- 17 1880 (Sul) Bedyddiwyd deg person yn yr afon Teifi ger y Netpool gan y Parchg John Williams, Bethania pnawn Sul o flaen torf o bobl. Y deg oedd :
Griffith Griffith, mab Thomas Griffiths, groser, Pendreuchaf; John Williams, mab William Williams, saer, Pendre isaf; David Jenkins, mab John Jenkins, waggoner, Heol Fair; James Thomas, morwr, Feidrfair; Anne Davies, merch Thomas Davies, gweithiwr yn Parcytrap; Anne Thomas, merch gwraig John Jenkins, masiwn, Pendre uchaf; Rachel Griffiths, merch John Griffiths, tinman, Lôn Heol Fair; Frances Heyes, White Hart, Heol Fair; Anne James, merch David James, Lôn Eben a Margaret Jones, morwyn Mr Levi James, ironmonger.