Pobl Aberteifi 22: Goronwy Moelwyn-Hughes AS (1897–1955)


Ganed Goronwy Moelwyn-Hughes yn Stryd y Priordy* ar 6 Hydref 1897 mab hynaf y Parchg J. G. Moelwyn-Hughes (1866–1944) gweinidog Capel Tabernacle. Mynychodd yr ysgolion lleol cyn ymadael am Brifysgol Aberystwyth. Yn ystod y Rhyfel Mawr roedd yn aelod o Gatrawd Gorllewin Efrog. Cafodd ei anafu a’i symud i Gorfflu’r Hedfan Brenhinol a gwasanaethodd fel peilot (1917–19). Dychwelodd i Aberystwyth, graddio fel BA, a Choleg Downing College, Caergrawnt ble graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn nhripos y gyfraith. Galwyd ef i’r bar yn 1922.

Ymladdodd heb lwyddiant mewn dau etholiad cyffredinol ar ran y Rhyddfrydwyr yn y Rhondda yn Nhachwedd 1934 a sir Aberteifi yn 1935. Etholwyd ef wedyn yn ddi wrthwynebiad mewn is-etholiad Caerfyrddin ym Mawrth 1941, sedd a gadwodd tan 1945. Yn 1950 etholwyd ef fel aelod seneddol Gogledd Islington fel AS Llafur ond ymddeolodd ar sail afiechyd yn 1951.

Apwyntiwyd ef fel comisiynyddd adeg trychineb Parc Burnden, Bolton pan laddwyd 33 o’r dorf mewn gêm bêl droed oherwydd y niferoedd. Argymhellodd y dylai caeau pêl-droed ddod o dan trwydded diogelwch .

*[Llwyn Onn yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography, er yn ôl Cyfrifiad 1901 Finch’s Sq. Roedd y teulu yn byw yn Glasynys, Priory St. yn 1911 (Cyfrifiad)]

Roedd Ronw yn dod nôl yn achlysurol i Aberteifi er mwyn gweld ei rieni. Dyma ffilm fer (mud) ganddo sy’n dyddio o 1933.

https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-haf-1933-cardigan-1936-online

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s