Dydd Sul 4 Rhagfyr 1823 bedyddiwyd Helen Samee yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi gan y Parchg John Lloyd, y curad ar y pryd.

Odi’r enw yn canu cloch gyda chi? Roedd Ramo Samee (1791-1850), ei thad, yn enwog fel jwglwr a chonsuriwr, ac yn dod o India. Daeth ef a’i wraig drosodd i Ewrop tua 1810, a bu’n teithio yn yr Unol Daleithiau yn 1819.
Roedd yn dipyn o berfformiwr:

Un o’i driciau oedd llyncu llond llaw o leiniau (beads), a darn o linyn, ac wedyn yn tynnu’r gleiniau mas o’i geg fesul un, ynghlwm wrth y llinyn.
Roedd hefyd yn ‘llyncu’ cleddyf (2 droedfedd!) ac yn bwyta tân. Byddai’n cynnau darn o raff, ei osod ar blât ac wedyn yn ei fwyta.
Mae disgrifiad diddorol ohono gan William Hazlitt yn (Table Talk, 1828) “The Indian Jugglers” , er nad yw’n enwi Ramo.
Ym mis Gorffennaf 1823 roedd yn perfformio yn Abertawe fel mae’r hysbyseb canlynol yn y Cambrian yn dangos:
Bu farw Ramo tua 1850, yn ddyn tlawd, a bu raid i’w wraig hysbysebu am gymorth ariannol i’w gladdu.
Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw beth oedd ei gysylltiad ag Aberteifi? A fu’n byw yma neu ai pasio drwyddo a wnaeth?
Yn ôl Cyfrifiad 1881 ar gyfer Llundain (Gorllewin Hackney) man geni Helen (neu Ellen erbyn hyn) oedd Aberteifi, ac y mae Cofnodion Eglwys y Santes Fair yn dangos dyddiad ei bedydd.

‘Needlewoman’ oedd hi a’i mam, ond roedd eu bywyd yn galed a threuliodd y ddwy gyfnodau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Wyrcws (fe’u rhyddhawyd o’r wyrcws 26 Ebrill 1850 ac eto ar 2 Mehefin 1882.) Bu farw Ellen (Helen) Samee yn 1884.
Pe bai’r Teifi-seid yn bod yn 1823 tybed beth fyddai eu pennawd:
Daughter of famous Indian juggler baptised at St Mary’s, efallai?
Efallai ddim.