16 1980 (Sad.) Paul Ringer – bant o’r cae?!
Brwydr Twicenham
Ringer’s Red (Cerdyn Coch Ringer)
Anfonwyd Paul Ringer, cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi, oedd yn chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr yn Nhwicenham, bant o’r cae yn y 13eg munud gan ddyfarnwr o’r Iwerddon David Burnett, am dacl hwyr (medde nhw) ar John Horton. Daeth Cymru yn ail : y sgôr 9–8.
Digwyddiad braidd yn ddadleuol, a chyfle i Max Boyce sgrifennu cân ‘Ringer was to blame’. Fel wedodd Max: ‘Gyrhaeddodd e mor gloi a galle fe’.
Neu fel wedodd Graham Price am y gêm: ‘Roedd hi fel y trydydd Rhyfel Byd, ond yn y ddyddiau hynny roedd y dyfarnwyr yn gyndyn i anfon chwaraewyr bant, sdim ots beth wnaethen nhw.’
‘Penderfyniad gwarthus’ medd Ringer ei hun. ‘Daeth capten Lloegr, Peter Wheeler draw a gweud wrth y dyfarnwr os na fydded fe’n anfon fi bant , bydde’r gwaed yn llifo ar y cae. Wnaeth hynny helpu fe i ddod i benderfyniad.’
Medd John Carleton , un o asgellwyr Lloegr: ‘Rwyf wedi trafod y mater drosodd a throsodd ond dal ddim yn siwr. Rhedodd at John ac roedd e eitha uchel ac efallai roedd ychydig o fwriad tu ôl i’r cyfan, ond nath e ddim cyffwrdd llawer.’
Baniwyd Ringer am 8 gêm a methu Taith y Llewod i Dde Affrica. Ymddeolodd o’r gêm ym 1984. ar ôl chwarae ychydig o Rygbi’r Gynghrair gyda Dreigiau Gleision Caerydd.

A oes un o rhein gyda chi? Gwisgwch eich bathodyn heddi : ‘Mae Ringer yn ddieuog’.