4 Hydref (1940) Tân yng Ngwesty’r Cliff

  • 4 1940 (Gwe.) Tân yng Ngwesty’r Cliff yn achosi £200 o ddifrod.
  • 4 1892 (Maw.) Marwolaeth y Cyrnol C. W. Miles, perchennog Stad y Priordy yn Nhy Burton Hill, Malmesbury swydd Wiltshire. Ef oedd 6ed mab Phillip John Miles, AS. Dilynwyd  y Cyrnel gan y Capten Napier Miles o’r Gwarchodlu Bywyd Cyntaf.
  • 4 1843 (Mer.) 129 o aelodau gan Y Gwir Iforiaid Aberteifi

18 Mehefin (1880) Y Parchg John Williams yn cychwyn ym Methania

  • 18 1760 (Sad.) Cyfarfod swyddogol cyntaf y ‘Sea Sarjants’ yn y ‘Long Room’ yn y Blac Leion.
Y Parchg John Williams(1850–1929)

Y Parchg John Williams (1850–1929)

  • 18 1880 (Gwe.) Y Parchg John Williams yn cychwyn ei weinidogaeth ym Methania.
    Daeth y Parchg John Williams i Fethania o Benbedw. Yn frodor o Lansadwrn, roedd ef yn weinidog poblogaidd ac yn berson amlwg iawn ym mywyd gwleidyddol y dref a’r sir. Daeth yn aelod o Fwrdd Ysgol Aberteifi yn 1882, ac yn gadeirydd y corff hwnnw ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn 1895 – flwyddyn cyn i’r ysgol newydd agor – daeth yn gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Aberteifi a bu yn y swydd honno nes iddo ymddiswyddo yn 1913. Cafodd ei ethol unwaith yn rhagor ym mis Mai 1929. Daeth yn gynghorydd sir yn fuan ar ôl sefydlu’r Cyngor Sir yn 1889 a bu’n gadeirydd ddwywaith, sef yn 1894–5 ac eto yn 1914–15. Etholwyd ef yn henadur yn 1916. Gwasanaethodd ar bron pob pwyllgor o fewn y Cyngor Sir a bu’n gadeirydd y pwyllgor addysg am dair blynedd yn olynol ac yn gadeirydd pwyllgor yr heddlu ddwywaith. Bu hefyd yn aelod o Lys colegau Aberystwyth a Chaerdydd am flynyddoedd. Yn 1903 daeth yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid ac o 1911 ymlaen fe oedd cadeirydd y Bwrdd hwnnw. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Addysg Aberteifi a’r Cylch ac yn gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau lleol. … Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd.

Dringodd hefyd o fewn enwad y Bedyddwyr yng Nghymru a chyrraedd llywyddiaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1905. Roedd yn Rhyddfrydwr i’r carn a phan fu farw yn 1929 derbyniodd swyddogion Bethania delegram oddi wrth y cyn brif weinidog David Lloyd George:

‘Deeply regret to hear of the death of my old friend, Rev. John Williams … It will be a real loss not only to Cardiganshire but to Liberalism throughout Wales.’

Roedd y Parchg John Williams, siwr o fod, yn un o’r pobl mwyaf dylanwadol tref Aberteifi yn ystod diwedd y 19eg ganrif a degawdau cyntaf yr 20ed ganrif.

9 Mai (1653) Geni Cyngor Tref Aberteifi – ble mae’r balwns?

  • 9 1994 (Llun.) Cinio i goffau penblwydd Cylch Cinio Aberteifi yn 21 oed yng Ngwesty Castell Malgwyn.
  • 9 1953 (Sad.) Agoriad swyddogol y Netpool gan Roderic Bowen a Col Harewood Williams
  • 9 1860 (Mer.) Cyfarwyddiadau i Syrfewr y dref osod postyn ger yr iet uwchben Ffynnon y Netpool. Yr enw lleol ar yr iet oedd Iet Barney ar ôl Mr Barnaschoni, dyn gwerthu  watshys yn Stryd Sant Mair oedd yn arfer mynd am wac bob dydd lan at yr iet.
  • 9 1653 (Llun.) Geni Cyngor Tref Aberteifi.

3 Mai (1824) Sefydlu’r Cymreigyddion yn yr Angel

  • 3 1824 (Llun) Sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Aberteifi yn yr Angel. Cyfarfodydd Dydd Mercher cyntaf pob mis. Yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf: Thomas Bowen, esq., islywydd Stephen Williams; cadeirydd Y Parchg John Herring, Bethania; trysorydd David Mathias; ysg. James Jones; a’r bardd J M Jones (Ioan Cunllo).

 

Cymdeithas, urddas a harddwch – y wlad

A’i haelodau harddflwch;

Ac eres dan Gwladgarwch

Trwy’n mynwesau’n fflamiau fflwch.

 

Brwd haf yn Aberteifi – yw weithian

Ar yr Iaith lan wisgi;

Boneddion, bawb, yn noddi

Ffrydiau per ei phurdeb hi.