Pobl Aberteifi 52: Richard J. Jones (1956-2021)

Aberteifi yn ffarwelio â Richard (14.8.2021)

Pawb yn clapio wrth i’r hers fynd heibio’r Guildhall
Yr orymdaith yn mynd drwy’r dref
Richard a’i gitar yn gwneud un daith olaf drwy ei annwyl Aberteifi
Yr arch wedi’i gorchuddio â baner Cymru
Y glaw yn disgyn wrth i’r dre ffarwelio â Richard

Diolch yn fawr i Stuart Ladd am y lluniau.

Ail Symudiad – Guildhall, 2010
Wyn a Richard, 29 Mehefin, 2019

BBC CYMRU FYW

Ail Symudiad, 1983
Fflach o Ail Symudiad

Pobl Aberteifi 51: Wyn Lewis Jones (Wyn Fflach; 25.9.1959-24.6.2021)

Wyn ac Elin Fflur.

Diolch i Keith Ladd am y llun, a dynnwyd yn y farced yn Aberteifi.

Dymuna Keith estyn ei gydymdeimlad â theulu Wyn (un o fois tref Aberteifi) yn eu colled.

Pobl Aberteifi 50: David R. Edwards (Dave Datblygu; 1964-2021)

Beibl Datblygu

Saturday Night at the Black – Llyfr newydd

Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Saturday Night at the Black: Cardigan in the Swinging Sixties. Llyfr 183 o dudalennau; dros 100 o luniau, nifer mewn lliw, gan William H. Howells. Pris £10. Argraffwyd gan E. L. Jones, Aberteifi. ISBN 978 1 78280 7698

Odi Aberteifi a’r ardal yn barod am hwn?

Mae’n stori ryfeddol! Y cefndir cychwynnol yw’r cysylltiad agos rhwng rhai o gymeriadau’r dref a chymeriadau’r byd cerddorol oedd yn datblygu yn Lerpwl ar y pryd. Pobl fel y dramodydd Alun Owen, a ddaeth i fyw yn Llandudoch rhwng 1963 a 1967; Allan Williams, rheolwr cyntaf y Beatles; Bill Harry, golygydd y papur dylanwadol y Mersey Beat; Bob Wooler, DJ enwog y Cavern yn Lerpwl; a George Melly, a brynodd dŷ gwyliau ym Mhen-y-bryn. Croesawyd y criw brith yma, ynghyd â’u partneriaid, yn gynnes gan Frank Aspinall, perchennog y Blac Leion, a chyda’u cymorth hwy llwyddodd i drefnu bod bandiau o Lerpwl yn tyrru i Aberteifi i chwarae yn y Blac.

Cewch restr lawn o’r grwpiau a ddaeth yno rhwng 1963 a 1973. I ddechrau o’r Cavern, yn Lerpwl y deuent – sawl un wedi ennill eu plwyf yn y Kaiserkeller a chlybiau eraill yn Hamburg. Ŷch chi’n cofio’r noson y daeth Screaming Lord Sutch i’r dre? Beth am Rory Storm a’r Hurricanes; Ian a’r Zodiacs; y Clayton Squares; Vince Earl a’r Talismen; Freddie Starr a’r Nightriders; Sony Webb a’r Cascades; Derry Wilkie a’r Pressmen; y Kirkbys; y Masterminds, y Chessmen a’r Kinsleys a nifer fawr o rai eraill?

Yn ddiweddarach deuai grwpiau o dde Cymru: chi’n cofio James Hogg; yr Iveys; Haverson Apricot; Peter Shane a’r Vikings – heb anghofio’r bandiau lleol megis Ricky a’i Raiders a Strawberry Maize?

Bob nos Sadwrn deuai tua 200 o bobl ifainc i mewn i’r dre o ardal eang sir Aberteifi, sir Benfro a sir Gaerfyrddin i ddawnsio, i wrando ar gerddoriaeth ac i fwynhau. Ond nid pawb oedd yn hapus gyda’r datblygiadau hyn. Roedd rhieni’n anfodlon fod eu plant yn mynychu’r fath le, a chynghorwyr parchus Aberteifi yn anhapus fod y Blac yn dod ag enw drwg i’r dre.

Nid yw Aberteifi wedi gweld dim byd tebyg, na chynt nac wedyn.

Darllenwch y gwir am gysylltiad y Beatles a Gŵyl Fawr Aberteifi!

Darllenwch am y cysylltiad agos rhwng ‘A Hard Day’s Night’ a Llandudoch.

Cewch agoriad llygad wrth ddarllen tystiolaeth nifer o’r trigolion a fu’n rhan o’r bwrlwm.

Allan yn siopau NAWR £10.

neu gallwch ebostio netpool1960@gmail.com er mwyn archebu trwy’r post £12.50.

 

29 Tachwedd (1944) Cyngerdd yr Home Guard

Cyngerdd yr Home Guard

Cyngerdd yr Home Guard

  • 29 1944 (Mer.) Cyngerdd yn y Drill Hall. Y llywyddion oedd Lefftenant Cyrnel. Col. E. Harewood Williams a C. L. E. Morgan-Richardson a’r cadeirydd Cyrnel B. Taylor Lloyd
  • 29 1921 (Maw.) Clwb newydd y Clymblaid yn agor yn yr hen Dolldy yn Stryd y Santes Fair, gan Capten Ernest Evans, AS am 2.00