Pwy oedd Telynog?


Thomas Evans (TELYNOG; 1839–65)

Cornel Lôn Eben, Aberteifi

Amser maith yn ôl,  er i fi gerdded heibio’r gofeb yma sawl gwaith y dydd – doedd fawr o syniad gyda fi pwy oedd Telynog na Ossian Dyfed. Dyw’r plac ddim yn datgelu rhyw lawer. Dim hyd yn oed enw llawn y bobl. Yn ddiweddarach y sylweddolais i fod Telynog ymhlith yr enwogion yn y Bywgraffiadur Cymreig. Dyma beth sydd gan y Bywgraffiadur i weud amdano:

THOMAS EVANS g. 8 Medi 1840 yn nhref Aberteifi, mab Thomas Evans, saer llongau o’r dref honno. Pan oedd yn 11 oed aeth i weithio ar long a hwyliai rhwng porthladdoedd Cymru. Ond nid oedd y bywyd hwn wrth ei fodd; dihangodd i Aberdâr a gweithiodd fel glowr yng Nghwmbach. Dechreuodd farddoni pan oedd yn ieuanc iawn a chafodd ei wobr gyntaf am bryddest ar ‘Gostyngeiddrwydd’ mewn eisteddfod a gynhaliwyd dan nawdd capel y Bedyddwyr yng Nghwmbach, lle yr oedd yn aelod.

Cyfansoddai yn rhwydd yn y mesurau rhyddion a chaethion, a bu’n fuddugol mewn eisteddfodau lleol o dan feirniadaeth beirdd o fri fel Islwyn a Cynddelw.

Pan fu farw o’r darfodedigaeth, ac yntau ond 25 oed, cyfrifid ef yn un o feirdd mwyaf addawol Cymru.

Ei weithiau enwocaf yw’r telynegion ‘ Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd ’ ac ‘ Yr Haf’; y mae’r ddiwethaf wedi ei chynnwys gan W. J. Gruffydd yn ei Flodeugerdd.

Bu f. 29 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberdâr. Cyhoeddwyd yn 1866 gyfrol o’i weithiau wedi eu dethol gan ei gyfaill Dafydd Morganwg  gyda chofiant gan Howel Williams.

Y Bywgraffiadur Cymreig. W T Morgan (1963/4)

Dyma’r gyfrol sy’n cynnwys ei weithiau a’r Byr-gofiant:

Gwaith Telynog

Ac i bob pwrpas crynhoi yr hyn sydd yn y Byr-gofiant y mae’r darn rwy newydd ddarllen.

Mae fersiwn Saesneg o’r un wybodaeth yn ymddangos hefyd yn y Dictionary of Welsh Biography:

Fel y byddech chi’n disgwyl mewn cofiant gan ffrind agos o fewn blwyddyn i’w farw mae’r portread yn fwy o deyrnged na asesiad beirniadol o’i fywyd a’i waith. A yw’n bosib inni ddarganfod mwy amdano – dros 150 o flynyddoedd ar ôl ei eni? Wel yn sicr mae wedi bod yn bosib cael gafael ar ambell ddogfen nad oedd ar gael yn hawdd yr adeg hynny.  Mae dyfodiad y we hefyd wedi caniatau mynediad i sawl ffynnhonell diddorol. Ond mae sawl dirgelwch yn aros! Mae’n ddrwg da fi ddechrau ar nodyn lletchwith – OND mae’r dyddiad geni ar y gofeb yn anghywir. Ganed Thomas Evans yn 1839 ac nid 1840.

Dyma gopi o dystysgrif geni Thomas Evans:

Tystysgrif geni Thomas Evans

 

Tystysgrif Thomas Evans. Ganed 8 Medi 1839.

Fe’i aned ar 8 Medi 1839 yn fab i Thomas, saer llongau ac Elisabeth Peters. Y cyfeiriad yw Netpool Bach. Os edrychwn ni ar y Cyfrifiad agosaf –sef 1841:

Cyfrifad 1841

Dyma gofnod ar gyfer y teulu cyfan oedd yn byw ar y Netpool:

Thomas Evans (40), a’i wraig Elizabeth (35); a’r plant: David (9); William (7); John (4) a Thomas (1) oedd yr ifancaf; ac Elizabeth Phillips, lodger, 70 oed.

Roedd 7 (teulu) tŷ ar y Netpool yr adeg yma. Cwestiwn gwerth gofyn yw – ble yn union ar y Netpool oedd ein Thomas Evans yn byw? Efallai bod hwn yn help:

Netpool, c. 1915

Y dyddiad ar gefn y cerdyn post yma yw 1915. Mae’r shelter i’w weld (adeiladwyd tua 1902), Ael yr Aber, fferm Dolwerdd a’r tai ar bwys yr afon (sydd yn dal yna heddiw) ond mae ʼna dŷ sydd wedi diflannu – tu ôl i rhain – ar y llwybr ar y ffordd draw tuag at ffarm Hen Gastell. Tybed ai fan hyn oedd Thomas Evans yn byw? Mae na sôn mewn un man (CTA, 1915) fod e’n byw mewn ‘bwthyn ger y Netpool’?    (cottage near the Netpool – Glanceri 1915 CTA).

Pan oedd e’n grwt bach mae’n debyg iddo bron â chael ei ladd trwy ddamwain tân ond cafodd ei achub gan ei frawd John. (Tel: unveiling 1927 CTA)

Erbyn 1851:

Cyfrifiad 1851

roedd Thomas yn 11 oed ac yn cael ei ddisgrifio fel ‘scholar’; ei frawd William (17 oed) yn gweithio fel Labrwr; a John (13 oed) yn brentis crydd. Cawn sôn am John nes ymlaen eto.

Addysg mewn ysgol breifat cafodd e – dan ofal Mr Forrester yn Pwllhai. (O. Beynon Evans JP CTA 1918).

Mae enw Mr James Forrester, Pwllhai yng nghyfrifiad 1851.

  • 6 James Forester HD m 56 Schoolmaster CGN Cardigan St Mary (1851)
  • Mary WI m 58 PEM Kilgerran (1851)
  • Morgan SO u 17 Moulder CGN Cardigan (1851)
  • Mary DA u Scholar CGN Cardigan (1851)
  • Cathrine DA u 13 Scholar CGN Cardigan (1851)

Ychydig o addysg ffurfiol gafodd Thomas (neu Ossos fel roedd e’n cael ei alw ar y pryd), oherwydd yn ôl y Byr-gofiant:

‘Pan yn un-ar-ddeg oed, cafodd ei osod i wasanaethu ar fwrdd un o’r llongau bychain oedd yn hwylio o borthladd Aberteifi i wahanol borthladdoedd Cymru…’   

Mae’n anodd credu erbyn hyn mai dim ond 11 oed oedd e yn dechrau gyrfa ar y môr. Mae na sôn fod ei fam gydag ef ar y daith gyntaf – bod hyn yn arferiad yn y cyfnod yma  – er mwyn cyflwyno bechgyn ifanc fel prentisiaid i fywyd y môr. (Yn ôl O. Beynon Evans JP eto)

Ond wedyn – yn ôl yr hanes – cafodd amser caled gan ei gyd-weithwyr ar y llong a phenderfynodd nad oedd am fod yn forwr. Gadawodd y llong a rhedeg i ffwrdd yn Aberdaugleddau. Heb lawer o arian aeth i Forgannwg a symud i Gwmbach, Aberdâr ble roedd ei frawd William eisoes yn byw. Ar ôl cyrraedd Aberdâr cysylltodd gyda’i fam trwy anfon pennill adref. Dyma, yn ôl traddodiad, oedd ei ymgais gyntaf i farddoni.

Pam Aberdâr? Beth oedd yn arbennig am Aberdâr?  Roedd Aberdar yn nodweddiadol o sawl cymuned yn y Cymoedd yn ystod y 19g – y pylle glo yn denu pobl o bedwar ban byd. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn 1801 – 1486 o bobl oedd yn byw yn Aberdâr.

Erbyn i Thomas Evans gyrraedd yn 1851 roedd y mil a hanner wedi codi i (15,000) 14, 998 ac wedyn dwblodd y boblogaeth i (33,000) 32, 299 erbyn 1861 a (38,000) 37, 704 erbyn 1871. I bob pwrpas, adeiladwyd cymuned cwbl newydd. Rhwng 1840 a 1870 y codwyd ysgolion, eglwysi a chapeli, y sefydlwyd y strwythurau gweinyddol a dinesig angenrheidiol, ffurfiwyd cymdeithasau diwylliannol o bob math ac y crëwyd patrymau trafnidiaeth ar hyd ac ar draws y cwm. [BR t. 4]

Yn ôl Bobi Jones: yn sgrifennu yn Barddas Medi-Tach 2007, t. 14

“Aberdâr ar y pryd oedd, o bosib, y dref ddosbarth-gweithiol, o’i maint, fwyaf diwylliedig yn y byd. Yr oedd yn ferw o ddiwylliant:    gweisg a’u cynnyrch, llenorion, corau, diwinyddion praff, cyfarfodydd diwylliannol, cartrefi le yr oedd trafodaethau deallol praff.”

Tra bo gwaith i gael yn y pyllau glo a chyfle i gael cyflog uwch – yn naturiol roedd rhai yn fodlon mentro a symud o’r cymunedau gwledig gorllewin Cymru i’r Cymoedd, ac roedd Aberdar yn esiampl da o’r cynnydd bwrdeistrefol hyn.

Cyn sôn am Thomas Evans  fel bardd poblogaidd ei gyfnod, rhaid sôn am ei ‘yrfa’ fel pregethwr. Oherwydd erbyn 1859 roedd wedi dechrau pregethu. Yn ôl y Parchg William Harries, Cwmbach (yn sgrifennu yn 1907):

 “Diau genyf, oni bai y brofedigaeth a’i cyfarfyddodd y buasai yn fyw heddyw, ac yn un o feirdd a phregethwyr goreu ei oes a’i genedl.”

Oni bai am y “brofedigaeth a’i cyfarfyddodd “ –  beth rhwystrodd e rhag gyrfa llewyrchus yn y pwlpud?  Mae rhaid fod rhywbeth wedi mynd o’i le – wel do rhywbeth mawr, achos cafodd ei gloi lan yng ngharchar Caerdydd! Mae hanes wedi bod yn garedig iawn i Thomas Evans  am y mater yma, ac wedi cadw’n weddol dawel. Dyw hi ddim yn hawdd darganfod beth yn union ddigwyddodd. Sdim byd o gwbl yn y Byr-gofant am hyn wrth gwrs.

OND mewn erthygl yn Seren Gomer yn 1905 (40 mlynedd ar ôl ei amser sylwer)  mae y Parchg Thomas Morgan, Skewen yn sgrifennu:

“Cymerwyd yr achos i’r llys cyfreithiol, ac er i 21 o ddynion ddwyn tystiolaeth ei fod yn y gwaith ar y noson arbennig y cyhuddiad, sef ‘Noson Ffair y Waen’, eto’i gyd aeth y ddedfryd yn ei erbyn, [nid yw’n esbonio beth oedd y cyhuddiad]. Yn hytrach na thalu yn ôl dedfryd y gyfraith – glaniodd Thomas Evans yng ngharchar Caerdydd. Gosodwyd ef mewn cell llaith ac oer, a dyma pryd cafodd anwyd a drodd yn darfodedigaeth. Parhaodd i dystio hyd y diwedd ei fod wedi cael cam. Effeithiodd hyn yn niweidiol iawn ar ei iechyd a’i ysbryd. Bu yn hir amser yn methu gweithio ond ychydig.”

Felly, er bod y digwyddiad yma wedi arwain yn uniongyrchol at ei farwolaeth yn ŵr ifanc iawn yn 25 oed mae’n rhyfedd pam fod y mater wedi’i gael ei anwybyddu.

Mae’r Parchg William Harris, gweinidog yn Cwmbach ar y pryd, ac un oedd yn nabod Thomas Evans yn dda, yn trafod rhai o sylwadau’r erthygl flaenorol (2 flynedd yn ddiweddarach) (15.3.1907 Seren Cymru) – ond eto heb ddatgelu beth oedd y cyhuddiad :

“Credwyf nad cywir y syniad mai y Cell llaith ac oer fu y gwir achos o’i afiechyd maith a’i farwolaeth gyn-amserol. Bum yn ymddiddan ag ef droion ar y mater, ac ni chwynodd wrthyf un amser am leithder nac oerni y Cell.Yn lle ymwroli yn ngwyneb yr amgylchiadau, ymollyngodd i ofidio, a throdd cyn hir yn ddarfodedigaeth.”

Beth oedd yr amgylchiadau, yma?

Edrychais ar restrau pobl yng ngharchar Caerdydd o gwmpas 1859–60 (ar y we) ond methais i weld yr enw Thomas Evans. Ond yn y Merthyr Telegraph 24.12.1859

I ffwrdd i Garchar Caerdydd

o dan y pennawd Committals to Cardiff Gaol: wele “Thomas Evans, Aberdare, collier, for refusing to pay to the illegitimate child of Mary Davies.”

Mae’r enw, a’r lle a’r swydd yn matcho – a’r dyddiad. Tybed a ydwy i ar y trywydd cywir fan hyn? Dylen i bwysleisio ac ailadrodd y frawddeg:  “Parhaodd i dystio hyd y diwedd ei fod wedi cael cam.” Faint o amser a dreuliodd e yn y carchar? Wel cyfnod byr siwr o fod oherwydd y dystiolaeth nesaf sydd gen i o’i fywyd yw Cyfrifiad 1861:

Cyfrifad 1861

Roedd y teulu yng Nghwmbach cynnwys fe a’i frawd (y ddau yn lowyr) a’u mam Elizabeth, erbyn hyn yn widw, 62 oed ac wedi gadael Aberteifi). Roedd William Hughes, glowr, 33 oed o Langyfelach yn aros yno.

Cafodd Thomas Evans mwy o lwc ar ôl dod mas o’r carchar: Yn ôl Thomas Morgan, Skewen “O bosibl mai efe oedd bardd ieuanc mwyaf llwyddiannus yn eisteddfodau Deheudir Cymru rhwng 1860 a 1864” (SG 1905 TM). Enillodd 18 gwobr mewn gwahanol eisteddfodau a chyfarfodydd cystadleuol”.

Gyda llaw – falle bo chi wedi sylwi mai Thomas Evans rwyf wedi galw ein cyfaill hyd yn hyn (ar y cyfan). Y rheswm am hynny yw mai nid Telynog oedd ei enw barddol ar y cychwyn, ond Coch y Berllan. Ymddangosodd sawl cerdd yn y papurau lleol dan yr enw yma. Ond yn Awst 1862 dyma Thomas Evans yn cyhoeddi :

Telynog tawel ei anian, – yn awr,

Ac nid Coch y Berllan

Enw arall, hyfwyn eirian,

O’r newydd yn rhydd ddaeth i’m rhan.

 Y Gwladgarwr 2 Awst 1862.

Ac fel Telynog mae fe wedi dod yn enwog. Mae mwyafrif o’i gyfansoddiadau yn y gyfrol:  Barddoniaeth Telynog (1866). Mae’n cynnwys dros gant o gerddi:

  • 11 pryddest : ar ystod eang o destunau digon exotic i ni heddi, megis: Dinystr yr Alabama; Dychweliad y Genedl Iddewig, Gwladgarwch y Pwliaid; Rhyddhad Caethion America
  • O dan y pennawd Caniadau mae na 31 o gerddi, gan gynnwys Yr Haf  (sydd yn Y Flodeugerdd Gymraeg (W J Gruffydd)

Fe gladdwyd tlysni anian

Ym medd y gaeaf du,

A’r gwynt rydd brudd alargan

Mewn oer gwynfannus gri:

Ond ha! daw’r haf toreithiog

A bywyd yn ei gôl,

A thaenau flodau gwridog

Ar wyneb bryn a dôl.

 

Mae’r goedwig mewn hardd unedd

Yn gwisgo mantel werdd,

A’r haf sydd ar ei orsedd

Yn chwarae tannau cerdd;

Mae’r delyn gynt fu’n hongian

Ar helyg gaeaf gwyw

Yn rhoddi miwsig allan, –

Ust! Clywch! Mae’r byd yn fyw!

ond yr enwocaf siwr o fod yw: ‘Prudd-gan : a gyfansoddwyd pan yn glaf ar draeth Aberteifi sy’n dechrau fel hyn:

Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd,

Yn araf, araf wywo;

A’r blodeu eraill oll a chwardd,

Tra mi fy hun yn wylo:

Pan dyr y wawr, bydd perlyn gwlith

Ar ben pob un o’r blodau;

A minau’r eithriad yn eu plith,

Ac eto’n fyw fel hwythau.

Er mai hon yw’r gerdd enwocaf o’i eiddo, ac yn cael ei chynnig fel rhywbeth nodweddiadol o’i gynnyrch, roedd e hefyd yn hoffi cyfansoddi cerddi digrif.

  • 13 o rhain: gan gynnwys: Pa beth sydd i’w wneud o’r hen ferched? sy’n cynnwys llinellau megis:

Wel, ebai rhyw hen lanc, ‘alltudiwch hwynt ffwrdd,

I oror bellenig Siberia,

Yn heidiau tafodrydd, fel gallont gael cwrdd,

I siarad bob un am y mwya …’

 

Ond, chwarae teg, mae’n gorffen

Mi gefais orchymyn pan yn yfed te.

I ofyn un peth dros ‘Hen ferched;’

Os na wnaf ei ofyn, gwae byth i fy siol,

Dywedent y tynent fi’n ddarnau,

A dyma fo ‘rwan, fel na bo dim lol,

‘Pa beth sydd i’w wneyd o’r ‘Hen Lanciau?’

Cerdd poblogaidd arall oedd Fe ddaeth y gath o’r cwdyn

Eis eilwaith i garu rhyw rhoces lled hy’,

Ha! mi gofiaf am y feidan,

Gofynais, ‘Pa faint yw eich oedran chwi?’

A dywedodd ‘Dim ond dwy ar hugain;’

Ond ar ol i mi chwilio llyfrau’r plwy –

Ha! ha! ha! ‘rwy’n methu a pheidio a chwerthin,

Mi gefais ei bod hi yn ddeugain a dwy.

Fe ddaeth y gath o’r cwdyn.

 Mae teitlau rhai o’r lleill yn awgrymu y math o hiwmor smala oedd yn boblogaidd yn y cyfnod yma, gan gynnwys : Un rhyfedd i’w Shon wedi meddwi, Cân y Fodrwy Briodasol, A glywsoch fod Abertawe wedi sudddo?  ; a  Cân y Chwain

  • 46 o gywyddau ac englynion a gyfansoddwyd ar achlysuron megis genedigaethau, marwolaethau a digwyddiadau lleol.
  • Yr Afon (pryddest), buddugol yn Eisteddfod Ffynnon Taf.
  • Elen Glan Teifi (rhiangerdd) (buddugol yn Eisteddfod Ffynnon Taf).
  • Gostyngeiddrwydd (pryddest) (buddugol yn Eisteddfod Undebol y Bedyddwyr, Aberdar, Nadolig, 1860)
  • Tymmer Ddrwg (pryddest) (buddugol yn Eisteddfod Abertawe, yn 1861).
  • Dyffryn Aberdar (englynion) (buddugol yng nghystadleuaeth y Gwladgarwr, 1862).
  • Albert Dda (buddugol yn Eisteddfod Undebol y Bedyddwyr, Aberdar, 1862).
  • I flwch casglu Tabernacl, Pontypridd (buddugol yn Eisteddfod Undebol Pontypridd, Sulgwyn, 1862).
  • Pa beth sydd i’w wneyd o’r hen ferched? (Cân ddigri) (buddugol yn Eisteddfod Pontypridd, Sulgwyn, 1862).
  • Y Lloer (buddugol ym Mhontardawe, Nadolig, 1862).
  • Y Diweddar Barch. Daniel Jones, Tongwynlais (buddugol yn Eisteddfod Undebol, Pontypridd, 1863).
  • Ardalydd Bute (cyd fuddugol â Gwilym Elian, Caerffili, Mai, 1863).
  • Marchnad caws Caerphili (cân ddigri) (buddugol yn Eisteddfod Caerphili, Medi, 1863).
  • Trachwant (buddugol yng Nghaerphili, Medi, 1863).
  • Cân y Chwain (cân ddigri) (buddugol yn Eisteddfod Glynnedd, Nadolig, 1863)
  • Rhyddhad y caethion (englynion) (buddugol yn Troedyrhiw, Nadolig, 1863).
  • Dinistr yr Alabama (pryddest), buddugol yn Eisteddfod Merthyr, 1864
  • Ymdrech a gwladgarwch y Pwyliaid i gyrhaedd eu hanibyniaeth (cyd-fuddugol â D. Morganwg, Yn Eisteddfod y Porth, Glynrhondda, Gwener y Groglith, 1864).
  • Chwech englyn unodl union, cyrch gymeriad, ar farwolaeth D. Williams, Sulgwyn, 1864).
  • Ar farwolaeth D. Williams, ysw. (Alaw Goch). Buddugol ym Mhontypridd, Sulgwyn, 1864
  • Dic Shon Dafydd (buddugol yn Eisteddfod Aberhonddu, Mehefin, 1864).
  • Cân y Fodrwy Briodasol (i fod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1865).

Fel bardd llwyddiannus ei gyfnod roedd Telynog hefyd yn cael ei wahodd i feirniadu:

Ond nid pawb oedd yn hapus bob tro gyda’i ddyfarniadau. Roedd un ‘bardd’ lleol , oedd yn cystadlu bob cyfle, ond byth yn ennill, wedi cael llond bola, a phenderfynodd sgrifennu llythyr i’r wasg yn lladd ar y beirniaid (a bywyd yn gyffredinol). Os do fe: Penderfynodd Telynog ei ateb mewn llythyr hir, hir (na’i ddim darllen hwnnw heno neu fyddwn ni yma tan bore fory). Ond ma fe’n cloi gyda’r penillion canlynol. Teitl ei lith yw:

Shoni SguborFawr, Melancthon a’r Eisteddfodau Bach,

a fel hyn mae’r bardd aflwyddiannus yn ei chael hi:

 

 

Penillion: 1863 25.10 Y Gwladgarwr: ar y diwedd:  [Ni chaiff ddim yn rhagor ymddangos ar yr ymryson hwn – Gol.]

Un o’r cerddi olaf a gyfansoddodd oedd ‘Dinistr yr Alabama’. (Llong a ddrylliwyd yn Rhyfel Cartref America oedd yr Alabama). Erbyn hynny, roedd yn ŵr gwael, yn dioddef o’r darfodedigaeth. Yn ei lythyron at ei gyfaill, Dafydd Morganwg, cawn syniad o’i gyflwr truenus:

e.e:  ‘Nid wyf yn gallu cyfansoddi dim yn awr; yr wyf yn nychu yn gyflym, gyflym; yr wyf yn addas heddyw i gadw cwmni yr edlychod hyny yn Nyffryn Ezecial. Yr wyf yn meddwl myn’d i Lanwrtyd yr wythnos nesaf, i aros ychydig, i gael gwel’d a wna ffynnon les i mi’.

Dafydd Morganwg

Dafydd Morganwg oedd yn gyfrifiol am gasglu a chyhoeddi ei gerddi. Ef yn ddiweddarach a sgrifennodd Yr Ysgol Farddol (1869) – llawlyfr ar reolau’r gynghanedd. Ar 22 Tach 1864 dyma Telynog yn sgrifennu ato:

‘Nid wyf yn gwybod pa fodd i ofalu am fy iechyd, a chyfansoddi ar yr ‘Alabama’. Ni fuaswn yn meddwl am hyn, oni bae dy daer gymhellion’.

Ond fe orffennodd y gerdd ac anfon i mewn i Eisteddfod Merthyr, Nadolig 1864. Derbyniodd y wobr a chanmoliaeth uchel am ei bryddest. Yn rhyfedd, mae na ddisgrifiad o’i ymweliad â’r Eisteddfod yma (ei ymweliad olaf i unrhyw eisteddfod?) gan ddau fardd ifanc sy’n taflu rhywfaint o oleuni ar ei boblogrwydd yn y cyfnod. Roedd Telynog yn dipyn o seleb i’r beirdd ifanc:

Y Gwladgarwr 14.1.1865 Dyma ddisgrifiad Llwydwedd a Deheufardd o’r achlysur:

 “Ni chawsom y pleser o weled y brawd ieuanc hwnw sef [Telynog] o’r blaen. Y mae rhywbeth yn wir athrylithgar yn ei edrychiad. Yr oeddem ni ein dau o’r farn ni buasai Telynog yn siarad a phobl mor wael a ni ein dau wedi disgyn o’r esgynlawr, pe bae cyfle genym i fyned yn agos ato.

“Gyda bod Telynog wedi disgyn o’r esgynlawr, gwaeddodd y dorf yn unllais unllef arno i adrodd un o’i ganiadau, ac enwodd rhai ohonynt y ‘Gân ar y Fodrwy Briodasol.’ Aeth Telynog yn ei ol i’r esgynlawr, ac adroddodd  gân yn nghylch ‘Bifflcorau Morganwg ar Gwmin Hirwaun’, a pharodd  i’r gynulleidfa fawr oedd yn bresenol chwerthin eu hochrau yn glaf.

Ond mae’r adroddiad yn gorffen gyda’r frawddeg yma: ‘Y mae ychydig o welwedd afiechyd i’w ganfod ar wynebpryd Telynog.’

Wedi’r Eisteddfod yma, gwaethygodd ei iechyd yn gyflym a bu farw ar 29 Ebrill, 1865.

Dyma’r unig lun sydd i gael o Telynog. Rhaid gweud nad yw’n edrych fel gŵr ifanc 25 oed!

(Thomas Evans; 8.9.1839 – 29.4.1865)

Roedd y galar o golli bardd addawol mor ifanc yn enfawr. Dyma sut ymddangosodd y newyddion am ei farwolaeth yn : Y Gwladgarwr ar 6 Mai 1865

Nid oes achos i mi i geisio dadblygu mawredd, talent, athrylith ac hyawdledd,  fy nghyfaill anwyl, oherwydd mae y gwerth priodol wedi ei osod eisioes ar deilyngdod ei farddoniaeth anghydmharol, gan yr enwocaf o brifeirdd Cymru, sef Esyllt, Islwyn, ac Emlyn. Yr oedd Telynog yn un o brif-feirdd Cymru, yn wylaidd a boneddigaidd yn mhob ystyr o’r gair  – yn un a gerid ei bresenoldeb gan bob dosbarth – yn heddychol a diddichell.

Arwydd o statws Telynog ymhlith beirdd y Cymoedd oedd iddynt gyfeirio ato gan ddefnyddio llinellau a gyfansoddwyd yn wreiddiol er cof am Byron – y bardd Rhamantaidd enwog hwnnw – yr Arglwydd Byron:

Yes, Telynog is gone,

Gone like a star that through the firmament,

Shot and was lost, in its eccentric course, Dazzling perplexing.

 

ac aralleiriwyd llinellau a sgrifennwyd yn wreiddiol gan Byron ei hun:

Poor Telynog while life was in its spring,

And thy young muse just waved her joyous wing,

The spoiler came, and all thy promise fair

Has sought the grave, to sleep for ever there.

Roedd y galar a’r teyrngedau yn llifo mewn i’r papurau lleol: Yn nol Dewi Wyn o Essyllt:

 “Ni ddarllenasom ni erioed ddim yn fwy effeithiol, dymchweliadol, a gorchfygol mewn pathos, tyner, prudd, a thoddedig, na’r “Pruddgan’ y bardd pan oedd yn rhodio ar lan mor Aberteifi; wylasom ddagrau yn hidl wrth ei ddarllen, dymchwelwyd ein teimladau yn gwbl, a bu gorfod i ni ymatal ar ei hanner. O resyn fod un mor annwyl, mor hynaws, mor obeithiol, mor wir awenyddol, mor fawr, mor alluog, wedi ei gipio oddi arnom yn mlodau ei ddyddiau.

Sdim syndod fod chwe marwnad i Delynog wedi eu cyhoeddi yn y Gwladgarwr,  wythnos wedyn  (Mai 13 eg, 1865) – yn rhifyn oedd yn cynnwys adroddiad o’i angladd. Claddwyd Telynog dydd Mercher, Mai y 3ydd: “diwrnod tywyll, cymylog, a gwlawiog iawn dros y wlad yn gyffredinol; ond yr oedd y cymylau a’r cawodau yn ddyblyg yn y Cwmbach …

Mae restr faith o weinidogion a beirdd oedd yn bresennol yn yr angladd yn dilyn: un enw sydd o ddiddordeb arbennig heno efallai yw Ossian Gwent sef John Davies (arall). Bardd arall o Aberteifi a aeth i Gwm Rymni yn ifanc, a chael bywoliaeth yn y gwaith haearn.

Yn syth ar ôl ei farw penderfynodd ei gyfeillion ymhlith beirdd Aberdâr fod rhaid cyhoeddi cyfrol o’i waith. Aeth apêl cyffredinol mas am gopiau o gyfansoddiadau Telynog. Galwodd ei ffrind pennaf a golygydd y llyfr (Dafydd Morganwg) ar ysgrifenyddion eisteddfodau i anfon cynnyrch Telynog ato. Achos y gred gyffredinol oedd  – nad oedd Telynog ei hun wedi cadw copi o’i weithiau, bod y cyfan ar ei gof – a nawr wedi diflannu am byth. OND yn y LLG mae na ‘exercise book’ gyda’i enw a’r dyddiad 1860 ar y clawr yn llawn o’i gerddi – ac am wn i yn ei lawysgrif ei hun. Cyflwynwyd y llyfr i’r LLG yn 1912. Mae’n rhaid fod Telynog wedi cuddio hwn yn rhywle.

Cyhoeddwyd casgliad o’i gerddi Mawrth 1866.

… “y maent yn mhlith y pethau goraf ar ffurf barddoniaeth ag a gynyrchodd y wasg Gymreig nemawr bryd erioed”    –  medd yr hysbyseb.

17 Mawrth 1866 Y Gwladgarwr (isod)

Yn sicr roedd gwaith Telynog yn hynod boblogaidd, ac hynny am gyfnod hir. Arwydd pendant o hyn yw’r ffaith i’r llyfr gyrraedd 5 argraffiad:

Arg 1 1866 Merthyr Tydfil, Joseph Williams, Mae na sôn fod 800 wedi archebu copiau ymlaen llaw. Yn sicr mae 300 o enwau yn y rhestr o danysgrifwyr. Anfonwyd 50 copi i’w frawd David Paul Evans, Aberteifi. Aeth sawl copi draw i America; Arg 2 1870 Cwmafon, David Griffiths; Arg 3 1886 Cwmafon, Ll Griffiths ‘Y mae y galwadau lluosog a pharhaus sydd am Farddoniaeth yr anwyl Telynog, yn cyfiawnhau y Cyhoeddwr presenol am ddwyn allan y Trydydd argraffiad. Creda y cyhoeddwr fod cannoedd lawer ar hyd a lled y wlad a garent gael cynhyrchion barddonol Telynog yn eu llyfrgelloedd.’; Arg 4 1915?; Arg 5 1927 Caerfyrddin, W. M. Evans a’i fab

Tra bod rhai yn brysur yn paratoi’r llyfr, roedd eraill ymhlith ei gyfeillion barddonol yn Aberdâr yn awyddus i osod carreg ar ei fedd: ac er bod ei fam yn bwriadu defnyddio’r arian yn weddill ar ôl talu’r argraffydd, penderfynwyd gwahodd tanysgrifiadau.

6.1.1866 Y Gwladgarwr

Cyhoeddwyd  rhestr o enwau yn y wasg lleol. Ar y cyfan, symiau o swllt neu hanner coron oedd yn cyrraedd. Er bod sawl un wedi addo cyfrannu roedd yr arian yn araf yn dod mewn, ac erbyn mis Mai roedd ambell un yn gofyn ble oedd y gofgolofn?  £12 oedd cost y garreg ond wrth gwrs roedd eisiau sawl 6ch a swllt i gyrraedd £12. Er fod yr arian yn araf yn dod mewn, pan soniwyd am gystadleuaeth ar gyfer beddargraff ar gofgolofn Telynog dyma 29 o feirdd yn anfon eu hymdrechion. Gwilym Eilian (William Coslett) oedd yn fuddugol. [15.9.1866 Aberdare Times]

Ond eto – llinellau gan Howell Williams, Pantygerdinen, sydd i’w gweld ar flaen y gofgolofn.

Bedd Telynog ym mynwent Aberdâr

Dwy ddim yn gwybod beth ddigwyddodd fan hyn.

Englyn ar fedd Telynog

Dyma un rhestr o’r tanysgrifwyr a ymddangosodd yn Y Gwladgarwr ar 30.6.1866

  • Mr Lewis Watkins 0 10  0
  • B. John, (Dar Alaw) 0 5 0
  • T.Price, (Idris Nedd) 0 1 0
  • Miss E. David, (Llinos Cynwyd) 0 2 6
  • Mrs James, Bute Arms, Aberdare 0 2 6
  • Mr D, Rhoslyn Davies 0 2 6
  • Mr J. Griffiths, (E. G. Cynon) 0 1 0
  • Mr John Griffiths 0 1 9
  • Miss M. Williams, Stag Hotel, Trecynon O 2 6
  • Mr R. Mawddwy Jones 0 2 6
  • Mr Jonah Thomas 0 1 0
  • Mr D. I. Davies, British School 0 2 6
  • Parch W. Edwards, Trecynon 0 2 6
  • Parc W. Harries, Trecynon 0 2 6
  • Mr N. M. Jones, Cymro Gwyllt 0 10 0
  • D. Howells, Trecynon 0 2 6
  • Ll. Jones, (Tisilio) 0 2 6
  • Thomas, (Gwynfead) 0 1 0
  • Windsor H. Jones, Abergwawr Brewery 0 10 0
  • Walters, Agent 0 5 0
  • James, Bute Arms 0 2 6
  • Alffred Davies 0 1 0
  • W. Josuah, (Caerwyson) 010 0
  • Thomas, Stone Cutter, Trecynon 1 0 0
  • Morgan, (Llyfnwy) 0 5 0
  • Gwilym Gwent 0 5 0
  • Phillips 0 2 6
  • Owen, Trecynon 0 10
  • D. Williams, Stone Cutter, Tre-cynon 0 5 0
  • Parch M. Davies, (M. Glan Taf) 0 1 0
  • E. James, Glyn Neath 0 5 0
  • Mr Jenkin Jones. Pontypridd 0 2 6
  • Parch. W. C. Williams, 5s.
  • GwiIym Cyrwen, Is.
  • Jones, Clock Maker, Wind Street, Abardar, Is.
  • Morgan, Trecynon, Is. a
  • John Jones, (Eiddil Glan Gynon,) Is.

Unwaith y gosodwyd y gofgolofn yn ei lle – “Bedd Telynog” oedd testun sawl englyn a ymddangosodd yn y wasg lleol. Tra bod cymaint o alw am ei waith nid yw’n syndod efallai fod ei gerddi yn fyw yn nghof llawer – ac am hir. OND doedd popeth a sgrifennodd Telynog ddim yn plesio cofiwch. Ypsetodd e sawl un gyda’r englyn canlynol a gyfansoddodd i Gwm Rhondda:

CWM RHONDDA

Cwm Rhondda, dyma gwm domog, – cwm tarth,

Cwm twrf, cwm gorgreigiog;

Cwm llun y sarff, cwm llawn o s’og.

A chwm culach na cham ceiliog.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach dyma rhywun yn sgrifennu yn y Rhondda Leader:

When is the Welsh National Eisteddfod to visit the Rhondda? The idea of such a visit has been floating in my mind since that time; it will not give me rest until somebody convinces me of the impossibility of the visit, or satisfies me of its practicability. Now, when the battle of the sites is being waged between Carmarthen, Aberystwyth, and London, it appears to be an opportune occasion to bring the matter before the public. The Welsh National Eisteddfod has been more than once in the vicinity. It has visited Aberdare, Pontypridd, Merthyr Tydfil, and Mountain Ash. But it has never been held in this Valley. It is to be feared that when Telynog termed the Valley a “cwm tomog, and cwm culach na cham ceiliog,” the Rhondda people were persuaded to consider their home as an uninviting place to entertain their visitors, and outsiders too readily accepted the poet’s innocent banter as a deplorable fact. But the Rhondda is not such an impossible district as some outsiders, and even many insiders, consider it. If it is a ‘cwm tomog’, nature occasionally beautifies the blackest tip, and the ideas of the people are far from being as narrow as ‘cam ceiliog.’ It is one of our duties to prove for the sake of youth of the Rhondda, that it is not so black as it is often painted. I am under the impression that there exists up the hills a  considerable amount of latent talent, and that we can favourably compare with any similar district in moral and intellectual attainments. (18.5.1907 Rhondda Leader.)

O’n i’n gwybod fod stad o dai wedi’i henwi ar ôl Telynog yn Aberdâr, felly, yn ddiweddar, dyma anelu at y stad ac ymfalchio wrth weld yr enw ar ochr y ffordd.

Stad o dai yn Aberdâr

Gofynnais i rywun oedd yn torri clawdd gerllaw a oedd na blac i Telynog, y bardd, yn rhywle gerllaw. “Never ‘eard of him” ges i.

Ond fe ffeindio ni blac – mewn rhes o dai gerllaw. Dyma’r tŷ yn Bridge Road. Fe welwch y plac uwchben y drws ffrynt:

18 Bridge Rd., Aberdâr. Mae’r plac uwchben y drws ffrynt.

Carreg goffa i Telynog, 18 Bridge Rd., Aberdâr

Herbert Davies; John Davies (Pen Dar), D J Hughes Jones, James Phillips, D O Roberts (ysg. y Cymm), Kate Roberts (llywydd y Cymm), E J Williams, Tel, Ap Hefin (yn y cefn), John Davies, Iwan Goch), Parchg John Morgan (Bryn Seion), Miss Winnie Evans a Mr J R Evans, G and L (yn y cefn).

Ga’i dynnu’ch sylw at y ddynes yn y cefn ar y chwith. Neb llai na ‘Brenhines ein llên’ Kate Roberts. Hi oedd llywydd Cymmrodorion Aberdâr y flwyddyn arbennig honno.

O fewn 11 mis i’r digwyddiad yn Aberdâr roedd Cymrodorion Aberteifi wedi cael yr un syniad:

Lôn Eben, Aberteifi

Pennawd y Teifi-seid oedd: “Telynog and Ossian: Commemoration of two worthy sons of Cardigan. Tablet unveiled by the Archdruid.”

Syniad E. Walter Rees, rheolwr Banc Barclays Aberteifi oedd gosod y plac. Fe oedd Robbie McBryde ei gyfnod – fel ceidwad y cledd yn yr Orsedd rhwng 1913 a 1940. Ei enw barddol oedd Gwallter Dyfi (yn enedigol o Fachynlleth), a fe oedd ysgrifennydd Cymmrodorion Aberteifi ar y pryd. Gwrthododd Cyngor y Dref ganiatad i osod y tabled ar wal un o adeiladau cyhoeddus y dre [Guildhall] ond daeth J C Roberts i’r adwy a chynnig talcen ei siop yn Lôn Eben. Messrs Thos. Jenkins and Son, Glenview, oedd yn gyfrifol am y plac.

Ar 11.3.1927 casglodd pawb yng Nghapel Mair i gychwyn, a cherdded trwy Stryd y Priordy a’r Stryd Fawr tuag at Lôn Eben. Roedd plant yr ysgolion cynradd hefyd yn bresennol.

Dadorchuddiwyd y gofeb gan Archdderwydd Cymru, Elfed (Y Parchg Elfed Lewis, King’s Cross, Llundain). Cafwyd seremoni o ganu emynau ac anerchiadau ac wedyn symudodd pawb draw i’r Netpool ble roedd tyrfa arall wedi ymgasglu. Canwyd rhagor o emynau a chafwyd rhagor o anerchiadau …

Wedyn aeth pawb pwysig nôl i’r Blac Leion i gael te.

Elfed, Y Parchg J D Evans; Y Parchg T.Esger James; Maer John Evans; Y Parchg J Morgan (Aberdar); Y Parchg T J Rees (Trewyddel); Y Parchg D Evans (Drewen); Y Parchg Gwilym Morris (Peniwel, Cemaes); Y Parchg T. Lloyd (Llechryd); Y Parchg J Price (Ferwig); Y Parchg W H Jones (Gerazim); Y Parchg J Thomas (Penybryn); Y Parchg Eynon Morris (Penganm); Y Parchg D Moses Davies (Llandudoch); Y Parchg Dan Adams (Llechryd); Messrs J T Evans (Pearl), ysg.; J E Jones (Stafford Ho); Wm Thomas, Carningli; J Conwyson Roberts, L Oswald Jones (NP ); Cllr Samuel Young MA, D T Davies, JP, (Henllys); D Lewis Jones (Banc Barclays), a W R Jones, MA (Ysgol y Sir).

Os symudwn ni mlaen yn gyflym i 1966 (mis Mawrth) – 101 o flynyddoedd ar ôl marw’r bardd, wele bennawd arall yn y Teifi-seid: “Successful Telynog Night”: Noson oedd hon eto dan nawdd Cymmrodorion y dref, a phwy oedd yn cadeirio y noson honno ond W R Jones, yr is lywydd, yn absenoldeb Enoch Thomas BA, llywydd.

Cafwyd noson o ganu ac adrodd gan gorau ysgolion uwchradd Aberteifi a Phreseli a pherfformiadau  gan nifer o enwau mwy cyfarwydd inni efallai. Y sylwebydd oedd y Parchg Gomer Roberts MA. Canwyd Cân y Chwain gan Teifryn Rees.

  • Yfory Sion Crydd – Parti Ysgol y Preseli
  • Pa beth sydd i’w wneud â Hen Ferched? –David Davies
  • Yr Haf –Côr Ysgol Sir Aberteifi
  • Detholiad o englynion – Bechgyn yr ardal
  • Cân y Chwain – Teifryn Rees
  • Gwenno Fwyn Gu – Parti cyd-adrodd YS Aberteifi
  • Cywydd Y Lloer – Parti Cerdd Dant Ysgol Preseli
  • Pan ddaeth y gath o’r cwdyn – Elfyn Owen
  • Fy Nghariad – Teifryn Rees
  • Gostyngeiddrwydd –merched lleol
  • Adroddodd Gwynfi Jenkins deyrnged Crwys i Telynog

Uchafbwynt y noson siwr o fod oedd adroddiad o waith Crwys i Telynog, gan Mr Gwynfi Jenkins.

Cerddi Crwys: Y Pedwerydd llyfr (1944) tud. 48.

Telynog (wedi Eisteddfod Aberteifi, 1942)

ʼR wyf newydd ddod, Delynog hoff,

O’r dirion dref y’th aned,

A cherdded bûm ar hyd y traeth

Lle cenaist yn dy ludded,

Mae ôl dy droed ar raean mân

Yn herio’r môr a’i ddifrod,

Pan dreio’r llanw mawr fe saif

Dy ddagrau ar y tywod.

 

ʼR oedd yno lawer awen wyw

A chadair wag ddiarddel,

Blodau’r gerdd heb berlyn gwlith

Yn crino yn yr awel,

Nid oedd ond un blodeuyn bach

Drwy’r ardd na fynnai farw,

Un eithriad, dim ond un, a thi,

Delynog hoff, oedd hwnnw.

  • Côr YS Aberteifi: Blodeuyn Bach wyf fi mewn gardd

Daeth y cyfarfod i ben gyda diolchiadau gan Jacob Jones, Llechryd ac eiliwyd gan Y Parchg D. Osborne Thomas, BA BD.

Ble mae TELYNOG yn ffitio yn hanes beirdd Cymru? Dyma beth ichi eisiau gwybod.

Wel galla’i ddim ond dyfynnu yr Athro Brinley Roberts, cyn Athro Cymraeg Prifysgol Abertawe, cyn Llyfrgellydd LlGC, a brodor o Aberdâr  t.12

Tua 1854 hyd 1865; rhyw gwta ddeng mlynedd felly, oedd ei yrfa … [dim sôn ganddo fe chwaith am gyfnod Telynog yn y carchar!]  mae’n wir dweud iddo feistroli arddull farddonol ac eisteddfodol dderbyniol ei gyfnod a bod yn rhyfeddol o gynhyrchiol a llwyddiannus mewn oes fer. Bardd yr addewid fawr oedd Telynog i’w gyfoedion, ond y mae’n amheus a fyddai wedi cyrraedd y brig pe cawsai fyw …

… rhyddieithol yw arddull ei bryddestau a llawer o’i gerddi hir, a phrin yw ei ddychymyg barddonol. Y mae’n fwy llwyddiannus yn ei gerddi rhydd byrion ac efallai mai fel bardd caneuon a cherddi cellweirus, ‘digrif’ y byddai wedi gwneud enw iddo’i hun. Yr oedd yn englynwr medrus gyda phertrwydd ymadroddi cofiadwy a diau i nifer (tud 13) ohonynt fyw ar lafar am gyfnod… Dengys gyrfa T gryfderau a gwendidau addysg farddol yr eisteddfodau a’r cymdeithasau.

Wel dyna ei farn ef. Pe bai Telynog wedi byw gellid dadlau hefyd y bydde fe wedi addasu a datblygu ei waith fel roedd yr oes yn newid. Pwy a ŵyr?

Mae’r gair olaf yn mynd i Robin Gwyndaf o Barn, 1965:

          Mae’n wir y nodweddir corff mawr ei farddoniaeth gan lacrwydd ymadrodd, anaeddfedrwydd crefft ac absenoldeb y peth byw hwnnw sy’n rhoi gwerth parhaol ar gerdd. Ac eto, yn y mwyafrif mawr o’i ganeuon, mae pelydryn bach o’r harddwch awenyddol sydd ar brydiau’n eich dal; ceinder cynllun; addasrwydd delwedd; cymesuredd cymhariaeth. Fe’i delir yn aml ym maglau’r gynghanedd, ond ambell dro mae hithau’n llawforwyn ufudd iddo a’i gerddediad yntau’n orfoledddus, rydd …

[Yn seiliedig ar sgwrs i Gymmrodorion Aberteifi, yn festri Bethania, Rhagfyr 2017]

©  William H. Howells

Ffynonellau:

Llawysgrifau:

NLW 15672c: Anerchiad i’r ddau frawd H Wms, Pant-y-gerdinen a’i ddisgybl talentog Coch y Berllan  31.1.1960

NLW 10564c: Llythyr at J D Evans, 6 William St at Dafydd Morganwg

Gweddillion barddoniaeth Telynog oddi wrth Dafydd Morganwg 1-25

NLW 1065c  [presented by Revd J D Evans, Bwthyn, Pencader 11.6.1912]

Llythyr oddiwrth Wm Humphreys, Temerance Hotel, Pontypridd 8.11.1864.

LLYFRAU:

Tannau y Delyn Dorrwyd sef gweddillion barddonol Anghyoeddiedig Telynog. Tonypandy: Evans a Short, Swyddfa Seren Gomer, 1898. Aaron Morgan

Barddoniaeth Telynog (1866)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s