a’r teitl am y ras 15 milltir am 3 blynedd ar ôl ei gilydd mewn amser o 2 awr 5m 8 eiliad [CTA 19.8.38].

Yn 42 mlwydd oed enillodd ras agored Mynwy am 14 milltir mewn amser o 2 awr 6munud 2 eiliad – dim ond 15 eiliad tu fas record W S Woode yn 1936.  [CTA 17.6.1938]. Oes lluniau ohono fe i gael yn rhywle?

Dr Selby Clare (7.08.1880–11.11.1942)

Graystone, Stryd y Priordy.

Pobl Aberteifi 15: Arthur Morris; H. H. Evans; Ivor Rees; Charles Mason; Fred Lewis

Arthur Morris (1908–1937)

DYN O ABERTEIFI YN MARW WRTH YMLADD YN SBAEN
Roedd Arthur David Morris yn fab i Arthur Owen a Martha Jane (nee Wigley), ac yn byw yn Claverley, 2 Rhes Gordon. Gweithiodd fel prentis i James, gwaith haearn, Pendre. Yn 1929, ac yntau yn 21 oed, mudodd i Ganada. Gwasanaethodd am ddwy flynedd a hanner yn y fyddin cyn setlo yn Blairmore, Alberta, ble buodd yn gweithio fel glowr. Ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol yn 1933.

Gadawodd Arthur Morris Canada yn 1936 er mwyn ymuno yn Ysgol Rhyngwladol Lenin yn Moscow. Ar ôl dechreu’r Rhyfel Cartref yn Sbaen aeth nifer o’r myfyrwyr draw i Sbaen, ac aeth Arthur ar draws Ewrop gan anfon cardiau post adref o lefydd megis Warsaw, Paris a Perpignan. Croesodd mewn i Sbaen ac ymuno â’r Americanwyr oedd yn ffurfio bataliwn Abraham Lincoln yn Albacete, hanner ffordd rhwng Madrid a Valencia.

Yn Chwefror 1937 ac yntau yn 29 oed bu farw Arthur yn Nyffryn Jarama, i’r de o Fadrid.
Ym mis Mai 1937 daeth y newyddion i’w fam a’r pennawd yn y Teifi-seid yn darllen: ‘Killed in Spain – Cardigan Man Dies Fighting for Spanish Government’. Disgrifiodd ei fam ef fel ‘bachgen hyfryd, wastad yn ymladd dros yr hyn oedd e’n credu oedd yn iawn’

https://www.oocities.org/irelandscw/docs-WelshMorris.htm

Henry Harries Evans (1872–14.05.1916, 45 oed)

Yn enedigol o Solfa, symudodd i’r dre pan oedd yn ugain oed. Crydd wrth ei alwedigaeth, roedd ei weithdy yn Stryd y Santes Fair. Roedd yn athro cerddoriaeth penigamp ac yn arweinydd Cymdeithas Gorawl Aberteifi am flynyddoedd. Roedd yn artist cydnabyddedig hefyd – mewn olew a dyfrliw. Cyfansoddodd nifer o donau emynau ar gyfer y Cymanfa Ganu lleol dan nawdd y Bedyddwyr. e.e. e.g. Ar ei ben bo’r goron (1913); Cyfaill plant bychain (1909); Dewi (1914); Felinganol (1913); Induna (1913); Strathmore (1915); Ynys Dewi (1914). Roedd yn anghytuno â’r penderfynaid i ohirio Cymanfa Ganu 1915, ac yn rhyfedd bu farw ac fe’i cladddwyd ar ddiwrnod a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer cynnal y Gymanfa.

Ivor Rees (1935–84)

Yn enedigol o Landudoch. Byw yn Charlton House, Heol y Gogledd. Postman lleol, â diddordeb mawr mewn chwaraeon – golff, snwcer, pêl-droed , a rhedeg trawsgwlad. Chwaraeodd fel amddiffynwr chwith a chapten i dim Aberteifi pan oeddent ar ei gore.

Charles Alfred William Mason (1900–82)

Ganed yn Westminster. Ymladdodd gyda’r 13eg Fiwsilwyr Brenhinol yn ystod y Rhyfel Mawr. Ymunodd â staff yr Amgueddfa Brydeinig yn 1922. Symudodd i Aberteifi yn 1956 gyda’i wraig Frances. Perchnogion siop lyfrau ail law yn y Royal Oak, 1 Stryd y Cei.

Frederick David Lewis (m. Ionawr 1983)

Yn wreiddiol o Landrindod. Daeth i Aberteifi yn 1929. Actor amatur, Cynghorydd dre a maer yn 1952–3. Pysgotwr arbennig a chanddo siop offer pysgota yn Pendre. Golffwr a chwaraewr biliards medrus.

Pobl Aberteifi 14: Willie Morgan, Daniel Morris, Y Parchg T. J. Morris, William A. Jenkins, John Evans

Willie Morgan, Adelphi (1904–87)

Siop sweets a chaffi yn Adelphi, Pendre yn ystod y 1950au hwyr a’r 1960au. Athro Ysgol Sul ym Methania.

Daniel Morris, Llwynpiod (14.08.1876–1953)

Ffarmwr llaeth. Dyn sioeau amaethyddol ac yn feirniad craff.

Y Parchg T. J. Morris, Capel Mair (10.02.1846–13.12.1908)

Yn wreiddiol o Lanelli. Myfyriwr yng Ngholeg Caerfyrddin o 1867. Cafodd ei ordeinio yn Saron, Llangeler yn 1871. Dechreuodd ei weinidogaeth yng Nghapel Mair mis Mehefin 1876. Aelodaeth o 327. Datblygodd y capel fel canolfan diwylliannol a chymdeithasol a gysylltir yn draddodiadol ag Anghydffurfiaeth diwedd y 19g. Adeiladwyd festri yn 1885. Priododd Elizabeth, merch James ac Elizabeth yn 1876. Mab Y Parchg John Herring, Bethania (1811–32) oedd James.

William A. Jenkins, Mercantile. (m.02.02.1982)

Cyfarwyddwr Rheolwr Cwmni Mercantile Aberteifi. Cyngorydd Tre. Maer yn 1966.

John Evans (1838–1903) (chwith)

Ganwyd ar y Netpool. Crydd ym Mhendre. Bedyddiwyd ar 31.07.1892 gan y Parchg John Williams, Bethania. Roedd ef yn frawd i’r bardd Thomas Evans (Telynog).