Pobl Aberteifi 31: Y Parchg John Herring (1789–1832)


Y Parchg John Herring (1789–1832)

Gweinidog Capel Bethania rhwng 1811 a 1832 oedd y Parchg John Herring. Bu farw ar ôl salwch a barodd rhai misoedd. Gadawodd wraig a saith o blant. Beth arall inni’n gwbod amdano?

Gallwch ddarllen y darn amdano yn Y Bywgraffiadur fan hyn: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HERR-JOH-1789

Wel mae un stori amdano ar ddiwrnod braf o haf ar un o’i deithiau pregethu lan i’r Gogledd iddo gwrdd â’r Parchg Christmas Evans. Cymerodd y gweinidog enwog unllygeidiog un edrychiad arno a dweud: ‘Na beth od i weld ‘herring’ ar ben mynydd’. Ateb y Parchg John Herring yn syth oedd: ‘Ddim mor od a gweld Nadolig yng nganol haf’.

Mewn fersiwn arall roedd y ddau ar ben y Frenni Fawr!

Mae’r stori wedi newid ychydig eto wrth iddo gael ei ail adrodd yn 1909:

Christmas Evans a John Herring, yn cyfarfod. Pan welodd Mr Herring ei gyfaill, gwaeddai: Rhyfedd, rhyfedd, cyfarfod a Nadolig ganol haf. “Ie” ie,” atebai Mr Evans, ond nid mwy rhyfedd na chyfarfod ag ysgadenyn byw ar ben mynydd. [Papur Pawb Hydref 02, 1909.]

Roedd ei gyfenw anghyffredin yn gyfle am sawl stori: Un tro lawr yn Llanboidy, roedd yn areithio mor arbennig, fel y gofynodd Mr Powell, Maes-gwyn, gw^r boneddig o’r ardal, ‘Pwy ydyw hwna?’  ‘Herring, Aberteifi, syr’, medde un gerllaw iddo. ‘Nage,  nid Herring’, medde fe, ‘ond Salmon ydyw.’ [Seren Cymru 07 Medi 1906]

Ond mae mwy iddo na chyfenw anghyffredin:

Yn 1836, pedair blynedd ar ôl ei farw cyhoeddodd D. Roberts, Llanidloes llyfryn er cof amdano, Derwen Wylofain.

Herring ddoniol Aberteifi,
Y gwrolaf ar y ma’s,
Roed i orwedd yn y beddrod
Gan y gelyn gwelw-las:
Dyma newydd trist, galarus,
Roddodd i fy nghalon glwy’,
Ac mae’n anhawdd i mi ganu,
Gan nad ydyw Herring mwy.

Mae’r Byrgofiant yn cynnwys amlinelliad o’i fywyd:

Ganwyd John i Thomas a Sarah Herring o blwyf Llanyspyddyd, sir Frycheiniog ym 1789. Bu farw ei dad pan oedd John tua 4 neu 5 mlwydd oed. Ailbriododd y fam a symudodd y teulu i waith haearn Pen-y-cae, sir Fynwy (Glyn Ebwy). Cafodd John waith gyda’r gof lleol.

Amlygodd ei hiwmor yn gynnar. ‘Sawl sect sydd?’ gofynnodd i’r gof rhyw fore. ‘Yr wyf fi yn meddwl mai pump sydd o werth, a mae’r pump yn ty ni. Annibynwr yw fy llysdad, mam yn Fethodist, af innau at y Cwacers a gwna fy nghath yn Wesleyad a’r ci bach yn Fedyddiwr.’ Un bore Sul aeth â’r ci gydag ef i weld Bedydd yn afon Sirhowy ger Tredegar gan benderfynu talfu’r ci i’r dŵr pan fyddai y Parchg Edward Davies yn pregethu. Ond nid felly y bu. Fe gafodd ei argyhoeddi a fe cafodd ei fedyddio ac nid y ci. Derbyniwyd yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr, Tredegar yn 1804. [Siloh medd y Parchg B. James (Edwards, Bethania, t.30).

Mae’r gweddill yn hanes…

Dechreuodd bregethu yn 16 oed. Drwy ddylanwad y Parchg John Hier, Basaleg derbyniwyd ef fel myfyriwr i Goleg, Bryste pan oedd tua 21 oed. Roedd wedi cael digon ar ôl blwyddyn. ‘Pa ddaioni yw Hic, Haec, Hoc, i achub eneidiau?’

Ar daith bregethu y daeth yn ei dro i Fethania a chael galwad. Bu yno o 1811 tan ei farw yn 1831.

  • Roedd John Herring yn bregethwr arbennig.

“ yn un o’r pregethwyr mwyaf doniol a phoblogaidd, yn ei ddydd…”

“Yr oedd yn feddianol ar amgyffredion toreithiog, amledd geiriau, hyawdledd naturiol ac effeithiol, cô gafaelgar, ystumiau gweddus, llais soniarus; ac

‘Mewn ffraethineb neb yn uwch,
Ni bu gôf neb ogyfuywch’ (Robert ap Gwilym Ddu)

Roedd ganddo gwybodaeth fanwl o wahanol ganghennau duwinyddiaeth…

Ond nid dyn perffaith oedd  ‘er ei holl ragoriaethau, nid oedd heb ei ffaeleddau…’ (Nid yw’n ymhelaethu ar y rhain)

  • Yr oedd yn drefnydd gwych. Lluniodd daflen ‘Penderfyniadau i’w gosod mewn gweithrediad yn Egwlys y Bedyddwyr yn Methania, Aberteifi, a fabwysiadwyd mewn Cyfarfod a gynhaliwyd Tachwedd 18fed, 1829,’ sy’n cynnwys 18 rheol ar sut i drefnu Eglwys. Ymhelaethodd ar nifer o bwyntiau: Cybydd-dod–ei niwed; Haelioni–ei ddymunoldeb; Gweinidogion–eu cynhaliaeth; Tlodion–y dylit eu hystyried; Dysgyblaeth–ei rheol; Esgeuluso cyd–gynhulliad.
  • Roedd ganddo ddawn llenor: Bu’n olygydd Greal y Bedyddwyr am flwyddyn, yna am ddwy flynedd arall gyda J. M. Thomas.

Bu farw yn Llwynpiod, Aberteifi ar 2 Ebrill. Claddwyd yn Nghilfowyr.

Bu’n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Elisabeth, merch y Parchg Griffith Jones, gweinidog Rehoboth. Bu farw yn 1823 gan adael tair merch: Mary, Elizabeth, Anne.

Ei ail wraig oedd Elisabeth Lewis, Crugmor. Cafodd pedwar o blant o’r briodas yma. Bu farw Elisabeth pythefnos ar ôl ei gŵr gan adael 7 o blant yn amddifad:

Ann, 12 oed (dall ac amddifad o reswm); Dinah, 8 oed (priododd â James Morse, Trehowell); James, 7 oed. Yng nghyfrifiad 1901 roedd yn 77 oed (llongwr wedi ymddeol, yn myw yn Northgate Tce., aelod yng Nghapel Mair. Roedd wedi priodi merch y Parchg T. J. Morris; Sarah, 4 oed; Eleanor, 2 oed. yng nghyfrifiad Aberteifi 1851, 21 oed, housekeeper Quay St; 1861 housemaid, St Mary St, gyda Thomas Morgan, cyfreithiwr. Bu farw yn 1898.

Aeth nifer o aelodau Bethania a Bedyddwyr eraill yr ardal ati er mwyn sefydlu cronfa i helpu’r plant:

David Mathias, Aberteifi
Timothy Thomas, henaf
William Richard, Penyparc
Daniel Davies (Gwein Anymddibynwyr), Aberteifi
John Morgan, Blaenffos
Daniel Davies, Abertawe.

Awdl Bryddest Farwnadol i’r diweddar Barch. John Herring, Aberteifi

Daw terfyn i oes dyn da,
Rhaid addef, fel i’r didda;
Nid didda ond da ein tir
Yw yr haelaf wr welir;
Er hynny’r da fynycha’n wir–i’w fedd
O’i farwedd a fwrir.

Mae John Herring, er ingedd–a’i dalent
A’i Delyn feluswedd,
A’i fawl salmwawl a’i symledd,
Heddyw’n fud mewn diddawn fedd!

Ger pentref Abersefyn,
Sir Frycheiniog enwog, wyn,
Y ganwyd Herring geiniol,
Yn dlawd ei rawd, heb gawr ol
Yn ei aeg nac yn ei wedd
Am orwych ddawn a mawredd
Ond uthr ei lwydd, daeth i’r lan–do,
Nid ail i’r dewraf o deulu’r “Daran”.

Annyben yn Nglyn Ebbwy–y cawn ef
Cyn hyn ac aneilwy;
Dyn anhydyn ofnadwy
Oedd, heb, yn fyr, neb yn fwy.

Yn wawdiol weithiau byddai ef
O grefydd a hoff deul’r nef,
A llwyr ddideimlad;
Achoswyd hyn sydd eglur iawn
Drwy ddiffyg adnabyddiaeth lawn
O blant y Cariad.

Ail-eni fu’r canlyniad–i Herring,
Puraf fu ei rodiad;
Gem aur fu ei gymmeriad
A di dwyll yn ngwaith Duw Dad.

Ymrodd am ymarweddiad–yn deilwng
I’i dalent uchelfad;
A’i fyw elfen nefolfad
Fu o les goraf i’w wlad.

Brawd hyfwyn a bri Teifi
Fu heb ing ein Herrin ni;
Maith enwir yn Methania
Ei weini doeth a’i enw da;
O fwrn aidd ac o farn iach–
Anhyfodd i farn afiach.
Ymdrechodd, purodd ein pau
A’i bur goethus bregethau;
Rhadawl bregethwr ydoedd,
Hoew mewn dawn–un mwy nid oedd.

Pregethwr buddiol, duwiol, a diwyd.
Oedd, o weddus a difeius fywyd;
Hynod werthfawr a haelfawr mewn elfyd;
Nid soflyn diwerth, ond maen disyflyd–
Maen o berl bywiol mewn byd–maen addien,
O’r buraf elfen ddeil wir brawf eilfyd.

Mewn mawr gyrddau
Roddai weithiau,
Yn ei hwyliau uwch y miloedd.
Floedd nes mynu
Sylw’r mawrlu–
“Croes yr Iesu–gras i’r oedoedd.”

O’r dylanwad
Fa’i canlyniad–
Mwyn ymuniad mewn amenau;
Gweddi’n esgyn,
Gras yn disgyn,
Mawl yn enyn, mil yn wenau.

Medrai ddyrchu
Croes yr Iesu
A rhyw allu synai’r oll o’r
Gwyddfodolion–
Gwreng, boneddion,
Llâr a geirwon llawer goror.

Arddunwl wr o ddoniau–oedd Herring,
Diddirwan ei eirian;
Meddai lawn ddawn unrhyw ddau
Gawraidd pan ar eu gorau.

O’i enau, mal ffrwd ffynnon–bwrlwmai
Bêr lymaid yn gysson;
Rhad y nef oedd y ffrwd hon–
Dyddanus ffrwd i ddynion.

Nid mawr ei ddysg, ond môr o ddawn–ydoedd,
Bob adeg yn hylawn;
Nis caed, a thebyg ns cawn,
Fwy o harddach ei fawrddawn.

Coron llanerch, cawr yn llenwi–alpaidd
Bwlpud Aberteifi,
Oedd, heb ing, ein Herring ni; – Gymru fach,
Nid egwan gorach yw dy gun gewri.

Pregethwyr cawraidd ar y maes
O’ent Whitfield, Wesley gu,
John Foster, Fuller, Robert Hall,–
Nid mwy na’n Herring ni.

Ond p’am yr enwaf y rhai hyn,
Er bod hwy’n fawr i gyd?
Pregethwyr geir yn Nghymru’n fyw
All ymgystadlu â’r byd.

Pregethau Christmas siglent dorf
Mal sigla cryfwynt wig;
Elias ddotiai hwynt â nerth
Ei areithyddiaeth fyg.

Chwareuai Williams iddynt gerdd
Ar dannau teimlad byw,
Gan daenu bord gerbron y plant
O bethau goreu Duw.

Cyfodai “diolch”Hiley’n fyw
Gymmanfa ar ei thread;
Nid llai dylanwad Herring wnai
Pan lefai: – “Crist a’i waed.”

Rhyw eryr mawr arwrawl–y caed ef
Yn codi’n ddych’mygawl
I’r bryniau aur wybrenawl–
Golud myg deg wlad y mawl.

Yma’n fywyd cymmanfaoedd–fydda
Ei foddus ddawn-wleddoedd;
Ac o’r Beibl dysgai’r bobloedd
Gyda blas, gan godi bloedd.

Heb wthiad arnynt, ei bethau–fyddent
Yn foddus i’w clustiau;
Cywir i’r gwir, curai’r gau
Hyd aml waedodd deimladau

Grymus gred yn nodded Naf
A ddaliodd i’w ddydd olaf.

I’w ffydd nid oedd diffoddi: –ei grefydd
Oedd gryf odditani;
Wych adail wedi ei chodi
A’i gwedd ar y Graig oedd hi.

Wele yn awr o’i wael nych
Aeth adref, annoeth edrych
Am dano na’i geisio gwn–
O’i fado cydofidiwn.

I wawl nef ddiwylo, naid
Arddunol r’odd ei enaid;
Ei eres drem ar Iesu drodd, –neshau,
Synai–Iesu wenodd;
Yna y trod mewn modd mad
At addas le eisteddiad,
A dilesg a rei Delyn
Rhoes syw gerdd i’r Iesu Gwyn.

A hylon wedd, ‘rol hun hir, – i fyny
O fonwent Cilfowir,
Cordd Herring ddaw, daw, ys dir, – fel dilen
Haulwen Alban Eilir.

Yna ei gorff a’i enaid–ail unir,
(Hylonaf anwyliaid),
I drigo, pyncio heb baid,
A chanu heb ochenaid.

Awdur yr awdl bryddest: Asaph Glyn Ebwy (Thomas Williams, Tredegar g. 1826)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s