Pobl Aberteifi 31: Y Parchg John Herring (1789–1832)

Y Parchg John Herring (1789–1832)

Gweinidog Capel Bethania rhwng 1811 a 1832 oedd y Parchg John Herring. Bu farw ar ôl salwch a barodd rhai misoedd. Gadawodd wraig a saith o blant. Beth arall inni’n gwbod amdano?

Gallwch ddarllen y darn amdano yn Y Bywgraffiadur fan hyn: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HERR-JOH-1789

Wel mae un stori amdano ar ddiwrnod braf o haf ar un o’i deithiau pregethu lan i’r Gogledd iddo gwrdd â’r Parchg Christmas Evans. Cymerodd y gweinidog enwog unllygeidiog un edrychiad arno a dweud: ‘Na beth od i weld ‘herring’ ar ben mynydd’. Ateb y Parchg John Herring yn syth oedd: ‘Ddim mor od a gweld Nadolig yng nganol haf’.

Mewn fersiwn arall roedd y ddau ar ben y Frenni Fawr!

Mae’r stori wedi newid ychydig eto wrth iddo gael ei ail adrodd yn 1909:

Christmas Evans a John Herring, yn cyfarfod. Pan welodd Mr Herring ei gyfaill, gwaeddai: Rhyfedd, rhyfedd, cyfarfod a Nadolig ganol haf. “Ie” ie,” atebai Mr Evans, ond nid mwy rhyfedd na chyfarfod ag ysgadenyn byw ar ben mynydd. [Papur Pawb Hydref 02, 1909.]

Roedd ei gyfenw anghyffredin yn gyfle am sawl stori: Un tro lawr yn Llanboidy, roedd yn areithio mor arbennig, fel y gofynodd Mr Powell, Maes-gwyn, gw^r boneddig o’r ardal, ‘Pwy ydyw hwna?’  ‘Herring, Aberteifi, syr’, medde un gerllaw iddo. ‘Nage,  nid Herring’, medde fe, ‘ond Salmon ydyw.’ [Seren Cymru 07 Medi 1906]

Ond mae mwy iddo na chyfenw anghyffredin:

Yn 1836, pedair blynedd ar ôl ei farw cyhoeddodd D. Roberts, Llanidloes llyfryn er cof amdano, Derwen Wylofain.

Herring ddoniol Aberteifi,
Y gwrolaf ar y ma’s,
Roed i orwedd yn y beddrod
Gan y gelyn gwelw-las:
Dyma newydd trist, galarus,
Roddodd i fy nghalon glwy’,
Ac mae’n anhawdd i mi ganu,
Gan nad ydyw Herring mwy.

Mae’r Byrgofiant yn cynnwys amlinelliad o’i fywyd:

Ganwyd John i Thomas a Sarah Herring o blwyf Llanyspyddyd, sir Frycheiniog ym 1789. Bu farw ei dad pan oedd John tua 4 neu 5 mlwydd oed. Ailbriododd y fam a symudodd y teulu i waith haearn Pen-y-cae, sir Fynwy (Glyn Ebwy). Cafodd John waith gyda’r gof lleol.

Amlygodd ei hiwmor yn gynnar. ‘Sawl sect sydd?’ gofynnodd i’r gof rhyw fore. ‘Yr wyf fi yn meddwl mai pump sydd o werth, a mae’r pump yn ty ni. Annibynwr yw fy llysdad, mam yn Fethodist, af innau at y Cwacers a gwna fy nghath yn Wesleyad a’r ci bach yn Fedyddiwr.’ Un bore Sul aeth â’r ci gydag ef i weld Bedydd yn afon Sirhowy ger Tredegar gan benderfynu talfu’r ci i’r dŵr pan fyddai y Parchg Edward Davies yn pregethu. Ond nid felly y bu. Fe gafodd ei argyhoeddi a fe cafodd ei fedyddio ac nid y ci. Derbyniwyd yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr, Tredegar yn 1804. [Siloh medd y Parchg B. James (Edwards, Bethania, t.30).

Mae’r gweddill yn hanes…

Dechreuodd bregethu yn 16 oed. Drwy ddylanwad y Parchg John Hier, Basaleg derbyniwyd ef fel myfyriwr i Goleg, Bryste pan oedd tua 21 oed. Roedd wedi cael digon ar ôl blwyddyn. ‘Pa ddaioni yw Hic, Haec, Hoc, i achub eneidiau?’

Ar daith bregethu y daeth yn ei dro i Fethania a chael galwad. Bu yno o 1811 tan ei farw yn 1831.

  • Roedd John Herring yn bregethwr arbennig.

“ yn un o’r pregethwyr mwyaf doniol a phoblogaidd, yn ei ddydd…”

“Yr oedd yn feddianol ar amgyffredion toreithiog, amledd geiriau, hyawdledd naturiol ac effeithiol, cô gafaelgar, ystumiau gweddus, llais soniarus; ac

‘Mewn ffraethineb neb yn uwch,
Ni bu gôf neb ogyfuywch’ (Robert ap Gwilym Ddu)

Roedd ganddo gwybodaeth fanwl o wahanol ganghennau duwinyddiaeth…

Ond nid dyn perffaith oedd  ‘er ei holl ragoriaethau, nid oedd heb ei ffaeleddau…’ (Nid yw’n ymhelaethu ar y rhain)

  • Yr oedd yn drefnydd gwych. Lluniodd daflen ‘Penderfyniadau i’w gosod mewn gweithrediad yn Egwlys y Bedyddwyr yn Methania, Aberteifi, a fabwysiadwyd mewn Cyfarfod a gynhaliwyd Tachwedd 18fed, 1829,’ sy’n cynnwys 18 rheol ar sut i drefnu Eglwys. Ymhelaethodd ar nifer o bwyntiau: Cybydd-dod–ei niwed; Haelioni–ei ddymunoldeb; Gweinidogion–eu cynhaliaeth; Tlodion–y dylit eu hystyried; Dysgyblaeth–ei rheol; Esgeuluso cyd–gynhulliad.
  • Roedd ganddo ddawn llenor: Bu’n olygydd Greal y Bedyddwyr am flwyddyn, yna am ddwy flynedd arall gyda J. M. Thomas.

Bu farw yn Llwynpiod, Aberteifi ar 2 Ebrill. Claddwyd yn Nghilfowyr.

Bu’n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Elisabeth, merch y Parchg Griffith Jones, gweinidog Rehoboth. Bu farw yn 1823 gan adael tair merch: Mary, Elizabeth, Anne.

Ei ail wraig oedd Elisabeth Lewis, Crugmor. Cafodd pedwar o blant o’r briodas yma. Bu farw Elisabeth pythefnos ar ôl ei gŵr gan adael 7 o blant yn amddifad:

Ann, 12 oed (dall ac amddifad o reswm); Dinah, 8 oed (priododd â James Morse, Trehowell); James, 7 oed. Yng nghyfrifiad 1901 roedd yn 77 oed (llongwr wedi ymddeol, yn myw yn Northgate Tce., aelod yng Nghapel Mair. Roedd wedi priodi merch y Parchg T. J. Morris; Sarah, 4 oed; Eleanor, 2 oed. yng nghyfrifiad Aberteifi 1851, 21 oed, housekeeper Quay St; 1861 housemaid, St Mary St, gyda Thomas Morgan, cyfreithiwr. Bu farw yn 1898.

Aeth nifer o aelodau Bethania a Bedyddwyr eraill yr ardal ati er mwyn sefydlu cronfa i helpu’r plant:

David Mathias, Aberteifi
Timothy Thomas, henaf
William Richard, Penyparc
Daniel Davies (Gwein Anymddibynwyr), Aberteifi
John Morgan, Blaenffos
Daniel Davies, Abertawe.

Awdl Bryddest Farwnadol i’r diweddar Barch. John Herring, Aberteifi

Daw terfyn i oes dyn da,
Rhaid addef, fel i’r didda;
Nid didda ond da ein tir
Yw yr haelaf wr welir;
Er hynny’r da fynycha’n wir–i’w fedd
O’i farwedd a fwrir.

Mae John Herring, er ingedd–a’i dalent
A’i Delyn feluswedd,
A’i fawl salmwawl a’i symledd,
Heddyw’n fud mewn diddawn fedd!

Ger pentref Abersefyn,
Sir Frycheiniog enwog, wyn,
Y ganwyd Herring geiniol,
Yn dlawd ei rawd, heb gawr ol
Yn ei aeg nac yn ei wedd
Am orwych ddawn a mawredd
Ond uthr ei lwydd, daeth i’r lan–do,
Nid ail i’r dewraf o deulu’r “Daran”.

Annyben yn Nglyn Ebbwy–y cawn ef
Cyn hyn ac aneilwy;
Dyn anhydyn ofnadwy
Oedd, heb, yn fyr, neb yn fwy.

Yn wawdiol weithiau byddai ef
O grefydd a hoff deul’r nef,
A llwyr ddideimlad;
Achoswyd hyn sydd eglur iawn
Drwy ddiffyg adnabyddiaeth lawn
O blant y Cariad.

Ail-eni fu’r canlyniad–i Herring,
Puraf fu ei rodiad;
Gem aur fu ei gymmeriad
A di dwyll yn ngwaith Duw Dad.

Ymrodd am ymarweddiad–yn deilwng
I’i dalent uchelfad;
A’i fyw elfen nefolfad
Fu o les goraf i’w wlad.

Brawd hyfwyn a bri Teifi
Fu heb ing ein Herrin ni;
Maith enwir yn Methania
Ei weini doeth a’i enw da;
O fwrn aidd ac o farn iach–
Anhyfodd i farn afiach.
Ymdrechodd, purodd ein pau
A’i bur goethus bregethau;
Rhadawl bregethwr ydoedd,
Hoew mewn dawn–un mwy nid oedd.

Pregethwr buddiol, duwiol, a diwyd.
Oedd, o weddus a difeius fywyd;
Hynod werthfawr a haelfawr mewn elfyd;
Nid soflyn diwerth, ond maen disyflyd–
Maen o berl bywiol mewn byd–maen addien,
O’r buraf elfen ddeil wir brawf eilfyd.

Mewn mawr gyrddau
Roddai weithiau,
Yn ei hwyliau uwch y miloedd.
Floedd nes mynu
Sylw’r mawrlu–
“Croes yr Iesu–gras i’r oedoedd.”

O’r dylanwad
Fa’i canlyniad–
Mwyn ymuniad mewn amenau;
Gweddi’n esgyn,
Gras yn disgyn,
Mawl yn enyn, mil yn wenau.

Medrai ddyrchu
Croes yr Iesu
A rhyw allu synai’r oll o’r
Gwyddfodolion–
Gwreng, boneddion,
Llâr a geirwon llawer goror.

Arddunwl wr o ddoniau–oedd Herring,
Diddirwan ei eirian;
Meddai lawn ddawn unrhyw ddau
Gawraidd pan ar eu gorau.

O’i enau, mal ffrwd ffynnon–bwrlwmai
Bêr lymaid yn gysson;
Rhad y nef oedd y ffrwd hon–
Dyddanus ffrwd i ddynion.

Nid mawr ei ddysg, ond môr o ddawn–ydoedd,
Bob adeg yn hylawn;
Nis caed, a thebyg ns cawn,
Fwy o harddach ei fawrddawn.

Coron llanerch, cawr yn llenwi–alpaidd
Bwlpud Aberteifi,
Oedd, heb ing, ein Herring ni; – Gymru fach,
Nid egwan gorach yw dy gun gewri.

Pregethwyr cawraidd ar y maes
O’ent Whitfield, Wesley gu,
John Foster, Fuller, Robert Hall,–
Nid mwy na’n Herring ni.

Ond p’am yr enwaf y rhai hyn,
Er bod hwy’n fawr i gyd?
Pregethwyr geir yn Nghymru’n fyw
All ymgystadlu â’r byd.

Pregethau Christmas siglent dorf
Mal sigla cryfwynt wig;
Elias ddotiai hwynt â nerth
Ei areithyddiaeth fyg.

Chwareuai Williams iddynt gerdd
Ar dannau teimlad byw,
Gan daenu bord gerbron y plant
O bethau goreu Duw.

Cyfodai “diolch”Hiley’n fyw
Gymmanfa ar ei thread;
Nid llai dylanwad Herring wnai
Pan lefai: – “Crist a’i waed.”

Rhyw eryr mawr arwrawl–y caed ef
Yn codi’n ddych’mygawl
I’r bryniau aur wybrenawl–
Golud myg deg wlad y mawl.

Yma’n fywyd cymmanfaoedd–fydda
Ei foddus ddawn-wleddoedd;
Ac o’r Beibl dysgai’r bobloedd
Gyda blas, gan godi bloedd.

Heb wthiad arnynt, ei bethau–fyddent
Yn foddus i’w clustiau;
Cywir i’r gwir, curai’r gau
Hyd aml waedodd deimladau

Grymus gred yn nodded Naf
A ddaliodd i’w ddydd olaf.

I’w ffydd nid oedd diffoddi: –ei grefydd
Oedd gryf odditani;
Wych adail wedi ei chodi
A’i gwedd ar y Graig oedd hi.

Wele yn awr o’i wael nych
Aeth adref, annoeth edrych
Am dano na’i geisio gwn–
O’i fado cydofidiwn.

I wawl nef ddiwylo, naid
Arddunol r’odd ei enaid;
Ei eres drem ar Iesu drodd, –neshau,
Synai–Iesu wenodd;
Yna y trod mewn modd mad
At addas le eisteddiad,
A dilesg a rei Delyn
Rhoes syw gerdd i’r Iesu Gwyn.

A hylon wedd, ‘rol hun hir, – i fyny
O fonwent Cilfowir,
Cordd Herring ddaw, daw, ys dir, – fel dilen
Haulwen Alban Eilir.

Yna ei gorff a’i enaid–ail unir,
(Hylonaf anwyliaid),
I drigo, pyncio heb baid,
A chanu heb ochenaid.

Awdur yr awdl bryddest: Asaph Glyn Ebwy (Thomas Williams, Tredegar g. 1826)

Pobl Aberteifi 24: Owen Roberts, Feidrfair, morwr, cogydd (–1904/05)

Nodyn byr yng Nghofnodion Capel Bethania a ddaeth a Owen Roberts i’m sylw:  O dan restr o farwolaethau ar gyfer 1905 nodwyd:
Owen Roberts, Feidrfair. Hwyliodd o China i Vladivostock Hydref 1904. Ni chlywyd dim oddi wrthynt drachefn yn yr SS Claverdale.

Dyma Googlo SS Claverdale a datgelu nifer o bethau diddorol.

O dan y pennawd ‘Fate of the Claverdale’ mae’r Evening Express yn cyhoeddi adroddiad ar 31 Ionawr 1905:

A boat belonging to the overdue British steamer Claverdale has been picked up and taken to Fukuyajna. None of the crew was on board. The Claverdale left Barry on September 1 for Manila, with a cargo of between 5,000 and 6,000 tons of coal on Russian account. On October 29 she was reported, at Sabang, and on November 23 left Hong Kong for Vladivostok. Nothing has been heard of her since, and it is presumed that in running the blockade she kept in too close to the land and struck a sunken rock. Captain Thomas, the master of the Claverdale, is a native of Cardigan, and is well known in Cardiff shipping circles.

Roedd y llong yn perthyn i Gwmni Llong ager Claverdale (cyf.). Y perchnogion oedd Messrs E. Hazelhurst a’r Cwmni. Hawlient mai hwn oedd y llong gyntaf iddynt golli. Adeiladwyd yr SS Claverdale yn 1899 gan Messrs. Graig, Taylor a’r Cwmni, Stockton-on-Tees, yn 330 tr. o hyd.

Erbyn 9 Medi 1905 adroddwyd yn y Cardiff Times fod telegram o Fladifostog dyddiedig 31 Awst yn adrodd mai’r agerlong yn sownd i’r gogledd o’r Olga oedd yr SS Claverdale ar goll ers hwylio o Gaerdydd i Fladifostog heibio Hong Kong. Ond wrth ymchwilio pellach cadarnahwyd nad oedd y stori yma’n gywir. Nid oedd newyddiadurwr y Cardiff Times yn hapus: ‘Dyma’r ail waith i hyn ddigwydd. Mae’n bwysig fod yr awdurdodau yn cadarnhau ffeithiau cyn anfon negeseuon o’r math.’

Erbyn Tachwedd 1905 roedd gobaith fod datrysiad i’r dirgelwch, yn ôl adroddiad yn y County Echo, gan ddifynnu’r Daily Chronicle:

Dispatches received in London reveal for the first time the identity of the wreck which has frequently been sighted to the south of Vladivostok, near the mouth of the Tandse River. The vessel turns out to be the British steamer Claverdale, which left a Chinese port last November with a full cargo of coal for the Russian cruisers at Vladivostok, and which has not since been heard of. As the result of a visit paid to the stranded steamer, it has been ascertained that the vessel has been pillaged by the natives in the neighbourhood, and every article of value taken away. The inhabitants residing in the vicinity, who were interrogated, declared that the crew of the Claverdale’ were removed shortly after the wreck by two boats presumed to be Japanese.

Ond roedd criw’r llong yn dal ar goll. Nid oedd neb wedi clywed gair oddi wrthynt.

Erbyn Tachwedd 1905 roedd pennawd yn y Weekly Mail yn darogan gwaeth i ddod:

WRECK OF THE CLAVERDALE: SUPPOSED MURDER OF MEMBERS OF THE CREW.

Dyma enwau aelodau o’r criw a gollwyd:

H. H. Thomas, Aberteifi, comander;
D. Llewellyn, Llandudoch, mêt
James Reed, Abertawe, ail mêt
D. Jones, Caerdydd, saer
J. S Campbell, Sunderland, stiward
Owen Roberts, Aberteifi, cogydd
Watkin Evans, ail stiward
John Waddle, bosn
A. Tripolis, llongwr abl
R. Thomas, Lerpwl, llongwr abl
G. Marromatic, llongwr abl
Frederick Cooper, Sunderland, prif beiriannydd
Frederick Walker, ail beiriannydd
James Beadle, Sunderland, trydydd periannydd
Cornelius Gray, Sunderland, pedwerydd peiriannydd
Carl Lundin (o Sweden), donkeyman
Richard McGuire, Bootle, dyn tân
B. Mynes, Brumiskin, dyn tân
W. Flagg, dyn tân
Gus Langer, dyn tân
R. J. Jones, dyn tân
S. Ostovski, dyn tân
W. Howrie, prentis
G. B. McLaren, prentis
Reginald Turner, North-street, Lewes, prentis
G. A. Saunders, Kingston-road, Portsmouth, prentis
Yn ychwanegol roedd yna 2 arall, o dras Tseineaidd.

Honnwyd fod môr-ladron o Manchuria wedi ymosod ar y llong a thaflu’r criw i’r môr.

Yn Mawrth 1906 wele adroddiad yn y Cardiff Times o’r Llys Profeb ble honnwyd fod Edward Evan Thomas, Llangoedmore, y capten, wedi marw.

The vessel was found 450 miles north of Vladivostok ashore in the Gull of Tartary deserted, with her decks dismantled. In February, 1905, a boat belonging to the ship was found, and in May the ship was posted at Lloyd’s as a total loss. Eventually the vessel was discovered a total wreck, and only about 300 or 400 tons of cargo remained. The master and crew had disappeared. Captain Thomas left about £1,400. His Lordship granted leave to presume the death of Mr Thomas accordingly.

Felly ar ôl hynna i gyd ddim llawer callach o beth yn union ddigwyddodd i’r morwyr dewr lleol megis H. H. Thomas, Aberteifi, D. Llewellyn, Llandudoch ac Owen Roberts, y cogydd o Feidrfair.

Os oes llun i gael o un o’r rhain byddwn yn ddiolchgar iawn i osod copi fan hyn.

Pobl Aberteifi 4: Thomas Evans (Tel)

Thomas Evans (Tel; 1861–1929)

Efallai bo chi wedi clywed am Telynog, ond dyma ei nai Tel. Ganwyd yn y Mwldan Uchaf yn 1861. Roedd ei dad John (brawd Telynog) yn gweithio fel crydd, ac yn godwr canu ym Methania (1864–76). Symudodd Thomas i Aberdâr yn 1888. Gweithiodd dan ddaear fel glowr a dyn tân. Roedd ef hefyd yn fardd arbennig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol. Bu farw ei wraig Ruth yn 1908. Yn 1909 enillodd y gadair yn eisteddfod Llwynypia. Fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Fawr ‘Semi National’ Aberteifi yn 1909 o flaen torf o 8, 000. Teitl y gerdd oedd ‘Angladd ar y Môr’. Enillodd 10 cadair i gyd. Roedd hefyd yn gerddor gwych yn arwain corau a Chymanfaoedd Canu ar draws Cymru. Roedd yn weithgar yn y gymuned lofaol fel aelod pwysig o’r Pwyllgor y ‘Sliding Scale’. Ganwyd 8 o blant iddo, dau ohonynt yn feirdd –Taliesin (ap Tel) a Ceridwen (Telferch).

Cofio Tel
Angladd ar y Môr. Pryddest Gadeiriol Aberteifi, 1909.

25 Rhagfyr (1176, 1888, 1889, 1909, 2013) Nadolig Llawen i bawb a aned o fewn sain clychau’r Santes Fair

  • 25 1176 (Sad.) Eisteddfod yr Arglwydd Rhys:

Ac yna y kynhalyawd yr Arglwyd Rys wled arbennic yn Aberteiui, ac y gossodes deyryw amrysson; vn rwg y beird a’r pryd[yd]yon ac arall rwg y telynoryon a’r crythyron a phibydyon ac amryuaelon genedloed kerd arwest. A dwy gadeir a ossodes y vudugolyon yr amryssoneu. A rei hynny a gyuoethoges ef o diruawryon rodyon. Ac yna y cauas gwas jeuanc o’e lys ef y hun y uudugolyaeth o gerd arwest. A gwyr Gwyned a gauas y uudugolyaeth o gerd tauawt. A phawb o’r kerdoryon ereill a gawssant y gann yr Arglwyd Rys kymeint ac [a] archyssant, hyt na wrthladwyt nep. A’r wled honno a gyhoedet ulwydyn kynn y gwneuthur ar hyt Kymey a Lloegyr a Phrydein ac Iwerdon a llawer o wledoed ereill.

1176 Brut y Tywysogyon

  • 25 (Mer.) 1888

CAPEL MAIR:

Cafwyd cyngerdd llwyddiannus nos Nadolig o dan lywyddiaeth y Parchg W. Jones (Maer). Roedd yr adeilad yn llawn a trefn da ar y noson gan y Parchg  T. J. Morris.

Cyfranodd nifer o bobl leol at raglen y noson, gyda help Eos Myrnach, a pharti o ddynion o Lanfyrnach, ac o herwydd hyn cafwyd y noson mwyaf llwyddiannus ers tro byd. Mae gan Eos Myrnach lais arbennig. Rhaid sôn am “Alone on the raft” . Roedd Parti Llanfyrnach hefyd wedi’u hyfforddi yn dda a chanwyd ganddynt “Comrades Song of Hope,” a “Martyrs of the Arena” – pedwarawd arbennig yn yr olaf a chafwyd encore.

Ymhlith y bobl leol rhaid restri’r canlynol:

  • Parti Capel Mair (arweinydd Mr. Reynolds);
  • Mr. W. Thomas a’i barti,
  • Mr. D. Charles a’i gyfeillion
  •  Mr. D. Davies a’i gyfeillion
  • Misses Lowther a Letitia Evans, a
  • Mrs. Jones, a Messrs. W. Thomas, D. Thomas (Tyrhos), a T. Lewis.
  • Miss Daniel a Miss Edith Daniel

Dyma’r Rhaglen:

  •  Deuawd Pianoforte , The Little Sailor, Misses Daniel a Lowther;
  • glee, Croeso’r Boreu, Parti Capel Mair
  • solo, Gitana, Miss Lowther;
  • glee, “Beautiful Rain,” (encore)
  • Mr. W. Thomas a’i barti ;
  • solo, “Llwybr yr Wyddfa,” (encore a chanodd “Bwthyn bach melyn fy Nhad”)
  • Pedwarawd Eos Myrnach “Geiriau Mam,”
  • Mr. D. Charles a’i gyfeillion
  • Mr. D. Davies solo, Baban diwrnod oed,” (encore)
  • Mr. D. Thomas, Tyrhos; cân Darby and Joan
  • Corws Miss Letitia Evans , “Comrades Song of Hope,” (encore)
  • Parti Llanfyrnach solo, Jerusalem,”
  • Deuawd Mr. T. Lewis; “As it fell upon a day,”
  • Misses Lowther ac Evans. Part 2-Glee, Yr Haf,”
  • Parti Deuawd Capel Mair, O Gartref yr Eryr,” (encore a chanodd y ddeuawd o “Blodwen “)
  • Eos Myrnach a Mrs Jones solo, Hen Ffon fy Nain,” (encore)
  • Mr. D. Thomas, Tyrhos; solo, Alone on the Raft,” (encore)
  • Eos Myrnach; corws, “Y Gof,”
  • Parti Llanfyrnach; solo, Pleser-fad Niagara,”
  • Mr. W. Thomas;
  • trio, Tri Chymro,” (encore)
  • Mr. D. Davies a’i gyfeillion corws, “The Martyrs of the Arena,” (encore)
  • Parti Llafyrnach Party
  • finale, Hen Wlad fy Nhadau,” gan Eos Myrnach a chorwas gan y gynulleidfa.

Wedyn (Dydd San Steffan erbyn hyn siwr o fod!) y diolchiadau gan y Cadeirydd.

  • 25 (Mer.) 1889

Cyngerdd ym Methania

Cyngerdd fawreddog a chynulleidfa dda. Darllenwyd llythyr gan Mr. Morgan-Richardson, Noyadd-Wilym, y llywydd i fod ond iddo ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol ac yn amgau £2 at yr achos. Etholwyd Mr. W. Lewis, Banc Brecon i’r gadeiryddiaeth. Yr arweinydd oedd  Parchg T. J. Morris

Dyma’r rhaglen:

  • Pianoforte solo, Miss Gwynne, R.A.M. solo, “Baner ein Gwlad,”Gwyn Alaw” (encore  – “My Pretty Jane”);
  • solo, “Remember me,” Miss S. A. Esau;
  • solo, Death of Nelson,” Mr. Wm. Thomas (encore – cân Gymreig);
  • solo, The Blind Girl to her harp,” Miss S. A. Jenkins (encore – “Trip, Trip”);
  • solo, “I had a dream,” Mrs. S. A. Owen;
  • solo, The White Squall,” Mr. W. Jones
  • solo, “O dywed im’, awel y Nefoedd,” Llinos Gwent;
  • cystadleuaeth solo, “Mair Magdalen,” 10 yn cystadlu, 3 yn canu ar y llwyfan, y gorau oedd Miss Lizzie Jenkins, Greenfield-square
  • deuawd, Martial Spirit,” Gwyn Alaw a Mr. William Thomas;
  • Côr plant, Y Galwadau,” 3 chôr, namely, Bethania (arweinydd Mr. William Jenkins), Tabernacle (arweinydd Mr. John James), a Mount Zion (arweinydd Mr. D. Ivor Evans). Y wobr rhwng Bethania a Mount Zion
  • Pedwarawd, Mount Zion Party duet, “Howel, Howet, Llinos Gwent and Gwyn Alaw (encored, and repeated);
  • solo, Pleserfad Niagara,” Mr. William Thomas;
  • solo, Good Shepherd,” Gwyn Alaw
  • cystadleuaeth solo, Y Morwr Lion,” 5 yn cystadlu, y wobr i Mr. William Jones
  • cystadleuaeth côrawl Cwynfan Prydain,” 2 gôr , namely, Tabernacle (Mr. E. Ceredig Evans), and Bethania (Mr. William Jenkins), y wobr i Gôr Bethania
  • cân, Aunty,” Llinos Gwent (encore – The Donkey Cart”)
  • finale, Hen Wlad fy Nhadau.”

Mae’n deg dweud bod pawb yn edmygu llais soprano Miss S. A. Jenkins (Llinos Gwent) a dylai gael dyfodol disglair os yw’n troi’n broffesiynol. Daeth y cyfan i ben â diolchiadau i’r Cadeirydd, Mr. Morgan-Richardson, y gyfeilyddes , Miss Gwynne , a’r cantorion.

  • 25 (Maw.) 1888 Y WYRCWS. Cafodd y trigolion, trwy haelioni arferol  Mr. Brigstocke, cadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwyr, cinio ardderchog o gig eidion, plwm pwdin a chwrw, â dwy owns o dybaco i’r rheini oedd yn smygu ac orenjis i’r rhai nad oedd, ac i’r menywod a’r plant. Mr. Thomas Llewelyn a Mr. Lewis Davies oedd yn gyfrifol am ddosbarthu. Diolchwyd yn daer i bawb. Ar ôl cinio daeth Mr. John James, Llandudoch, a’i gôr heibio a chanwyd nifer o ganeuon er mawr ddifyrrwch y trigolion.
  • 25 1909 Bethania

Nos Nadolig ym Methania, Aberteifi, 1909

Nos Nadolig ym Methania, Aberteifi, 1909

  •  25 (Mer.) 2013 Ar y teledu heno: Downton Abbey v. Mrs Brown’s Boys Christmas Special (Ai nôl neu ‘mla’n inni’n mynd?)

NADOLIG LLAWEN I BAWB SYDD WEDI DILYN Y NODIADAU PITW RHAIN AR HYD Y FLWYDDYN.

Rhaid meddwl am rywbeth gwahanol erbyn y flwyddyn nesaf. Mwy o gig ar yr esgyrn rhain efallai i ddechrau.

17 Hydref (1880) Bedyddio 10 yn y Teifi

  • 17 1880 (Sul) Bedyddiwyd deg person yn yr afon Teifi ger y Netpool gan y Parchg John Williams, Bethania pnawn Sul o flaen torf o bobl. Y deg oedd :

Griffith Griffith, mab Thomas Griffiths, groser, Pendreuchaf; John Williams, mab William Williams, saer, Pendre isaf; David Jenkins, mab John Jenkins, waggoner, Heol Fair; James Thomas, morwr, Feidrfair; Anne Davies, merch Thomas Davies, gweithiwr yn Parcytrap; Anne Thomas, merch gwraig John Jenkins, masiwn, Pendre uchaf; Rachel Griffiths, merch John Griffiths, tinman, Lôn Heol Fair; Frances Heyes, White Hart, Heol Fair; Anne James, merch David James, Lôn Eben a  Margaret Jones, morwyn Mr Levi James, ironmonger.