- 23 1960 (Mer.) Ymwelodd Cliff Richard â’r dre. Galwodd mewn i Café Penri, Pendre (Happy City 2013). Bytodd Welsh cakes am y tro cyntaf – a joio! Dim sôn a oedd yn bwrw glaw y diwrnod hynny felly ddim yn siwr a ganodd o gwbl.
- 23 1949 (Mer.) Cymdeithas Gorawl Aberteifi yn perfformio ‘Messeiah’, Handel ym Methania. Yr arweinydd oedd Andrew Williams. Yr unawdwyr oedd Elsie Suddaby, Bryce Dargavel, Eileen Price, Rene Soames. Yr organydd oedd yr Athro Edward Morgan.
- 23 1928 (Iau) Claddwyd Samuel Young, maer ym 1908 a 1921.