- 3 1824 (Llun) Sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Aberteifi yn yr Angel. Cyfarfodydd Dydd Mercher cyntaf pob mis. Yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf: Thomas Bowen, esq., islywydd Stephen Williams; cadeirydd Y Parchg John Herring, Bethania; trysorydd David Mathias; ysg. James Jones; a’r bardd J M Jones (Ioan Cunllo).
Cymdeithas, urddas a harddwch – y wlad
A’i haelodau harddflwch;
Ac eres dan Gwladgarwch
Trwy’n mynwesau’n fflamiau fflwch.
Brwd haf yn Aberteifi – yw weithian
Ar yr Iaith lan wisgi;
Boneddion, bawb, yn noddi
Ffrydiau per ei phurdeb hi.