Dim ffair eleni oherwydd cyfyngiadau’r Cofid. Mae’n debyg y gellid olrhain y ffair nôl yr holl fordd yn ddi-dor i 1302. Ond ‘doedd dim ffair ar 10 Tachwedd 1861 chwaith – oherwydd mai Dydd Sul oedd e!

Dyma atgofion John Davies yn y Teifiseid, 19.11.1920: Atgofion Hanner Canmlynedd:
Yr oedd y ffair yn cael ei chynnal ar Bank Billy Finch. Trwy gydol y nos buasai tyrfa fawr o ddynion yn brysur yn y tenta i werthu cwrw, tuag ugain o’r rhai hyn. Yr oedd tân cwlwm mawr yng nghanol pob un o’r pebyll hyn, a llestri i dwymo y cwrw, ac eisteddleodd cyfleus i fwynhau y trwyth meddwol a gedwid ymhen pellaf y babell…
Tua 7 o’r gloch bore’r ffair yr oedd y gweision a’r morwynion a’r meistri yn tyrru i mewn. Ai’r gweision yn rhestr o’r ochr isaf i’r Lamb hyd uwchlaw Capel Mair ar yr ochr chwith, a’r morwynion ar yr ochr dde, a’r meistriaid a’r meistresi yn cerdded yn ôl a blaen cael pigo y goreu at eu llygad, ac yn cyflogi rheiny os medrent. Wedi cyfweld… i’r dafarn a hwy, a rhoddi damper o gwrw i’r gweision a glasied o gin a dwr twymyn a siwgr i’r morynion. Erbyn hanner awr wedi wyth i naw o’r gloch fe fuasai cant a hanner neu ddau cant wedi cytuno am y flwyddyn…
Ond dyma gyfle i gofio nôl i gyfnodau hapusach. Diolch yn fawr iawn i Keith Ladd am y lluniau gwerthfawr.










Beth ichi’n cofio am ddiwrnod Ffair?