A oedd menyw a chanddi gydymdeimlad â mudiad y syffragét yn byw yn Feidrfair ym 1911? Rwyf wedi bod yn casglu enwau pobl sy’n gysylltiedig ag Aberteifi ers amser (dros 20,000) ac erbyn hyn rwyf wedi cyrraedd cyfrifiad 1911. O dan y cofnod ar gyfer Palmyra, Feidrfair (tŷ sydd yn dal yno heddiw), wele’r canlynol:
Mary Catherine Jones, Servant, single, 32 years old, born in Caernarfon, Bilingual
Mae hi wedi ysgrifennu ar draws ochr chwith y tudalen: ‘mistress from home’.

Tua’r un adeg roeddwn i’n darllen llyfr ro’n i wedi’i fenthyg o’r fan llyfrgell sef Diane Atkinson, Rise Up, Women! Bloomsbury, 2018. Ar dudalen 249–50:
The Women’s Freedom League and the Women’s Social and Political Union urged their members to refuse to supply their personal details to the Census Enumerators on the evening of 2 April 1911. Some forms were left empty, some women wrote in the column entitled ‘disabilities’ the word ‘unenfranchised’. Women were advised to spend the evening away from home to frustrate the Census. (Householders were obliged by law to complete the Census form, and made themselves liable to a fine of £5 or a month in prison if they refused.) Wealthy suffragettes opened their homes to Census resisters, and sympathetic heads of colleges filled their buildings with women who did not want to be at home. Some adventurous women hired gipsy caravans and spent the night out.
Ac eto ar dudalen 307:
Mrs Winefrede ‘Win’ Rix evaded the 1911 Census with her husband’s support: when he completed the form he gave only his details, omitting any reference to his wife, his daughter and their female servants.
Felly y cwestiwn mawr yw: a oedd y fenyw a oedd yn bennaeth y tŷ wedi mynd oddi cartre dros nos fel protest neu wedi mynd bant ar wyliau byr? Y cwestiwn cyntaf, wrth gwrs yw pwy oedd hi? Gan nad yw ei henw yn y cyfrifiad mae’n anodd gwybod.
OND fel mae’n digwydd yn Adroddiad Capel Bethania (Bedyddwyr) ar gyfer 1912, sy’n rhestru cyfraniadau’r aelodau yn ogystal a’r rhai a fu farw yn ystod y flwyddyn mae’r wybodaeth ganlynol:
Mynegiad Eglwys Bethania am y flwyddyn, 1912. Marwolaethau yn y flwyddyn 1912
13 Gorffennaf Margaret Jones, Palmyra 64 oed
Ai dyma’r syffragét, tybed?
Os oes rhywun mas yna sydd yn gyfarwydd â hanes y mudiad fu’n brwydro i gael pleidlais i fenywod yn sir Aberteifi ar ddechrau’r 20fed ganrif rhowch wybod.