
“O Rhes Catherine, Aberteifi i Neuadd y Ddinas, Caerdydd”
Gadawodd John Ferrier, Rhes Catherine, Aberteifi yn fachgen 13 oed yn 1856. Capten llong oedd ei dad (John). Dechreuodd John (y mab) ei yrfa yng Nghaerdydd yn swyddfeydd Messrs. George Insole a’i fab. Symudodd wedyn i gwmni Burnyeat, Brown – un o’r rhai mwyaf llewyrchus yn Niwydiant Glo Cymru. Daeth yn rheolwr cyffredinol erbyn 1873, ac wedyn yn gyfarwyddwr . Yn gysylltiedig â chwmni Messrs. Watts, Watts (Cyf.) a’r United National Collieries (Cyf.) nhw oedd yn berchen pyllau glo’r Insoles-Merthyr a’r Ynysddu yng Nghwm Sirhowi. Pyllau glo oedd yn cynhyrchu miliwn a hanner o dunnelli o lo pob blwyddyn.
Roedd J. B. Ferrier yn aelod amlwg o Siambr Fasnach Caerdydd; is-lywydd yn 1886, 1893; llywydd yn 1894 ac is-lwydd eto yn 1897. Roedd yn frwd iawn dros hybu Arddangosfa Caerdydd, 1896. Ymddangosai yn aml o flaen Pwyllgorau’r Senedd fel tyst mewn cyswllt â datblygiad y rheilffyrdd ar draws y maes glo.
Roedd ganddo amser hefyd i wasanaeth Infirmari Caerdydd fel aelod o’r Pwyllgor Rheoli am sawl blwyddyn.
Ar un adeg roedd yn gyfarwyddwr Cwmni Glo Stêm Casnewydd-Abercarn (Cyf.) a Chwmni Stranaghan a Stephens (Cyf.) ond ymddiswyddodd o rhain oherwydd galwadau ei gwmnioedd eraill. Roedd Ferrier hefyd yn gyfarwyddwr . cwmni John Williams a’i fab (Cyf.)
O 1896 fe oedd is-lywydd Cymdeithas y Rhyddfrydwyr ac roedd yn frwd dros Ddiwygio Tollau. Ymddeolodd yn 1910. Bu farw mewn cartref nyrsio yn Llandrinod yn 1911 a’i amlosgi yn Amlosgfa Lerwpl.
Gwybodaeth o’r Evening Express, 29 Medi 1910.