
1862–1912
- 6 1988 (Mer.) Marw Wyn Jones, awdur Yr Hen Lwybrau a storiau eraill (Gomer, 1966)
- 6 1951 (Fri.) Cardigan Society’s First venture: ‘The Long Mirror’
- 6 1912 (Sad.) Marw William Roberts, awdur y dôn Bryngogarth, 50 oed
William Roberts (1862–1912)
[Addasiad o deyrnged y Parchg Esaia Williams, 19 Ebrill 1935, CTA]
Ganed William Roberts ar 1 Hydref 1862 mewn ty o’r enw Farmers’ Arms, Penybont, Aberteifi. [21 Stryd y Castell]
Brodor o Aberteifi oedd John Roberts, ei dad. Maged ef yn Heol Fair. Morwr oedd ef yn ôl ei alwedigaeth a threuliodd ei oes ar y môr. Mary Roberts oedd ei fam, yn wreiddiol o Rafael, ger Blaenffos. Roedd ganddynt bedwar o blant: Mary Ann, William arall a fu farw’n ifanc, Sarah Lizzie a William. Bu fawr eu mam yn ifanc iawn a chafodd y plant eu codi gan chwaer eu mam Mrs Martha Roberts.
Dyn bychan ei gorff oedd William, ac anffurfiwyd ei gorff trwy ddamwain a gafodd pan oedd yn faban. Roedd ei gefn yn grwca. Derbyniodd ei addysg gynnar yn y British School a gynhelid yn yr hen Fethania (Caffi Central). Edward Hughes (Iorwerth Penfelyn ) oedd yr ysgolfeistr. Dyn rhagorol.
Ar ôl ychydig o addysg aeth William Roberts at ddyn o’r enw Griffith Griffiths, Castle Street i ddysgu ei grefft fel gwneuthurwr dodrefn. Bu’n gweithio wedyn gyda David Lewis, Llanifor, Penyparc, dros y ffordd y tu ol i’r Eagle Inn. Bu yma am rai blynyddoedd, ond oherwydd gwendid corfforol gorfod iddo roi heibio crefft saer. Ar ôl blynyddoedd cychwynodd fasnach iddo’i hun yn Heol y Bont, a pharhaodd felly hyd derfyn oes. Tynnwyd y siop i lawr c. 1933. Safai gyferbyn a Heol y Cei, yr ochr arall i’r ffordd.
Nid oedd yn nodedig am ei ddoniau cyhoeddus, ond ni bu neb erioed teyrngarach nag ef mewn eglwys. Un o’r rhai mwyaf addfwyn, diniwed a thyner galon, ac eto, pan fyddai galw am sefyll dros egwyddor yr oedd mor ddewr a llew, ac yn uchel ei brotest yn erbyn pechod ymhob ffurf arno.
Fel cerddor y daeth yn amlwg. Tua 1882 gwahoddodd rhai o gerddorion Bethania Mr Benjamin Lewis, Blaenanerch i gadw dosbarth Solffa yno. Ymunodd William Roberts â hwn. Yr oedd Benjamin Lewis yn gerddor gwych. Erbyn diwedd y tymor yr oedd pob un o ddosbarth a rifai 50 yn medru rhedeg unrhyw dôn ar yr olwg gyntaf arni. Yn ddiweddarach ymfudodd Benjamin Lewis i’r America.
Wedi cael blas ar gerddoriaeth daliodd ati. Ei offeryn cyntaf oedd y chwibanogl (fife). Wedyn y crwth. Digwyddodd i frodor o’r Eidal ddod drwy strydoedd Aberteifi ryw ddydd, a chwarae rhyw fath o delyn. Buan y daeth ei seiniau melys o’r stryd agored i glustiau William Roberts yn yr ystafell uwchben ei siop. Tarodd bargen â’r Eidalwr a daeth yn berchenog y delyn.
Dechreuodd gyfansoddi. Cychwynodd ef ac eraill gerdded i Gilgerran i ddysgu chynghanedd gan y Parchg W. Cynon Evans G. & L, a’i wraig. (Blaencwm, Rhondda yn ddiweddarach). Ni orffwysodd nes cael cerddorfa i’r dref. Bu’n aelod ffyddlon o’r Cardigan Male Voice Party, o dan arweiniad William Thomas, Carningli.
Tonau a gyfansoddodd: Bryngogarth, Blaenffos, Glanteifi, Llandudoch, Rhosgerdd, Cemaes, Bridge Street, William
I BLANT: Clodfori’r Gwaredwr, Dewuch ataf fi, Annwyl Iesu
Ei dôn enwocaf oedd Bryngogarth:

Bu’r diweddar Barchg John Williams ryw dro yn ei gerbyd yn pregethu yn Sir Befro, ac wrth ddod adref yn hwyr, gwelai olau yn ffenestr William Roberts, ac wrth basio trawodd y ffenestr a’i chwip. Bore trannoeth aeth i weld William Roberts, ac meddai: ‘Beth ichwi’n wneud lawr mor hwyr y nos? O! Mr Williams, y chwi oedd yna neithiwr. A dweud y gwir, rhoi finishing touches i dôn ar y geiriau ‘Angrhediniaeth, gad fi’n llonydd, yr oeddwn i’.
Galwyd y dôn honno yn Bryngogarth ar ôl enw cartref y diweddar Barch John Williams.
Bu farw 6 Ebrill 1912. Claddwyd ef ym mynwent Blaenffos. Maen coffa : Cerddor W. P. Roberts, Aberteifi. Awdur y dôn Bryngogarth. A fu farw Ebrill 6, 1912, yn 50 oed.
Y Parchg Aaron Morgan:
- Un hysbys oedd yn nosbarth – y gân fwyn,
- Gwyn ei fyd, frawd diwarth;
- Tra cenir nis gwelir gwarth
- Yn gwgu o’i Fryngogarth