- 4 1949 (Gwe.) Oherwydd straen yn dilyn gweithio gormod mae’r Athro T. J. Morgan, Coleg Cambria yn dioddef o anhwlyder nerfau. Mae wedi derbyn cyngor meddygol i ganslo pob trefniant cyhoeddus. Yn ddiweddar cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth a darnau adrodd ac wrthi yn paratoi Llyfr Gosod yn y Gelfyddyd o Feirniadu.
- 4 1949 (Gwe.) Gwleidyddion yn siarad!
‘Rwy’n derbyn llythyron dyddiol oddi wrth Toriaid yn sir Aberteifi, yn nodi eu bwriad i gefnogi fi yn yr etholiad nesaf’ Roderic Bowen AS
‘Yn ystod fy nghyfnod fel ymgeisydd mae’n rhyfedd y nifer o Ryddfrydwyr yn y sir, a nifer sydd wedi cefnogi’r achos Rhyddfrydol am flynyddoedd lawer, sydd wedi dod ata’i yn gwbl rhydd ac sy wedi dymuno’n dda i fi’ Dr S G Little, ymgeisydd y Toriaid.
‘Mae’r gobaith i Sosialaeth yn sir Aberteifi yn llachar iawn. Bob dydd mae ffermwyr yn dod drosodd i’n hochr ni’, Iwan Morgan, ymgeisydd Llafur.
Adroddiad Tivy-side ON Roderic Bowen ennillodd yn yr etholiad nesaf (1950 – tan 1966)
- 4 1949 (Gwe.) Hysbyseb yn y Tivy-side: Gwasanaeth Llyfrgell arbennig: W. H. Smith, 18 Heol Fawr, Aberteifi. Ymunwch â llyfrgell gorau Lloegr – HEDDIW!
Dewis £3 (12 mis); 35/- (6 mis)
Post 30/- (12mis); 17/6 (6mis); 10/6 (3 mis)
Dosbarth A 25/- (12 mis); 14/6 (6 mis); 9/- (3 mis)
Dosbarth B 12/6 (12 mis); 7/- (6 mis); 4/- (3 mis)