Mae lleoliad daearyddol Aberteifi ar lan afon Teifi, sy’n llifo i Fae Ceredigion, Môr Iwerddon, yr Iwerydd a thu hwnt, yn golygu fod y môr wedi dylanwadu ar ei hanes erioed. Wrth bori drwy gofnodion claddu a darllen arysgrifau cerrig beddau y rhai a gladdwyd ym mynwent Eglwys y dref, mae’r cysylltiad yn un amlwg iawn. Mae’r wybodaeth yn datgelu’r trasedïau, ond hefyd obaith a dyheadau nifer o bobl ifanc y dref.
Roedd yr afon yn gallu bod yn fan peryglus i blant chwarae. Boddodd rhai yn afon Teifi.
- David William, 3ydd mab John ac Elizabeth, ym mis Gorffennaf 1844 yn ddim ond 11 oed.
- Ym mis Mehefin 1890 boddodd William H. Smith, Mwldan.
Boddodd eraill wrth groesi’r bar.
- Ym mis Mehefin 1825 boddodd George Jefferson, 17 oed, a John Pratt, 22 oed, pan suddodd y brig Active.
Bae Ceredigion oedd y man olaf i rai weld golau dydd.
- David Davies, Parc Llwyd, Aber-porth, 70 oed.
- Boddodd Richard Finch, mab Mary ger Ceinewydd ym mis Mawrth 1827 yn 27 oed.
- Boddodd Thomas Thomas, 15 oed, ym mis Hydref 1843.
- Boddodd John Evans, 30 oed ym mis Tachwedd 1866.
Boddodd William Phillips ail fêt ar fwrdd yr SS Cyfarthfa, wrth gwympo mewn i Ddoc Dwyreiniol Biwt, Caerdydd ym mis Hydref 1897. Gedy weddw a dau o blant.
Yn aml ceir bod rhywrai wedi colli eu bywyd ar y môr heb nodi’r union daith.
- Morgan Morgan, 45 oed, Rhagfyr 1846.
- William Miles, 19 oed, mab John a Dorothy, Rhagfyr 1847.
- William James, 29 oed yn Ebrill 1853.
- John Charles, 31 oed, mab David, Awst 1893.
Yn yr achosion ble nodir y daith ceir awgrym o ba mor bell y teithient. Mae’n amlwg nad “lle anghofiedig” oedd Aberteifi a gellid cwrdd â phobl Aberteifi ar draws cyfandiroedd y byd ymhell cyn bod neb wedi breuddwydio am agor y rheilffordd rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin, dyfodiad ceir a bysys, neu adeiladu maes awyr Caerdydd!
Dyma sampl bach o’r dystiolaeth:
- Rowland Rowlands, 20 oed, ar 25 Ebrill 1796 yn India’r Gorllewin.
- James Evans, 26 oed, meistr y sgwner Nymph ger Cape Clear, Chwefror 1833.
- Daniel Davies, 40 oed, ger Cape Clear, Tachwedd 1838.
- James Owens, 25 oed, mab David a Diana, ger Crow Head, Gogledd Orllewin Iwerddon, Tachwedd 1838.
- John Roberts, 20 oed, ger Cape of Good Hope, Medi 1848.
- Bu farw William Davies, 38 oed, meistr sgwner yr Harmony yn Tralee ymMai 1849.
- Thomas Jones, 19 oed a foddodd ynghyd â’r criw Pomona i gyd, ar arfordir yr Alban, Chwefror 1850.
- Boddodd Isaac Griffiths, 23 oed, ger arfordir Affrica, Mehefin 1850.
- David Morris, mab Evan a Margaret, 23 oed yn San Fransisco, Rhagfyr 1850.
- George Lord, 10 mis oed a anwyd ar y môr, a marw yn Valparazo ym 1851.
- Bu farw John Mathias, 26 oed o’r colera yn Rotterdam, Medi 1854.
- David Owens, 52 oed, ar y sgwner Master De Carri oedd yn hwylio o Pomeron, Rhagfyr 1854.
- John Griffiths, gwneuthurwr hwyliau, 59 oed, ym Malta, Mai 1855
- John W. Jones, 16 oed ar y brig Hope ym 1856.
- John White, 44 oed yn Rio de Janeiro, Mawrth 1857.
- Capten William Finch, 37 oed yn Rio de Janeiro, Mai 1857.
- William White, 28 oed, mab George a Sarah, yn Quebec ym mis Hydref 1860.
- Mary Runnegar, 35 oed, yn Richmond, Awstralia, Mai 1861.
- James Timothy, 20 oed. Cwympodd dros fwrdd y llong Jone o Sunderland, ym mis Chwefror 1863 ar y daith o Mauritius i Lundain.
- David Thomas, ar fwrdd y sgwner William Edward o Gaerloyw ym Mae Biscay ym mis Mehefin 1863.
- Phillip Phillips, 39 oed ar fwrdd y brig Harmony o Gaerdydd ger arfordir yr Alban ym mis Rhagfyr 1865.
- John Stephens, 45 oed yn Cuba, 1867.
- David Davies, 27 oed, ar fwrdd y Sclavonica, ger Leith ym 1867.
- William Tudor Davies, 23 oed, mab John Tudor c Elizabeth, prif swyddog ar fwrdd yr Almora, rhwng Bombay a Lerpwl, ym mis Medi 1868.
- David Sambrook, 52 oed, ar fwrdd yr Harlech Castle ger Cape Horn, ym mis Awst 1868.
- Boddodd Capten William Jones, 41 oed, ar daith o Philadelphia i Plymouth, 17 Medi 1869.
- Bu farw John Owens, 23 oed, ar fordaith o Fôr y Canoldir, mis Rhagfyr 1870; a’i frawd James, 35 oed, ar fordaith o Shields i Mollendo, Rhagfyr 1871.
- William Jenkins, 21 oed, mab David ger Cape Horn, Medi 1872.
- Bu farw John Lloyd 26 oed o’r dwymyn felen yn Rio de Janeiro, ym mis Mehefin 1873.
- John Thomas, 45 oed, ar y llong Maggie o Abertawe. Bu farw yn Plymouth a’i gladdu yno ym mis Mai 1874.
- Evan Thomas, meistr llong, Heol William, 36 oed, yn St Helena, 16 Hydref 1875.
- Thomas Harries Griffiths, 40 oed, ar fwrdd y brig Leading Star ar daith rhwng Shields i Folkestone, Tachwedd, 1875.
- Stephen James, 49 oed yn Geddes, Tachwedd 1876.
- Thomas Owens, 37 oed, ar daith i Bombay ar fwrdd y Flora o Lundain, Awst 1877.
- Capten John Morgan, 56 oed, yn Ysbyty Quebec, Tachwedd 1881. Claddwyd ef ym mynwent Quebec.
- Henry Greenhill Trollip, 19 oed, ail fab Jacob, ar y llong Easterhill, Ebrill 1886.
- Thomas Morgan, 35 oed, yn Ysbyty Pera, Brasil Ionawr 1887.
Bu’n rhaid i sawl teulu wynebu trasedïau mewn mwy nag un genhedlaeth.
- Boddodd Thomas a James Thomas, meibion Owen ac Elizabeth, yn ogystal a’u hŵyr John Lloyd.
- Boddodd David Davies, Parc Llwyd ym mae Ceredigion ym 1851 a bu farw ei fab David o losgiadau ar fwrdd y llong Amazon, Ionawr 1852.
- Boddodd David Williams, 11 oed, 3ydd mab John ac Elizabeth, ger y Cei yn Aberteifi. Cafodd William Williams, 16 oed, eu 4ydd mab ei olchi dros fwrdd y Susannah, ger arfordir Gogledd Orllewinol Iwerddon, Rhagfyr 1844.
- Boddodd William Williams, 52 oed, meistr y brig Jane o Aberteifi, yn Limerig, ym mis Hydref 1825; ei fab Lewis, 23 oed, ym mis Chwefror 1833; ei fab arall John, 18 oed, yn y Mary o Aberteifi, ger Caergybi, ym mis Hydref 1838; a’i fab Thomas 34 oed, mab yn Efrog Newydd, Gorffennaf, 1847.