
Arthur Clougher (1864–1932)
Gwerthwr papur newydd, llyfrau a nwyddau papur , 18 Stryd Fawr. Cynghorydd ar Gyngor y Dref. Maer yn 1901–02 a 1916–17. Byw yn Brooklands, Pendre.

John Daniel (1861–1923)
Gwerthwr dodrefn yn 19 Stryd Fawr. Cynghorydd ar Gyngor y Dref. Maer 1904–05, 1914. Gwarcheidwad y Tlodion (c.1912).

Picton G. Davies (1885–1970)
Gwerthwr nwyddau haearn. Codwr canu yng nghapel Bedyddyr Bethania o 1916. O 1916 tan 1920 fe oedd arweinydd a hyfforddwr Côr Pobl Ifanc Aberteifi, ac enillodd nifer o wobrau yn yr eisteddfodau lleol; fe oedd arweinydd y côr pan fu’n canu yn seremoni agor Ysbyty’r dref. Roedd yn arweinydd y gân mewn sawl Cymanfa, ac yn gyfrifol am nifer o ddarlediadau ar gyfer y radio (Caniadaeth y Cysegr) a’r teledu o Bethania.

Capt. James Ellis (1810–95).
1848 capten yr Éclair; 1851 capten yr Heatherbell. Ymddeolodd yn 1881. Byw yn rhif 9 Stryd y Castell.

Asa Johnes Evans (1810–88)
Cyfreithiwr a fu’n uwch bartner yng nghwmni Messsrs Asa ac Ivor Evans, cyfreithwyr, Green St. Cynghorydd ar Gyngor y Dref a gwasanaethodd fel maer yn 1875 a 1876. Rhyddfrydwr mewn gwleidyddiaeth ac aelod o’r Bedyddwyr. Cyfreithiwr dros Undeb y Bedyddwyr am nifer o flynyddoedd.
Pobl Aberteifi 2: un mewn cyfres i gofnodi wynebau pobl sy’n gysylltiedig â’r dre, gan ychwanegu ychydig nodiadau am bob un, lle fod hynny’n bosib. Bydd y testun yn newid fel bod mwy o wybodaeth a chywiriadau yn dod i’r golwg, ond bydd y ffeithiau yn aros. Os oes gwybodaeth ychwanegol gyda chi, neu os oes lluniau gyda chi yn yr atig, byddwn yn falch o glywed gennych.