- 1 1950 (Mer.) Agorwyd Banc TSB yn Kensington House gan y maer.
- 1 1882 (Mer.) Agoriad swyddogol festri newydd Bethania.
- 1 1880 (Gwe.) Arwerthiant y smac ‘Anne & Mary’ gan David Roberts yn y White Hart.
AGOR FESTRI BETHANIA (addaswyd mas o CTA 2.3.1882)
Adeiladwyd y festri oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion a fynychai’r Ysgol Sul. Cynnwys: llyfrgell, ystafelloedd hamdden, festri, ystafelloedd ar gyfer athrawon, bwyler, a chyfleusterau eraill. Roedd y cyfan yn costio £510. Cyflwynwyd y cynllun i’r Parchg John Williams fel arwydd o barch gan y pensaer John Owens, Lerpwl. Addurnwyd y cyfan tu fewn gan Mrs R E Rees, Sryd Fawr, bu’n gyfrifol hefyd am gasglu rhwng £20 a £30 tuag at y treuliau. Casglodd Master Johnny Evans George dros 100 o dicedi ar gyfer y te a’r cyngerdd.
Bu’r canlynol yn gyfrifol am yr addurniadau:
Miss Evans, Penrallt-Cadwgan; Mrs Williams, gwraig y gweinidog; Capt J O Griffiths; Mrs Llewellyn (Y Globe); Mr Richards; Mr David Thomas, Northgate Tce.; Mr John Bowen, Heol y Cei; Mrs Thomas, Mwldan; Capt Evans, New Inn, Heol William
Bu’r canlynol yn gyfrifol am fwydo’r 500:
Miss Evans, Penrallt-Cadwgan; Mrs J O Griffiths, Emerald Ho., Pendre; Mrs Thomas Griffiths, Pendre; Mrs Esau, Pendre; Mrs James, Northgate Tce.; Miss Mary Ann Thomas, Heol y Bont