Saturday Night at the Black – Llyfr newydd


Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!
Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Saturday Night at the Black: Cardigan in the Swinging Sixties. Llyfr 183 o dudalennau; dros 100 o luniau, nifer mewn lliw, gan William H. Howells. Pris £10. Argraffwyd gan E. L. Jones, Aberteifi. ISBN 978 1 78280 7698

Odi Aberteifi a’r ardal yn barod am hwn?

Mae’n stori ryfeddol! Y cefndir cychwynnol yw’r cysylltiad agos rhwng rhai o gymeriadau’r dref a chymeriadau’r byd cerddorol oedd yn datblygu yn Lerpwl ar y pryd. Pobl fel y dramodydd Alun Owen, a ddaeth i fyw yn Llandudoch rhwng 1963 a 1967; Allan Williams, rheolwr cyntaf y Beatles; Bill Harry, golygydd y papur dylanwadol y Mersey Beat; Bob Wooler, DJ enwog y Cavern yn Lerpwl; a George Melly, a brynodd dŷ gwyliau ym Mhen-y-bryn. Croesawyd y criw brith yma, ynghyd â’u partneriaid, yn gynnes gan Frank Aspinall, perchennog y Blac Leion, a chyda’u cymorth hwy llwyddodd i drefnu bod bandiau o Lerpwl yn tyrru i Aberteifi i chwarae yn y Blac.

Cewch restr lawn o’r grwpiau a ddaeth yno rhwng 1963 a 1973. I ddechrau o’r Cavern, yn Lerpwl y deuent – sawl un wedi ennill eu plwyf yn y Kaiserkeller a chlybiau eraill yn Hamburg. Ŷch chi’n cofio’r noson y daeth Screaming Lord Sutch i’r dre? Beth am Rory Storm a’r Hurricanes; Ian a’r Zodiacs; y Clayton Squares; Vince Earl a’r Talismen; Freddie Starr a’r Nightriders; Sony Webb a’r Cascades; Derry Wilkie a’r Pressmen; y Kirkbys; y Masterminds, y Chessmen a’r Kinsleys a nifer fawr o rai eraill?

Yn ddiweddarach deuai grwpiau o dde Cymru: chi’n cofio James Hogg; yr Iveys; Haverson Apricot; Peter Shane a’r Vikings – heb anghofio’r bandiau lleol megis Ricky a’i Raiders a Strawberry Maize?

Bob nos Sadwrn deuai tua 200 o bobl ifainc i mewn i’r dre o ardal eang sir Aberteifi, sir Benfro a sir Gaerfyrddin i ddawnsio, i wrando ar gerddoriaeth ac i fwynhau. Ond nid pawb oedd yn hapus gyda’r datblygiadau hyn. Roedd rhieni’n anfodlon fod eu plant yn mynychu’r fath le, a chynghorwyr parchus Aberteifi yn anhapus fod y Blac yn dod ag enw drwg i’r dre.

Nid yw Aberteifi wedi gweld dim byd tebyg, na chynt nac wedyn.

Darllenwch y gwir am gysylltiad y Beatles a Gŵyl Fawr Aberteifi!

Darllenwch am y cysylltiad agos rhwng ‘A Hard Day’s Night’ a Llandudoch.

Cewch agoriad llygad wrth ddarllen tystiolaeth nifer o’r trigolion a fu’n rhan o’r bwrlwm.

Allan yn siopau NAWR £10.

neu gallwch ebostio netpool1960@gmail.com er mwyn archebu trwy’r post £12.50.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s