Pobl Aberteifi 30: Owen Beynon Evans (1853–1920)


Dyma bortread ddidorol a ymddangosodd yn Papur Pawb 23 Mehefin 1900 mewn cyfres ‘Mae sôn amdanynt’

O ddyddiau’r Saer o Nazareth hyd heddyw, ychydig iawn yw nifer y prophwydi sydd yn derbyn anrhydedd yn eu gwlad eu hunain. Ond yn awr ac eilwaith, daw eithriad i’r rheol, megis yn nglyn a’r gwrth-ddrych siriol y ceir darlun ohono isod.

Ganed Owen Beynon Evans yn Aberteifi yn 1853 yn fab i D. Beynon Evans, dodrefn wneuthurwr ym mhrifddinas Ceredigion, a dygwyd y mab i fyny i’r unrhyw alwedigaeth….

Catherine Row oedd ei gartref yn 1891. Bu farw yn Delfryn, Napier St. yn 1920.

“Sefydlodd fasnach ar ei gyfri ei hun yn 1878, ac y mae wedi estyn cortynau ei breswylfeydd yn flynyddol oddiar hynny, nes y mae ei faelfa helaeth yn gyrchfan lluoedd eiddgar o ymchwilwyr am gelfi uwchraddol.
Y mae wedi taflu ei ddylanwad o blaid pob achos teilwng…
Y mae o ddiwylliant meddyliol uchel…
Un o blant yr Ysgol Sul a’r cwrdd llenyddol ydyw…
Wedi ennill llu o wobrwyon Eisteddfodol am draethodau…
Wedi gweithredu fel beirniad ar amryw achlysur…
Wedi ysgrifennu cryn dipyn i’r newyddiaduron lleol a llawer erthygl i’r cyhoeddiadau…
Mae yn ddirwestwr o’i febyd a chysylltodd ei hun a Themlyddiaeth Dda pan gychwynwyd hi yn y dref. Gwasanaethodd y prif swyddi yn Nheml Teifi…
Llafuria’n dilwyd i ennill ieuenctid yr oes i bleidio sobrwydd…
Mae yn aelod ffyddlon o Glwb yr Odyddion, ac am flwyddi wedi llanw’r swydd o ysgrifennydd gohebol dosbarth Carn Ingli (Trefdraeth).
Cynghorydd tre ers 1884; henadur yn 1895; cadeirydd y pwyllgor ariannol.
Maer Aberteifi 1889–90… Ynad Heddwch…
Aelod o bwyllgor y ddarllenfa rydd…
Diddordeb mawr yn ysgol ganolraddol y dref…; un o lywodraethwr lleol yr ysgol..; yn arolygydd dan y S. Kensington Science and Arts Department pan gymer arholiadau lleol le…
Aelod blaenllaw o’r Cyngor Sir…
Aelod pwysig o’r bwrdd claddu, a’r ‘Gwbert Syndicate’, sydd yn bodoli i’r amcan o wneud Gwbert-ar-y-mor yn lle atyniadol…
Un o gyfarwyddwyr y Cardigan Mercantile Company.

Rhyddfrydwr trwyadl… Perthyna i’r Clwb Rhyddfrydig yn Aberteifi…
Aelod o eglwys Capel Mair, diacon, arolygydd Ysgol Sul, sicrhaodd wledd flynyddol o de a bara brith i’r ieuenctid.”

Neb mwy siriol a charedig; nid oes segurdod yn ei natur, na chulni yn ei holl ffyrdd, a chwbl deilynga y goron o anrhydedd sydd ar ei ben. Oesed yn hir ar fin y Teifi,yn gynorthwy gwerthfawr i ddatblygiad gwlad y Cardi, ac i fod yn offerynol i wneud Cymru lan yn Gymru lanach.

Mae pobl fel hyn yn brin…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s