Y Ffair ‘slawer dydd

Dim ffair eleni oherwydd cyfyngiadau’r Cofid. Mae’n debyg y gellid olrhain y ffair nôl yr holl fordd yn ddi-dor i 1302. Ond ‘doedd dim ffair ar 10 Tachwedd 1861 chwaith – oherwydd mai Dydd Sul oedd e!

1861 –Y Ffair ar y 9ed yn lle’r 10ed!

Dyma atgofion John Davies yn y Teifiseid, 19.11.1920: Atgofion Hanner Canmlynedd:

Yr oedd y ffair yn cael ei chynnal ar Bank Billy Finch. Trwy gydol y nos buasai tyrfa fawr o ddynion yn brysur yn y tenta i werthu cwrw, tuag ugain o’r rhai hyn. Yr oedd tân cwlwm mawr yng nghanol pob un o’r pebyll hyn, a llestri i dwymo y cwrw, ac eisteddleodd cyfleus i fwynhau y trwyth meddwol a gedwid ymhen pellaf y babell…

Tua 7 o’r gloch bore’r ffair yr oedd y gweision a’r morwynion a’r meistri yn tyrru i mewn. Ai’r gweision yn rhestr o’r ochr isaf i’r Lamb hyd uwchlaw Capel Mair ar yr ochr chwith, a’r morwynion ar yr ochr dde, a’r meistriaid a’r meistresi yn cerdded yn ôl a blaen cael pigo y goreu at eu llygad, ac yn cyflogi rheiny os medrent. Wedi cyfweld… i’r dafarn a hwy, a rhoddi damper o gwrw i’r gweision a glasied o gin a dwr twymyn a siwgr i’r morynion. Erbyn hanner awr wedi wyth i naw o’r gloch fe fuasai cant a hanner neu ddau cant wedi cytuno am y flwyddyn…

Ond dyma gyfle i gofio nôl i gyfnodau hapusach. Diolch yn fawr iawn i Keith Ladd am y lluniau gwerthfawr.

1890au – cyn cyfnod y Pav!
A dyma fe’r Electrical Picture Palace.
Mwy o adloniant pan ddaeth y Pav i fod.
Rhain oedd yn symud y ffair o le i le.
Mae pethau wedi newid ond y Teulu Studt sydd wedi bod yn dod yma am genedlaethau.
Diwrnod Ffair, 1990au. O flaen y Guildhall.
Diwrnod Ffair, 1990au o flaen y Ship!
Diwrnod Ffair, 1990au a Stryd y Priordy yn llawn.
Diwrnod Ffair, 1990au a’r stondynau yn mynd lawr am y bont
Diwrnod Ffair, 1990au. Y Stryd Fawr ac anodd cadw at y rheol 2m adeg yma!
Diwrnod Ffair, 1990au a chyrraedd Parc y Ffair

Beth ichi’n cofio am ddiwrnod Ffair?

Aberteifi: y dre a’r wlad, gan Ceri Wyn (lluniau gan Richard Outram)

Aberteifi: Y dre a’r wlad, gan Ceri Wyn Jones; lluniau gan Richard Outram

Mae gan Aberteifi le annwyl yng nghalonnau’r Cymry.

Taith bersonol o amgylch Aberteifi a’i chyffiniau yw’r gyfrol hon, taith drwy gyfrwng ysgrifau a cherddi gan un sy’n falch o fod yn un o fois y dre.

Gwasg Carreg Gwalch. £14.50, clawr caled. Anrheg Nadolig berffaith!

Dyma ymateb personol i fywyd y dref a’r ardal gan Ceri Wyn a lluniau arbennig gan Richard Outram.

Ysgrifau a cherddi difyr iawn ond dyma’r tro cyntaf i fi ddarllen disgrifiad o Eben’s Lane fel “Porth i’r isfyd.”

“Ydych chi’n ddigon dewr i fentro i Eben’s Lane?” gofynna. Fel un a gafodd ei eni a’i fagu yn y Lôn ac a fu’n byw yno am bymtheng mlynedd gyntaf fy oes – ches i ddim problem!

“…porth i oes arall yw Lôn Eben, ffordd o gyrraedd rhywle nad yw yno.”

Ac mae’r Mwldan yn dal i gael ‘bad press’ hefyd. Dylanwad llyfr Idris Mathias, Last of the Mwldan siwr o fod.
Mae hanes gogoneddus cymuned ddosbarth gweithiol lle roedd pawb yn siaradwyr Cymraeg uniaith eto i’w hadrodd. Watch ddis sbês!

Pobl Aberteifi 40: Syr Lawrence Hugh Jenkins (1857–1928)

Syr Laurence Hugh Jenkins (22 Rhag 1857–1 Hyd 1928), mab R. D Jenkins, Y Priordy a Chilbronnau, Llangoedmor

Hyd y gwela’i nid oes cyfeiriad at Lawrence H. Jenkins yn Y Bywgraffiadur, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography ganed Lawrence Hugh Jenkins ar 22 Rhag 1857 yn y Priordy, Aberteifi. Mab ieuengaf Richard David Jenkins ydoedd, ac unig blentyn ail briodas R D Jenkins ag Elizabeth, merch Thomas Lewis, Machynlleth, llawfeddyg yn y Llynges. Mae cyfrifiad 1861 yn cadarnhau’r man geni – Aberteifi ac nid Llangoedmor!

Addysgwyd Lawrence Hugh Jenkins yng Ngholeg Cheltenham (1869–77); a Rhydychen; cafodd ei alw i’r Bar yn 1883. Yn ôl Cofrestr Mynediad Lincoln’s Inn ar gyfer 11/11/1879 “Laurence Hugh Jenkins of Univ Coll., Oxford (21), the youngest son of Richard David J., of Cilbroan, co. Cardigan, sol. JP.”

Ym 1892 priododd Lawrence H. Jenkins â Catherine Minna Brown, merch perchnogion planhigfa siwgr o’r Natal.

Urddwyd ef fel Prif Ustus Uchel Lys Bombay am ddeg mlynedd (1898-1908). Dewiswyd Jenkins hefyd fel aelod o Gyngor India.

Disgrifiodd John Morley (Ysgrifennydd Gwladol India) Lawrence Jenkins fel hyn:

one of the two or three most valuable men of my Council. He is a remarkably clear-headed man, with a copious supply of knowledge in law, as well as of political imagination … a fine fellow … of immense value to me about Reforms.

Urddwyd ef yn farchog ar 17 Awst 1899. O 1909 tan 1915 ef oedd Prif Ustus Uchel Lys Calcutta. Gwasanaethodd hefyd fel Uchel Feistr Seiri Rhyddion Bombay a Bengal.

Bu ef yn amlwg mewn achosion megis achos Cynllwyn “Alipore Bomb”.

Ymddeolodd Jenkins ym 1915, ac ym 1921 fe oedd Llywydd Sioe Amaethyddol Aberteifi. Sioe llwyddiannus a gynhaliwyd yn Stepside â dros 400 o gystadleuwyr.

Yn 1923 roedd Syr Lawrence Hugh Jenkins, y Foneddiges Jenkins a Clodrydd Jenkins yn byw ym Mhlas Cilbronnau. Yn Ionawr 1924 apwyntiwyd ef fel Cadeirydd Llysoedd Chwarter sir Aberteifi.

Mae S. V. FitzGerald, yn yr Oxford Dictionary of National Biography, yn crynhoi ei gymeriad a’i gyfraniad fel hyn:

Jenkins’s legal equipment when he first went to India was a keen dialectical mind, a thorough grasp of English equity principles, and a power of expressing himself in clear and forcible English. He soon added a mastery of Indian law and custom astonishing in one who did not visit India until his thirty-ninth year and then served only in Presidency towns; many of his finest judgments enlightened dark questions of Hindu law. He was business-like in administration, and men he chose for high responsibility justified his choice.

A sociable man, Jenkins successfully devoted himself to breaking down the barriers then separating British and Indians, especially in the Presidency towns. He came to know the leading Indian moderate politicians, and sympathized with their aims.

Bu farw Jenkins yn ei gartref yn Llundain ar 1 Hydref 1928.

Dadorchuddiwyd ffenest goffa iddo yn Eglwys S Cynllo ar 7 Rhag 1930.

(Oes rywun yn gallu cyfrannu llun, os gwelwch yn dda?)

Pobl Aberteifi 39: William Gambold (1672–1728)

Dywed ei fab, yr esgob Gambold (mewn llythyr a argraffwyd yn y rhagymadrodd i argraffiad cyntaf English-Welsh Dictionary, John Walters), iddo gael ei eni yn Aberteifi 10 Awst 1672, o deulu parchus a roes addysg dda iddo ar gyfer urddau eglwysig.

Yn ôl Foster (Alumni Oxon.), yr oedd yn 18, ac yn ‘fachgen tlawd,’ mab i William Gambold o dref Aberteifi, pan ymaelododd yn S. Mary Hall, Rhydychen, 23 Mai 1693. Symudodd i Goleg Exeter yn 1694, ond nid oes gofnod iddo raddio.

Yn 1707 yr oedd yn cadw ysgol yn Llanychaer ac ar 1 Rhagfyr 1709 daeth yn rheithor Casmael gyda Llanychaer, sir Benfro.

Yn Rhydychen yr oedd yn gyfaill i Edward Lhuyd a dywed Lhuyd iddo gyfrannu gwybodaeth at ychwanegiadau Lhuyd i  argraffiad Gibson o Britannia Camden.

Mae cyfres o lythyron a ysgrifennodd at Edward Lluyd yn Rhydychen rhwng 1693 a 1697 yn ymddangos fan hyn:

https://tinyurl.com/y7dde7wy

Maent yn cyfeirio at nifer o ddarganfyddiadau archaeolegol yn Llandudoch a Nanhyfer. Yn anffodus nid yw’n nodi yn union ymhle yn Aberteifi roedd e’n byw.

Mor gynnar â 1707 cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg, a daeth hwnnw’n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef yn ddiweddarach (gan ddamwain) i gyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffennwyd y geiriadur yn 1722, ond methodd Gambold hel digon o arian i’w gyhoeddi tan 1727 fel A Grammar of the Welsh Language. Bu farw 13 Medi 1728. Ailargraffwyd y llyfr yn 1817 (Caerfyrddin) a chyhoeddwyd trydydd argraffiad yn 1833 (Bala).

Mae ei ewyllys yn ymddangos fan hyn:

https://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/CmnWills#Gambold1728

“To [my] eldest son, John Gambold, that whole little Burage of mine, together with each and every stable, Outhouses, Offices, Back-sides and Gardens, unto the same belonging, situate, lying and being in the Town of Cardigan…”

Gadawodd wraig, Elizabeth, pedwar mab ac un ferch.