Pobl Aberteifi 50: David R. Edwards (Dave Datblygu; 1964-2021)

Beibl Datblygu

Pobl Aberteifi 48: Edward Wollstonecraft (1768-1848)

Claddwyd Edward Wollstonecraft ym mynwent Aberteifi ar 17 Chwefror 1848 [B 2]

Cyfenw’r dyn a ddaeth i’m sylw gyntaf yng nghofnodion claddu’r Eglwys. Tybed a oedd y gŵr yn perthyn i’r enwog Mary Wollstonecraft, y wraig a sgrifennodd  A Vindication of the Rights of Woman (1792)?

Ganwyd Edward Wollstonecraft ym 1768 gan dreulio rhan fwyaf o’i oes fel marsiandwr yn Gibraltar. Mary oedd enw ei wraig. Dychwelodd ar ôl ymddeol i fyw yng Nghaerfyrddin. Tybed pam y cafodd ei gladdu ym mynwent Aberteifi?

Dyma ddisgrifiad o’r cymeriad gan ei or ŵyr Godfrey Wordsworth Turner:

He was in England when I was a child of very tender years, and stayed in our house till I was nearly seven; and again he visited my father, his nephew, when I had reached the age of fifteen or sixteen; after which time he retired to a small estate in Carmarthenshire, where he died.

One of his excellent traits was the love of educating children and grown persons less informed than are most children. It was a much commoner thing in those days than it now is for servants to be wholly illiterate; and wherever, and whenever, the grandly simple benevolence of this venerable man led him to detect a case of that kind, he instantly set himself to work, in his own direct and efficient way, to remedy the defect.

My father’s household owed much to his labour. A serving-woman who, when not young, and not comely, was unable to tell one letter from another, learned to read well and to write a very neat hand from his tuition; and could draw up the bill of fare for dinner, not in bad French but good English.

Art Studies of Home Life by Godfrey Wordsworth Turner (daphnejohnson.co.uk)

A’i berthynas â’r Mary enwog? Roedd tad Edward – gŵr o’r enw Edward Bland Wollstoncraft (1735/6—85) yn hanner cefnder i Mary (1759—97).

Pobl Aberteifi 46: Derek Greenslade Childs

O Stryd William i Eglwys Gadeiriol Llandaf;
mab pobydd a ddaeth yn Archesgob Cymru.

Derek Greenslade Childs (14 Ionawr 1918 – 18 Mawrth 1987)

Yn ôl ‘Wikipedia’ treuliodd Derek Childs ei blentyndod yn Nhalacharn. Nid oes son am ei fan geni.

Nid yw wedi cyrraedd Y Bywgraffiadur Cymreig eto.

Bedyddiwyd Derek Greenslade Childs ar 10 Mawr 1918 yn Eglwys S Mair, Aberteifi gan B. J. Jones, y curad. Enw ei rieni oedd Alfred John a Florence Theodosa. Cyfeiriad y teulu oedd 17 Stryd William.

Roedd Alfred yn wreiddiol o Dalacharn, a Florence (Jones) oedd yn byw yn 17 Stryd William. Priodwyd y ddau ar 17 Mawrth 1916 yn Eglwys S Mair. Mwy na thebyg daeth Alfred i fyw i Aberteifi yr adeg yma. Pobydd oedd wrth ei alwedigaeth.

Addysgwyd Derek yn Ysgol Ramadeg Hen-dy gwyn ar Daf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd theoleg yng Ngholeg Theoloeg Caersallog, cyn ei ordeinio yn 1942.

Fe oedd Esgob Mynwy (1970-86) ac Archesgob Cymru (1983-86)

Bu farw mewn damwain car yn 1987.

Cyhoeddwyd Living authority: Essays in memory of Archbishop Derrick Childs yn 1990.

Pobl Aberteifi 45: Dynion yn unig

Dynion yn unig yn gorymdeithio, tua 1900. Mae Arthur Ross Evans (â chap fflat a mwstas, ger y fenyw sy’n dal y babi) yng nghanol y llun yn edrych yn syth i’r camera. Mae’r cerddwyr yn dod i fyny Pendre, ac yn mynd heibio’r Ysgol Gynradd (ble mae’r hen Ganolfan Iechyd heddiw). Roedd ty’r prifathro o flaen yr ysgol a gellir gweld y wal a’r ffens (chwith cefn y llun). Beth oedd pwrpas yr orymdaith tybed? Wel ar dop y llun mae rhywun yn cario baner a chroes lliw gole arni.
Ar yr ail dy i fyny o’r Ysgol mae hysbyseb ‘Fry’s Chocolate’ yn y ffenest. Yn ôl cyfrifiad 1901 Margaret Williams oedd yn byw yma o 1901–14 gyda’i phlant David Gwilym, Mary Elizabeth a John Huw. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth ychwanegol. (Diolch eto i S. G. King)

Pobl Aberteifi 40: Syr Lawrence Hugh Jenkins (1857–1928)

Syr Laurence Hugh Jenkins (22 Rhag 1857–1 Hyd 1928), mab R. D Jenkins, Y Priordy a Chilbronnau, Llangoedmor

Hyd y gwela’i nid oes cyfeiriad at Lawrence H. Jenkins yn Y Bywgraffiadur, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography ganed Lawrence Hugh Jenkins ar 22 Rhag 1857 yn y Priordy, Aberteifi. Mab ieuengaf Richard David Jenkins ydoedd, ac unig blentyn ail briodas R D Jenkins ag Elizabeth, merch Thomas Lewis, Machynlleth, llawfeddyg yn y Llynges. Mae cyfrifiad 1861 yn cadarnhau’r man geni – Aberteifi ac nid Llangoedmor!

Addysgwyd Lawrence Hugh Jenkins yng Ngholeg Cheltenham (1869–77); a Rhydychen; cafodd ei alw i’r Bar yn 1883. Yn ôl Cofrestr Mynediad Lincoln’s Inn ar gyfer 11/11/1879 “Laurence Hugh Jenkins of Univ Coll., Oxford (21), the youngest son of Richard David J., of Cilbroan, co. Cardigan, sol. JP.”

Ym 1892 priododd Lawrence H. Jenkins â Catherine Minna Brown, merch perchnogion planhigfa siwgr o’r Natal.

Urddwyd ef fel Prif Ustus Uchel Lys Bombay am ddeg mlynedd (1898-1908). Dewiswyd Jenkins hefyd fel aelod o Gyngor India.

Disgrifiodd John Morley (Ysgrifennydd Gwladol India) Lawrence Jenkins fel hyn:

one of the two or three most valuable men of my Council. He is a remarkably clear-headed man, with a copious supply of knowledge in law, as well as of political imagination … a fine fellow … of immense value to me about Reforms.

Urddwyd ef yn farchog ar 17 Awst 1899. O 1909 tan 1915 ef oedd Prif Ustus Uchel Lys Calcutta. Gwasanaethodd hefyd fel Uchel Feistr Seiri Rhyddion Bombay a Bengal.

Bu ef yn amlwg mewn achosion megis achos Cynllwyn “Alipore Bomb”.

Ymddeolodd Jenkins ym 1915, ac ym 1921 fe oedd Llywydd Sioe Amaethyddol Aberteifi. Sioe llwyddiannus a gynhaliwyd yn Stepside â dros 400 o gystadleuwyr.

Yn 1923 roedd Syr Lawrence Hugh Jenkins, y Foneddiges Jenkins a Clodrydd Jenkins yn byw ym Mhlas Cilbronnau. Yn Ionawr 1924 apwyntiwyd ef fel Cadeirydd Llysoedd Chwarter sir Aberteifi.

Mae S. V. FitzGerald, yn yr Oxford Dictionary of National Biography, yn crynhoi ei gymeriad a’i gyfraniad fel hyn:

Jenkins’s legal equipment when he first went to India was a keen dialectical mind, a thorough grasp of English equity principles, and a power of expressing himself in clear and forcible English. He soon added a mastery of Indian law and custom astonishing in one who did not visit India until his thirty-ninth year and then served only in Presidency towns; many of his finest judgments enlightened dark questions of Hindu law. He was business-like in administration, and men he chose for high responsibility justified his choice.

A sociable man, Jenkins successfully devoted himself to breaking down the barriers then separating British and Indians, especially in the Presidency towns. He came to know the leading Indian moderate politicians, and sympathized with their aims.

Bu farw Jenkins yn ei gartref yn Llundain ar 1 Hydref 1928.

Dadorchuddiwyd ffenest goffa iddo yn Eglwys S Cynllo ar 7 Rhag 1930.

(Oes rywun yn gallu cyfrannu llun, os gwelwch yn dda?)

Pobl Aberteifi 39: William Gambold (1672–1728)

Dywed ei fab, yr esgob Gambold (mewn llythyr a argraffwyd yn y rhagymadrodd i argraffiad cyntaf English-Welsh Dictionary, John Walters), iddo gael ei eni yn Aberteifi 10 Awst 1672, o deulu parchus a roes addysg dda iddo ar gyfer urddau eglwysig.

Yn ôl Foster (Alumni Oxon.), yr oedd yn 18, ac yn ‘fachgen tlawd,’ mab i William Gambold o dref Aberteifi, pan ymaelododd yn S. Mary Hall, Rhydychen, 23 Mai 1693. Symudodd i Goleg Exeter yn 1694, ond nid oes gofnod iddo raddio.

Yn 1707 yr oedd yn cadw ysgol yn Llanychaer ac ar 1 Rhagfyr 1709 daeth yn rheithor Casmael gyda Llanychaer, sir Benfro.

Yn Rhydychen yr oedd yn gyfaill i Edward Lhuyd a dywed Lhuyd iddo gyfrannu gwybodaeth at ychwanegiadau Lhuyd i  argraffiad Gibson o Britannia Camden.

Mae cyfres o lythyron a ysgrifennodd at Edward Lluyd yn Rhydychen rhwng 1693 a 1697 yn ymddangos fan hyn:

https://tinyurl.com/y7dde7wy

Maent yn cyfeirio at nifer o ddarganfyddiadau archaeolegol yn Llandudoch a Nanhyfer. Yn anffodus nid yw’n nodi yn union ymhle yn Aberteifi roedd e’n byw.

Mor gynnar â 1707 cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg, a daeth hwnnw’n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef yn ddiweddarach (gan ddamwain) i gyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffennwyd y geiriadur yn 1722, ond methodd Gambold hel digon o arian i’w gyhoeddi tan 1727 fel A Grammar of the Welsh Language. Bu farw 13 Medi 1728. Ailargraffwyd y llyfr yn 1817 (Caerfyrddin) a chyhoeddwyd trydydd argraffiad yn 1833 (Bala).

Mae ei ewyllys yn ymddangos fan hyn:

https://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/CmnWills#Gambold1728

“To [my] eldest son, John Gambold, that whole little Burage of mine, together with each and every stable, Outhouses, Offices, Back-sides and Gardens, unto the same belonging, situate, lying and being in the Town of Cardigan…”

Gadawodd wraig, Elizabeth, pedwar mab ac un ferch.