31 Mawrth (1888) Marw Asa J. Evans, cyfreithiwr


Asa J. Evans
Asa J. Evans, maer Aberteifi 1875 a 1876
  • 31 1888 (Sad.) Bu farw Asa J. Evans yn ei gartref Penralltcadwgan, ger Rhoshill, am 2.30, ar ôl salwch hir ers tair blynedd. Cyfreithiwr oedd Asa J. Evans ac yn bartner hŷn cwmni Asa J. ac Ivor Evans, cyfreithwyr, Green St. Roedd yn aelod o Gyngor y Dref, ac etholwyd yn faer yn 1875 a 1876.  Rhyddfrydwr fel gwleidydd, ac yn aelod o’r Bedyddwyr, daliodd nifer o swyddi pwysig megis cyfreithiwr Undeb y Bedyddwyr ac hefyd yn yr un modd fel cyfreithiwr Cymdeithasfa Methodistiaid Calfinaidd De Ceredigion.Gydag eraill roedd wedi arwain y ffordd i ddiddymu’r Degwm yn lleol, ac aeth mor bell a gadael ei eiddo i’w gwerthu fel protest .

‘Mae Aberteifi wedi dioddef colled fawr trwy farwolaeth Ald. Evans, a bydd yn hir cyn cael arweinydd cystal i lenwi ei le.’

Yr Angladd: Claddwyd ym Mhenybryn ar Ddydd Iau 5 Ebrill. Cafodd angladd mawr. Roedd nifer o weinidogion, y Maer, Clerc y Dref, Trysorydd y Bwrdeistref, aelodau o Gyngor y Dref, a Cheidwaid y Brysgellau, ar flaen yr ymdeithgan a oedd yn cynnwys tua 40 o gerbydau, nifer o rai ar gefn ceffylau ac eraill ar droed, ac yn ymestyn bron i hanner milltir.

Y Parchg W. Evans, Cilgerran oedd yng nghofal y gwasanaeth yn y ty, cyn mynd ymlaen i Gapel Penybryn. Yno bu Y Parchedigion Mr. Griffiths (Bethel), Mr. Davies (Tyrhos), Mr Jenkins (Trefdraeth), Mr. Thomas (Blaenffos), William Jones (Tabernacl, Aberteifi), Mr G. Hughes, Mount Zion, Mr T. Phillips (Ferwig) ac eraill. Ar lan y bedd y Parchgn John Williams, Bethania a R. Price (Cilfowyr) oedd yn gwasanaethu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s