Pobl Aberteifi 8: John Young; Samuel Young; Wm J. Williams; David Williams; Mary Wilson


John Young (1816–3.12.1887) a’i wraig Hannah (g. 1814)

Yn wreiddiol o Ferwig. Crydd yn gweithio yn Stryd William. Aelod o Gapel Bethania. Ei mab hynaf oedd Samuel (isod).

Samuel Young (1851–19.02.1928)

Mab John a Hannah (uchod). Priododd 1) Ellen Griffiths yn 1878, a 2) Minnie Ridgeway yn 1908. Graddiodd o Rhydychen. Bragwr yn Pendre. Byw yn Bronwydd House, Stryd y S Mair. Cynghorydd ar Gyngor y Dref. Maer Aberteifi yn 1908 a 1921. Aelod yng Nghapel Bethania.

William J. Williams (18.05.1864–14.02.1942)

Ganwyd yn Manian Fawr, Llandudoch. Cyfreithiwr. Aelod o Gyngor y Dre ym 1891. Maer yn 1896. Rhyddfrydwr mewn gwleidyddiaeth. Aelod o Gapel Bethania. Byw yn Penralltddu.

David Williams (1867–1955)

Byw yn rhif 6 Greenfield Row. Yn 1911 ei waith oedd fforman mewn gwaith cerbyd a modur. Ysgrifennydd Capel Bethania am 52 blwyddyn. Cyn Lywydd Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion a Thrysorydd Bedyddwyr sir Aberteifi. Cyn ysgrifennydd Lodj Glanteify o’r Oddfellows. Aelod cynnar o Moose Aberteifi. Cynghorydd tref Aberteifi am 26 mlynedd a maer yn 1932–3. Claddwyd ym Mlaenwaun, Llandudoch.

Mary Wilson, Macclesfield, pedler, 25 oed ac yng ngharchar Aberteifi, 1871.

Llun prin iawn o tu fewn y carchar.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s