22–31 Awst


 

Cloc y Dre
Cloc y Dre

31 1892 (Mer.) Dadorchuddio’r Cloc gan y maer Davies Davies, Stanley House. Diwrnod mowr yn y dre a gwyliau am y prynhawn. Gwneuthurwr y cloc oedd Messrs Smith a’i feibion o’r Midland Clock Works yn Derby. Cynlluniwyd y tŵr gan Richard Thomas, Roseleigh ac adeiladwyd gan J. Richards, saer o Llandudoch, John Evans, masiwn, Stryd yr Eglwys. Cyflenwyd y slab â’r arysgrifen gan Thomas Jenkins, stonecutter, Gordon Terrace.

Mae’r cloc yn un defnyddiol

I bobl tref a gwlad

Ca’nt wybod beth yw’r amser

A hynny’n rhodd a rhad;

Mae’r olwg arno’n hyfryd

A llon, mae’n harddu’r lle.

Aiff Davies ddim yn angof

Tra paro Cloc y Dre.

Am 7 p.m. cyfle i gael tamed o fwyd yn y Llew Du. Roedd y stafell yn hyfryd a’i lond o faneri, a blodau. Cafwyd gwledd arbennig i 100 o foneddigion a dynion busnes y dref, gan y perchennog Mrs Trollip. Ond roedd rhaid i’r gweithwyr (c. 40 o nifer) neud y tro â’r Fat Ox  – a diolch i Mr D. Luke am baratoi cystal ar fyr rybudd.

Yn wreiddiol y bwriad oedd cael 3 wyneb yn unig. Cyfeiriwyd at hyn mewn pennill gan John Sharpe, y Syrfeiwr:

All hail! thou latest chronicler of time!

Deign thy attention to my modest rhyme;

I have some little thing I want to say,

And could not hit upon a better way

Than to address them to you, for the lack

Of closer confidant. You can’t hit back.

And as for these my counsels- weigh them well!

Maybe you’ll act upon them-time will tell.

And first, I’m very pleased to see you there

With face so bright and clean, and debonair-

Face did I say? Good gracious! You had three,

And each one as like the other as could be;

But then our Mayor, so anxious to do more

Refixed your inside gear and gave you four.

 

You cannot be two-faced, whate’er you do

The only thing you can be is two-too–

And two and two is four. And then, you see

That your fourth face must watch the other three

And should your High St face get fast and frisky

Or Mwldan go just slightly on the whiskey

And so lose time; your Pendre face must frown

And Priory Street face stare the offenders down

But what would happen if in spite of all endeavour

Your whole four faces should go wrong together

I can’t surmise; unless Tobit should wave his

Mace and give them in charge to Sergeant Davies.

So'r trên yn dod tan bore fory!
So’r trên yn dod tan bore fory!
  • 31 1886 (Maw.) Agoriad swyddogol y Rheilffordd. Ychydig o ddathlu oedd ar y diwrnod oherwydd ‘roedd yr amser rhwng penodi’r diwrnod a’r diwrnod ei hun yn rhy fyr i drefnu  – ond roedd ‘na ychydig o faneri o gwmpas y dref.’ Dydd Mercher (y diwrnod canlynol) dechreuodd y trên i redeg.
Nailords unrhywun?
Nailords unrhywun?
  • 30 1849 (Iau) Arwerthiant Nailrods
Dydd y Cofio 1932. Yn y llun gwelir Canon Hamer, y maer David Williams, Tommy Jeremiah, byrllysgwr ac eraill
Dydd y Cofio 1932. Yn y llun gwelir Canon Hamer, y maer David Williams, John Davies?, byrllysgwr ac eraill
  • 29 1923 (Mer.) Ar ddiwrnod glawog cynhaliwyd seremoni i ddadorchuddio’r Senotaff gan yr Uwchfrigadydd S. F. Mott, CB am 2.30. Roedd cynrychiolwyr y llynges o dan y Prif Saethwr Moore RN, a chynrychiolwyr y fyddin o dan Capten Evan Davies MC.  Roedd yr Uwchfrigadydd Mott yn westai i Syr Laurence Jenkins a’r foneddiges Jenkins, Cilbronnau.

Eraill yn bresennol oedd Grismond Phillips, Cwmgwili, W. Picton Evans a Glodydd Jenkins, mab Syr Lawrence. Yn arwain yr orymdaith oedd gosgordd er anrhydedd y llynges a’r fyddin ,wedyn y Scowtiaid a’r Geidiau, perthnasau y rhai a gollwyd yn cario offrymau blodau, y Maer Ald Dan Williams a’r byrllysgwyr, aelodau Cyngor y Dref, ynadon, gweinidogion yr efengyl, a’r cyhoedd.

  • 28 1940 (Mer.) Ymweliad Syrcas Brenhinol Paulo. Eliffantiaid, marchogwyr, mwnciod, cŵn, colomenod, cerddwyr weiar, ceffylau sy’n dawnsio, ceffylau bach, dirgelion o’r dwyrain a chlowns: Mynediad: 1/3, 2/4, 3/6. Plant: 6ch, 1/2 a 1/10
  • 28 1877 (Maw.) Contract, gwerth £204, am adeiladu wal ogleddol a gorllewinol y fynwent,  wedi mynd i’r Brodyr W. Evans a John Thomas, Cilgerran.
  • 27 1954 (Gwe.) Gregory Peck yn cael cinio i ddau yng Ngwesty’r Angel. Roedd e’n ffilmio Moby Dick yn Abergwaun.

Moby Dick

  • 26 1899 (Sad.) Marwolaeth Henry Rowland Daniel, 39 oed. Ymhlith pethau eraill roedd yn aelod o gyngor y Dref a chyfreithiwr cangen leol o’r NUT.
  • 25 1880 (Mer.) Trip Ysgol Sul y Tabernacl i Gwbert.
  • 24 1422 (Llun) Cytundeb prentisiaeth i ddyn o’r enw ‘Griffyn’
  • 23 1878 (Gwe.) Aberteifi yn Brif Swyddfa Bost. Apwyntiwyd Jonathan Evans fel Postfeistr. Cadwyd y statws yma tan bu farw A. T. Jones ym Mawrth 1967.
  • 22 1950 (Llun) Ymweliad Richard Dimbleby er mwyn recordio ‘Down your Way’

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s