Gŵyl Fawr Aberteifi

Oherwydd cyfyngiadau Cofid ni chynhelir yr eisteddfod eleni eto. Sdim ots – dyma gyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau’r gorffennol o gasgliad Keith Ladd o raglenni, posteri a lluniau.

Clawr rhaglen Eisteddfod 1898. Enillydd y gadair oedd Mr D B Jones, Co-op stores, Blaenau Ffestiniog ond doedd dim sôn am Mr Jones ar y diwrnod felly anghofiwyd am y seremoni!

Roedd Eisteddfod 1909 yn un arbennig iawn, a miloedd wedi dod i’r dre i fod yn bresennol yn y babell fawr ym Mharc-y-reiffl. Tom Evans (Tel), Cwmaman, Aberdar a enillodd y gadair. Cafodd ei eni yn Aberteifi ac roedd Telynog yn wncwl iddo. Am fwy o hanes Tel cliciwch fan hyn.

Cynan yn coroni Dic Jones yn 1955.
Pwyllgor 1967: Rhes gefn: Lewis, Llywelyn, Morris (Syrfeiwr y dre), J H Johns, ?, ?, Ben Griffiths; R. Ll. Peregrine, Hughes, ‘Tivy-side’, ?
Rhes flaen: ?, W. R. Jones, Britt Griffith (maer), Andrew Williams, Y Parchg Osborne Thomas, Lloyd, Owen M. Owen.
Yn sefyll Rhes gefn: Terry Thomas, Morris (Syrfeiwr y dre), Alun Tegryn Davies, ?, Trysorydd y dre, Berwyn Williams, ?, Charles Williams, Y Parchg Milton Jenkins, Lewis, David Peregrine, Richards, Y Parchg Arthur Evans-Williams, Y Parchg Arwyn Phillips
Yn eistedd Rhes flaen: Williams, Gwynfi Jenkins, Parry?, Owen M. Owen, Price, ?
Ruth Pritchard, Cynwyl Elfed, y ferch gyntaf i ennill y gadair – yn 1995.
Owen M. Owen (1912-1991). Apwyntiwyd ef yn Ysgrifennydd yn 1953. Cynghorydd, Maer Aberteifi dair gwaith – 1975, 1977 a 1989. Cynghorydd Dosbarth a chadeirydd yn 1979. MBE yn 1979.

Pobl Aberteifi 4: Thomas Evans (Tel)

Thomas Evans (Tel; 1861–1929)

Efallai bo chi wedi clywed am Telynog, ond dyma ei nai Tel. Ganwyd yn y Mwldan Uchaf yn 1861. Roedd ei dad John (brawd Telynog) yn gweithio fel crydd, ac yn godwr canu ym Methania (1864–76). Symudodd Thomas i Aberdâr yn 1888. Gweithiodd dan ddaear fel glowr a dyn tân. Roedd ef hefyd yn fardd arbennig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol. Bu farw ei wraig Ruth yn 1908. Yn 1909 enillodd y gadair yn eisteddfod Llwynypia. Fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Fawr ‘Semi National’ Aberteifi yn 1909 o flaen torf o 8, 000. Teitl y gerdd oedd ‘Angladd ar y Môr’. Enillodd 10 cadair i gyd. Roedd hefyd yn gerddor gwych yn arwain corau a Chymanfaoedd Canu ar draws Cymru. Roedd yn weithgar yn y gymuned lofaol fel aelod pwysig o’r Pwyllgor y ‘Sliding Scale’. Ganwyd 8 o blant iddo, dau ohonynt yn feirdd –Taliesin (ap Tel) a Ceridwen (Telferch).

Cofio Tel
Angladd ar y Môr. Pryddest Gadeiriol Aberteifi, 1909.

Saturday Night at the Black – Llyfr newydd

Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Saturday Night at the Black: Cardigan in the Swinging Sixties. Llyfr 183 o dudalennau; dros 100 o luniau, nifer mewn lliw, gan William H. Howells. Pris £10. Argraffwyd gan E. L. Jones, Aberteifi. ISBN 978 1 78280 7698

Odi Aberteifi a’r ardal yn barod am hwn?

Mae’n stori ryfeddol! Y cefndir cychwynnol yw’r cysylltiad agos rhwng rhai o gymeriadau’r dref a chymeriadau’r byd cerddorol oedd yn datblygu yn Lerpwl ar y pryd. Pobl fel y dramodydd Alun Owen, a ddaeth i fyw yn Llandudoch rhwng 1963 a 1967; Allan Williams, rheolwr cyntaf y Beatles; Bill Harry, golygydd y papur dylanwadol y Mersey Beat; Bob Wooler, DJ enwog y Cavern yn Lerpwl; a George Melly, a brynodd dŷ gwyliau ym Mhen-y-bryn. Croesawyd y criw brith yma, ynghyd â’u partneriaid, yn gynnes gan Frank Aspinall, perchennog y Blac Leion, a chyda’u cymorth hwy llwyddodd i drefnu bod bandiau o Lerpwl yn tyrru i Aberteifi i chwarae yn y Blac.

Cewch restr lawn o’r grwpiau a ddaeth yno rhwng 1963 a 1973. I ddechrau o’r Cavern, yn Lerpwl y deuent – sawl un wedi ennill eu plwyf yn y Kaiserkeller a chlybiau eraill yn Hamburg. Ŷch chi’n cofio’r noson y daeth Screaming Lord Sutch i’r dre? Beth am Rory Storm a’r Hurricanes; Ian a’r Zodiacs; y Clayton Squares; Vince Earl a’r Talismen; Freddie Starr a’r Nightriders; Sony Webb a’r Cascades; Derry Wilkie a’r Pressmen; y Kirkbys; y Masterminds, y Chessmen a’r Kinsleys a nifer fawr o rai eraill?

Yn ddiweddarach deuai grwpiau o dde Cymru: chi’n cofio James Hogg; yr Iveys; Haverson Apricot; Peter Shane a’r Vikings – heb anghofio’r bandiau lleol megis Ricky a’i Raiders a Strawberry Maize?

Bob nos Sadwrn deuai tua 200 o bobl ifainc i mewn i’r dre o ardal eang sir Aberteifi, sir Benfro a sir Gaerfyrddin i ddawnsio, i wrando ar gerddoriaeth ac i fwynhau. Ond nid pawb oedd yn hapus gyda’r datblygiadau hyn. Roedd rhieni’n anfodlon fod eu plant yn mynychu’r fath le, a chynghorwyr parchus Aberteifi yn anhapus fod y Blac yn dod ag enw drwg i’r dre.

Nid yw Aberteifi wedi gweld dim byd tebyg, na chynt nac wedyn.

Darllenwch y gwir am gysylltiad y Beatles a Gŵyl Fawr Aberteifi!

Darllenwch am y cysylltiad agos rhwng ‘A Hard Day’s Night’ a Llandudoch.

Cewch agoriad llygad wrth ddarllen tystiolaeth nifer o’r trigolion a fu’n rhan o’r bwrlwm.

Allan yn siopau NAWR £10.

neu gallwch ebostio netpool1960@gmail.com er mwyn archebu trwy’r post £12.50.

 

Ceri Wyn yw Bardd y Gadair yn Eisteddfod Sir Gâr 2014

Ceri Wyn yn ennill y gadair yn Eisteddfod sir Gâr 2014

Ceri Wyn : Eisteddfod Sir Gâr 8.8.2014

Ceri Wyn : Eisteddfod Sir Gâr 8.8.2014

Y Beirniaid: Llion Jones, Alan Llwyd ac Idris Reynolds

Y Beirniaid: Llion Jones

Y Beirniad: Llion Jones

“Y mae Cadwgan yn llwyr haeddu Cadair Eisteddfod Sir Gâr” – Llion Jones

Alan Llwyd ac Idris Reynolds

Alan Llwyd ac Idris Reynolds

Y Beirniaid: Alan Llwyd ac Idris Reynolds

“Mae Cadwgan y gynganeddwr hynod o fedrus, mae’n amlwg, ond methodd gyda’r awdl hon, yn fy marn i” – Alan Llwyd   [Be?]

“Mae’n fardd disglair ac, yn fy marn i, yn llwyr deilyngu Cadair Eisteddfod Sir Gâr eleni” – Idris Reynolds    [eitha reit]

Y Babell Binc yn llawn

Y Babell Binc yn llawn

LLOCHES

“lle bo harbwr tandwri, a Mwldan

yn ymildio i Deifi

yn dawel, fel i fwli.

***

“tua’r Tywyn, route unig

hyd foryd Nantyferwig,

route treiglade’r tir gwledig

***

“…Pe elet parth â Netpool,

gwelet ddeuddeg carreg cwl

***

“yn llafar o Drebared i’r aber

tua hewl Gwbert â’i houl a’i gwybed.

1 Hydref (1953) Sassie Rees yn dod i Eisteddfod Aberteifi

  • 1 1953 (Iau.) Cyhoeddi Eisteddfod Fawr Aberteifi: Cyngerdd mawreddog: Parti Meibion Godre’r Aran, Llanuwchllyn, Telynores Uwchlyn, Triawd y Llan, John Abel Jones (adroddwr), Sassie Rees (soprano)
  • 1 1921 (Sad.) Cais gan D. T. James, Gwalia i osod polion pren er mwyn carion gwifrau trydan ar hyd Heol y Gogledd, Gordon Tce. a Heol y Gwbert.