Pobl Aberteifi 9: Margaret Skinner; Dr Dan Rees; William Roberts; David M. Palmer; David J. Parry


Margaret Skinner (m. Tachwedd 1911)

Yn gyfrifol am y Sailor’s Home, 4 Pendre gyda’i gwr Richard Leonard. Aelod yn y Tabernacl (MC).

Dr Dan Rees, prifathro (m. 1938)

Yn wreiddiol o Landysul, Cafodd addysg yn ysgol Gwilym Marles, ac ysgol William James, Llandysul.  Undodwr; aeth i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin o dan Brifathro Evans. Coleg Aberystwyth am flwyddyn; gradd BA dosbarth cyntaf (Llundain). Prifysgol Llundain MA Clasuron. Rhydychen – enillodd Ysgoloriaeth Hibbert, ac aeth ag e i Berlin a Leipsig, ble cafodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Celtaidd. Yn olaf aeth i Baris am 6 mis gan astudio yn y Sorbonne. Prifathro 1897–1932; Priododd Elizabeth M Davies merch hynaf y Parchg John Davies, Amwythig a chafodd 1 mab. Prifathro Ysgol Uwchradd Aberteifi am 36 mlynedd. Ar ôl ymddeol symudodd i Hastings. Roedd wedi bod yn sâl am beth amser ac ar gyngor y meddyg aeth ar wyliau i Sicily. Bu farw ar y trên yn Lyon, Ffrainc yn nghwmni ei wraig. Amlosgwyd ei weddillion yn Ffrainc.

William Roberts (1862–1912), awdur yr emyn dôn Bryngogarth

Ganwyd ar 1 Hydref 1862 yn 21 Stryd y Castell. Dyn bychan, eiddil; dechreuodd ei yrfa fel saer coed, wedyn cadw siop yn Stryd y Bont. Dysgodd elfennau cerddoriaeth gan Benjamin Lewis, Blaenannerch. Feiolinydd a thelynor. Cyfansoddodd nifer o emynau ar gyfer plant. Bu farw yn 50 oed a chladdwyd ym Mlaen-ffos. Cyfansoddodd yr emyn dôn enwog Bryngogarth, a enwyd ar ôl cartref y Parchg John Williams, Bethania yn Stryd Napier.

Bryngogarth

David Morgan Palmer, prifathro (m. 17 Mai 1917, 84 oed)

Yn frodor o Lanfallteg. ‘Am nifer o flynyddoedd bu’n brifathro Ysgol y Coleg, ac wedyn am gyfnod byr prifathro yr Ysgol Uwchradd’. J W James

David John Parry, Netpool (1907–1976)

Clerc yn Swyddfa’r Weinyddiaeth Llafur ym Mhendre.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s