26 1938 (Sad.) Bu farw Dr Dan Rees, Belmont, prifathro Ysgol Uwchradd Aberteifi am 36 o flynyddoedd. Ar ôl ymddeol symudodd i fyw i Hastings. Nid oedd mewn iechyd da ac ar gyngor meddygol penderfynodd mynd ar wyliau i Sicily. Bu farw tra’n teithio gyda’i wraig ar y trên trwy Ffrainc yn Lyon. Amlosgwyd ei weddillion yn Ffrainc.
Brodor o Landysul oedd, addysgwyd yn ysgol Gwilym Marles, ac Ysgol William James, Llandysul. Undodwr: Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin o dan y Prifathro Evans; Coleg Aberystwyth am flwyddyn lle cafodd gradd BA (Llundain). MA Prifysgol Llundain; ennillodd Ysgoloriaeth Hibbert, mynd i Berlin a Leipsig lle cafodd Doethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Celtaidd. Wedyn aeth i Baris lle bu’n astudio am chew mis yn y Sorbonne. Bu’n brifathro rhwng 1897 a 1932. Priododd Elizabeth M. Davies, merch henaf y Parchg John Davies, Yr Amwythig a chanddynt un mab.
Yn ôl nodyn golygyddol yn y Tivy-side 11.3.138:
‘Dr Dan Rees was not in the roll of common men. There was a distinction about him which could not but impress all with whom he came in contact. He had that elusive thing called personality… The schoolroom was his dukedom and here he wielded a daily influence the value of which it is impossible to estimate.’
Dr Dan Rees fel prifathro
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys yr Holl Saint, Hastings am 3 o’r gloch Dydd Sadwrn, 5ed Mawrth ac ymhlith eraill yn bresennol gan Mrs E. M. Rees (gwidw), Capt and Mrs Rees (mab a merch yng nghyfraith), Mr David Rees (brawd), Mrs F. Gower (chwaer), and Miss F. E. Davies (chwaer yng nghyfraith).