
Arthur Morris (1908–1937)
DYN O ABERTEIFI YN MARW WRTH YMLADD YN SBAEN
Roedd Arthur David Morris yn fab i Arthur Owen a Martha Jane (nee Wigley), ac yn byw yn Claverley, 2 Rhes Gordon. Gweithiodd fel prentis i James, gwaith haearn, Pendre. Yn 1929, ac yntau yn 21 oed, mudodd i Ganada. Gwasanaethodd am ddwy flynedd a hanner yn y fyddin cyn setlo yn Blairmore, Alberta, ble buodd yn gweithio fel glowr. Ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol yn 1933.
Gadawodd Arthur Morris Canada yn 1936 er mwyn ymuno yn Ysgol Rhyngwladol Lenin yn Moscow. Ar ôl dechreu’r Rhyfel Cartref yn Sbaen aeth nifer o’r myfyrwyr draw i Sbaen, ac aeth Arthur ar draws Ewrop gan anfon cardiau post adref o lefydd megis Warsaw, Paris a Perpignan. Croesodd mewn i Sbaen ac ymuno â’r Americanwyr oedd yn ffurfio bataliwn Abraham Lincoln yn Albacete, hanner ffordd rhwng Madrid a Valencia.
Yn Chwefror 1937 ac yntau yn 29 oed bu farw Arthur yn Nyffryn Jarama, i’r de o Fadrid.
Ym mis Mai 1937 daeth y newyddion i’w fam a’r pennawd yn y Teifi-seid yn darllen: ‘Killed in Spain – Cardigan Man Dies Fighting for Spanish Government’. Disgrifiodd ei fam ef fel ‘bachgen hyfryd, wastad yn ymladd dros yr hyn oedd e’n credu oedd yn iawn’

Henry Harries Evans (1872–14.05.1916, 45 oed)
Yn enedigol o Solfa, symudodd i’r dre pan oedd yn ugain oed. Crydd wrth ei alwedigaeth, roedd ei weithdy yn Stryd y Santes Fair. Roedd yn athro cerddoriaeth penigamp ac yn arweinydd Cymdeithas Gorawl Aberteifi am flynyddoedd. Roedd yn artist cydnabyddedig hefyd – mewn olew a dyfrliw. Cyfansoddodd nifer o donau emynau ar gyfer y Cymanfa Ganu lleol dan nawdd y Bedyddwyr. e.e. e.g. Ar ei ben bo’r goron (1913); Cyfaill plant bychain (1909); Dewi (1914); Felinganol (1913); Induna (1913); Strathmore (1915); Ynys Dewi (1914). Roedd yn anghytuno â’r penderfynaid i ohirio Cymanfa Ganu 1915, ac yn rhyfedd bu farw ac fe’i cladddwyd ar ddiwrnod a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer cynnal y Gymanfa.

Ivor Rees (1935–84)
Yn enedigol o Landudoch. Byw yn Charlton House, Heol y Gogledd. Postman lleol, â diddordeb mawr mewn chwaraeon – golff, snwcer, pêl-droed , a rhedeg trawsgwlad. Chwaraeodd fel amddiffynwr chwith a chapten i dim Aberteifi pan oeddent ar ei gore.

Charles Alfred William Mason (1900–82)
Ganed yn Westminster. Ymladdodd gyda’r 13eg Fiwsilwyr Brenhinol yn ystod y Rhyfel Mawr. Ymunodd â staff yr Amgueddfa Brydeinig yn 1922. Symudodd i Aberteifi yn 1956 gyda’i wraig Frances. Perchnogion siop lyfrau ail law yn y Royal Oak, 1 Stryd y Cei.

Frederick David Lewis (m. Ionawr 1983)
Yn wreiddiol o Landrindod. Daeth i Aberteifi yn 1929. Actor amatur, Cynghorydd dre a maer yn 1952–3. Pysgotwr arbennig a chanddo siop offer pysgota yn Pendre. Golffwr a chwaraewr biliards medrus.