25 Chwefror (1881) Amlfiliwnydd o’r Mwldan (efallai yr unig un?!)


  • 25 1950 (Sad.) Queens café / restaurant ar gau am byth. Y popty i barhau ac yn parhau heddiw (2013).
  • 25 1889 (Llun) Claddu Solomon Blake, Mwldan, 65, garddwr a tad i 20 o blant.
  • 25 1881 (Gwe.) Ar y dydd hwn ym 1881 hwyliodd W. R. Harries a Florrie ei wraig i America.

WILLIAM R. HARRIES

Nid brodor o Aberteifi oedd William R. Harries, ond gŵr a ddaeth i’r dref o Salem, Llangennech, wedi iddo sicrhau swydd gyda’r arwerthwr T. Griffiths, a dod yn aelod ym Methania ar 24 Medi 1876. Er mai byr oedd ei arhosiad yn Aberteifi gadawodd ei farc ar y gymuned. Yn ei amser hamdden bu’n helpu i sefydlu ysgol ar gyfer tlodion – y ‘Ragged School’ – yn y Mwldan, ysgol a weithredai’n ymarferol i gynnal corff ac enaid tlodion y Mwldan.  Gadawodd William Harries a’i wraig newydd – Florence Lewis o Heol y Cei – ar 25 Chwefror 1881. Mae’n amlwg iddynt gael bywyd pur lewyrchus yn y wlad newydd oherwydd, wedi ei farw, dyma’r pennawd a ymddangosodd yn y New York Times ar 6 Chwefror 1915: ‘W. R. HARRIS LEFT $3,000,000′.

Ac yn ôl papur newydd arall o’r cyfnod:

William R. Harris, formerly Vice President of the American Tobacco Company, died on Monday at his home at Irvington-on-Hudson, N. Y., in his sixtieth year. He was born in Wales and came to this country in 1880. Mr Harris became associated with the Pullman Company in Chicago and resigned to assist in the formation of the American Tobacco Company. At the time of the dissolution of this company, and for many years previous, he was Chairman of the British-American Tobacco Company and took an active part in obtaining foreign business. Mr Harris also assisted at the reorganization of the American Tobacco and its associated companies when this was made necessary by the decree of the United States Supreme Court. He had been retired from active business for several years. Mr Harris is survived by his widow, three sons and a daughter.

Roedd wedi prynu eiddo 24 milltir y tu allan i Manhattan yn 1895 ac wedi gwario ffortiwn yn datblygu’r tŷ. Dyma y lle i fyw ymhlith enwogion busnes America. Fe’i cydnabyddid yn eang fel ‘Millionaire’s Colony’ a dyma lle’r ymsefydlodd teulu Rockefeller a chyfoethogion eraill yn ddiweddarach.

Does dim sôn iddo ddychwelyd i’r Mwldan.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s