- 30 1950 (Gwe.) Cyngh. Rosina Davies yn ymddiswyddo o Gyngor y Dref oherwydd dymuniad Clwb Bocsio Aberteifi i ddefnyddio’r Farchnad Gig. Ganed y Parchg Rosina Davies yn Llandudoch, a symud wedyn i Gwm Rhondda. Bedyddiwyd ar 27 Awst 1911 a dechrau pregethu y noson honno. Bu’n gwasanaethu ym Mryn Seion, Cwmtwrch, 1926–8 a chafodd ei hordeinio. Dychwelodd nôl i Landudoch ym 1930 gyda’i mam. Bu’n cynorthwyo ym Mlaenwaun, 1930–40, ac ym Methania, 1941–60. Ym 1933 priododd David Evan Davies, bwtshwr [ochr draw Neuadd y Sir (Shire Hall)]. Hi oedd y fenyw gyntaf ar Gyngor y Dre, ac ym 1943 y fenyw gyntaf fel maer. Bu farw 3 Gorffennaf 1983, 87 oed.
- 30 1921 (Iau) Ffurfio Cwmni Clwb Rhyddfrydwyr Aberteifi cyf.