Pobl Aberteifi 10: James Thomas; Mrs James Thomas; Leonard V. D. Owen; Parchg Griffith Thomas; Elizabeth Tattersall


James Thomas ‘Jim Comyrsial’ (g. 30.06.1879)

Tafarnwr y Commerical, Pendre am nifer o flynyddoedd. Cynghorydd y Dre. Maer yn 1953.

Mrs James Thomas, Commercial. Gwraig James (uchod)

Leonard Victor Davies Owen (1888–1952)

Ganed yn ‘Lion Terrace.’ Athro Hanes ym Mhrifysgol Nottingham. Cafodd addysg yn Ysgol Llanymddyfri a Choleg Keeble, Rhydychen, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Hans Modern yn 1911. Enillodd Gwobr Stanhope yn Rhydychen. Yn ystod y Rhyfel Mawr gwasanethodd fel capten ym 5ed Bataliwn Milwyr Troed a Swydd Buckingham. Bu’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor a Sheffield cyn ymuno â Nottingham ym 1920 i fod yn Athro Hanes. Bu’n lywydd anrhydeddus Cymdeithas Hanes y Brifysgol, aelod o Gyngor Cymdeithas y Rholiau, ac yn aelod o Gymdeithas Cofnodion Lincoln. Ymddeolodd o Brifysgol Nottigham ym 1951. Roedd ganddo ddiddordeb mewn hanes lleol, a bu’n gyd-olygydd Cymdeithas Thoroton Notts, ac ysgrifennodd nifer o erthyglau ar ffynonellau’r llawysgrifau. Cyhoeddodd ‘The Connection between England and Burgundy during the first half of the fifteenth century’ (1909). ‘England and the Low Countries 1405-1413’ yn English Historical Review (1913).  Gyda R.L. Archer a A.E. Chapman, ‘The teaching of history in elementary schools’ (1916).

Bu farw ei frawd David yn ystod y Rhyfel Mawr ac mae ei enw ar Senotaff y dre.

Y Parchg Griffith Thomas (m.20.05.1876)

Yn enedigol o Lantwd. Ficer y dref.

Elizabeth Tattersall (m.11.07.1933, 76 oed.)

Athrawes yn yr Ysgol Uwchradd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s