- 21 1908 (Gwe.) Ymweliad Chung Had Hing, Tywysog Siam.
- 21 1905 (Llun) Claddu Launcelot Lowther, Stryd y Priordy, 81 oed.
- 20 1936 (Iau.) Ymweliad C. W. A. Scott i’r dref. Peilot oedd Scott a enillodd y ras awyr gyntaf rhwng Lloegr ac Awstralia. Rhoddodd arddangosfa hedfan yn Parcylan, Tredefaid.
- 20 1939 (Sul) Llifogydd yn y Mwldan
- 20 1966 (Sad.) Noson Fenisaidd yn Aberteifi yn denu miloedd i lan yr afon. Roedd y Teifi yn debyg iawn i’r Grand Canal!
- 20 1984 (Llun) Newyddion fod Paul Ringer yn gorffen chwarae rygbi
- 19 1936 (Mer.) Agoriad y Clwb Golff am 7.00, gan Mrs Berrington Davies, Llangoedmor. Mr Leslie Mouland a’i wraig oedd yn gyfrifiol am y bar.
- 18 1880 (Mer.) Datganiad ar yr organ yn Eglwys y Santes Fair gan Mr Gower Mus Bac. Nifer o foneddigion yr ardal yn bresennol.
- 17 1892 (Mer.) Daeargryn! Ficer Aberteifi, W. Cynog Davies yn ‘teimlo ei wely yn symud fel cwch mewn môr tymhestlog’.

- 16 1941 (Sad.) Marw y Parchg T. Esger James, Llansteffan (gweinidog Capel Mair 1910–35), 71 oed.
- 15