- 3 1984 (Sul) Marwolaeth Miss S. R. Owen B.A., athrawes a maer ym 1971. Ymddeolodd o’r Ysgol Uwchradd fel athrawes mathemateg ym 1966. Cyn hynny bu’n gyfrifol am ysgol breifat ‘Bodowen Private School’ am flynyddoedd. Graddiodd mewn hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn ferch i G. D. Owen, gwerthwr glo lleol. Roedd yn aelod o’r Eglwys, ac yn gyfnither i’r Athro L. V. Owen.