Dywed ei fab, yr esgob Gambold (mewn llythyr a argraffwyd yn y rhagymadrodd i argraffiad cyntaf English-Welsh Dictionary, John Walters), iddo gael ei eni yn Aberteifi 10 Awst 1672, o deulu parchus a roes addysg dda iddo ar gyfer urddau eglwysig.
Yn ôl Foster (Alumni Oxon.), yr oedd yn 18, ac yn ‘fachgen tlawd,’ mab i William Gambold o dref Aberteifi, pan ymaelododd yn S. Mary Hall, Rhydychen, 23 Mai 1693. Symudodd i Goleg Exeter yn 1694, ond nid oes gofnod iddo raddio.
Yn 1707 yr oedd yn cadw ysgol yn Llanychaer ac ar 1 Rhagfyr 1709 daeth yn rheithor Casmael gyda Llanychaer, sir Benfro.
Yn Rhydychen yr oedd yn gyfaill i Edward Lhuyd a dywed Lhuyd iddo gyfrannu gwybodaeth at ychwanegiadau Lhuyd i argraffiad Gibson o Britannia Camden.
Mae cyfres o lythyron a ysgrifennodd at Edward Lluyd yn Rhydychen rhwng 1693 a 1697 yn ymddangos fan hyn:
Maent yn cyfeirio at nifer o ddarganfyddiadau archaeolegol yn Llandudoch a Nanhyfer. Yn anffodus nid yw’n nodi yn union ymhle yn Aberteifi roedd e’n byw.
Mor gynnar â 1707 cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg, a daeth hwnnw’n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef yn ddiweddarach (gan ddamwain) i gyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffennwyd y geiriadur yn 1722, ond methodd Gambold hel digon o arian i’w gyhoeddi tan 1727 fel A Grammar of the Welsh Language. Bu farw 13 Medi 1728. Ailargraffwyd y llyfr yn 1817 (Caerfyrddin) a chyhoeddwyd trydydd argraffiad yn 1833 (Bala).
Mae ei ewyllys yn ymddangos fan hyn:
https://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/CmnWills#Gambold1728
“To [my] eldest son, John Gambold, that whole little Burage of mine, together with each and every stable, Outhouses, Offices, Back-sides and Gardens, unto the same belonging, situate, lying and being in the Town of Cardigan…”
Gadawodd wraig, Elizabeth, pedwar mab ac un ferch.