1–7 Awst


Bois y Pwshbeics!

  • 7 1901 (Mer.) 8fed Chwaraeon a Rasus Beics Aberteifi
Sawl un ichi'n cofio?
Sawl un ichi’n cofio?
  • 6 1976 (Gwe.) Noson Lawer Fawr Cymdeithas yr Iaith: 10.30 Dafydd Iwan, Elfyn Lewis, Mynediad am Ddim, Edward H. Dafis
  • 6 1965 (Gwe.) Alun Owen,  Scowser Llandoch,  yn agor arddangosfa Cymdeithas Gelf Aberteifi
  • 6 1913 (Mer.) Geni Roderic Bowen.
  • 5 1968 (Sul) Graffiti ar muriau’r Castell: ‘Free Wales’ a ‘Freedom not Royalty’. Roedd y maer Percy Griffiths yn meddwl fod y weithred yn ‘warthus llwyr’. Roedd 1969 yn dod yn agosach!
  • 5 1950 (Sad.) Miss Aberteifi 1950 oedd… Miss Rita Ward, Melrose, Stryd Morgan (aelod o staff Nugent’s y fferyllydd).
  • 4 1976 (Mer.) Noson Lawen yr Eisteddfod. 10.30 pm Clwb Rygbi Cymry Caerdyd: Ryan Davies, Mynediad am Ddim, Caleb a’r dwlals, Eirian James, Côr Poliphonig Caerdydd, Alun Williams, ac R. Alun Evans
  • 4 1910 (Iau.) Ffôn gyhoeddus cyntaf yn y dre.
  • 3 1976 (Maw.) Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976: Coroni’r Bardd: Alan Llwyd,  ‘Troeon Bywyd’
Cadeirio’r ‘enillydd’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976
  • 3 1883 (Mer. ) Agoriad y Coffee Tavern yn Stryd y Priordy
  • 2 1940 (Gwe.) Siop y Delicatessen wedi agor, 55 Pendre (Melias) gan Mr a Mrs E. N. Picton.
  • 2 1938 (Maw.) Stormydd garw yn cwmpo simneau a mellt yn taro’r is-orsaf drydan ym Mwllhai.
Eisteddfod y Dathlu 1976
Eisteddfod y Dathlu 1976
  • 1 1976 (Sul.) Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976: Oedfa o Bafiliwn yr Eisteddfod am 10.00. Thema; ‘Yr Wyliadwriaeth Gristionogol’. Llywydd Y Parchg D. Rhys Thomas; Galwad i Addoli: Y Parchg Milton G. Jenkins, Bethania; Cyd-adrodd: Parti Ebeneser, Dyfed; Côr Tannau Teifi, arweinydd Alun Tegryn Davies; Darllen Y Parchg A. J. Davies; Côr yr Eisteddfod: arweinydd Terence Lloyd; Gweddi: Y Parchg Tom Roberts, Tabernacl; Pregeth: Y Parchg D. J. Roberts, Capel Mair; Y Fendith: Y Tad Seamus Cunane. Telynoresau: Sybil Milton-Jenkins, Barbara Morris a Buddug Stephens.
  • 1 1905 (Maw.) Lansio’r bad achub yr Elizabeth Austin.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s