
- 29 1923 (Mer.) Ar ddiwrnod glawog cynhaliwyd seremoni i ddadorchuddio’r Senotaff gan yr Uwchfrigadydd S. F. Mott, CB am 2.30. Roedd cynrychiolwyr y llynges o dan y Prif Saethwr Moore RN, a chynrychiolwyr y fyddin o dan Capten Evan Davies MC. Roedd yr Uwchfrigadydd Mott yn westai i Syr Laurence Jenkins a’r foneddiges Jenkins, Cilbronnau.
Eraill yn bresennol oedd Grismond Phillips, Cwmgwili, W. Picton Evans a Glodydd Jenkins, mab Syr Lawrence. Yn arwain yr orymdaith oedd gosgordd er anrhydedd y llynges a’r fyddin ,wedyn y Scowtiaid a’r Geidiau, perthnasau y rhai a gollwyd yn cario offrymau blodau, y Maer Ald Dan Williams a’r byrllysgwyr, aelodau Cyngor y Dref, ynadon, gweinidogion yr efengyl, a’r cyhoedd.