28 1941 (Gwe.) Ar y dydd hwn ennillodd D. B. John Morris, Williams Row yr OBE. Fe oedd y cyntaf o Aberteifi i’w anrhydeddu yn y rhyfel am ddewrder.
27 1970 (Gwe.) Ieuenctid Bethania yn ymweld â Chaerdydd i weld ‘Chitty Chitty Bang Bang’. Ar y Sul pwy ddaeth i’w gweld yn Eglwys Bedyddwyr Heol Llandaf ond neb llai na Ysgrifennydd Cymru George Thomas: ‘ I expect you finished the milking before you came down’?! medde fe.
27 1953 (Gwe.) Cyngerdd yn y Tabernacl: Côr Meibion Pontyberem, a’r tenor Geraint Davies.
Dr Dan Rees
26 1938 (Sad.) Bu farw Dr Dan Rees, Belmont, prifathro Ysgol Uwchradd Aberteifi am 36 o flynyddoedd. Ar ôl ymddeol symudodd i fyw i Hastings. Nid oedd mewn iechyd da ac ar gyngor meddygol penderfynodd mynd ar wyliau i Sicily. Bu farw tra’n teithio gyda’i wraig ar y trên trwy Ffrainc yn Lyon. Amlosgwyd ei weddillion yn Ffrainc.
Brodor o Landysul oedd, addysgwyd yn ysgol Gwilym Marles, ac Ysgol William James, Llandysul. Undodwr: Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin o dan y Prifathro Evans; Coleg Aberystwyth am flwyddyn lle cafodd gradd BA (Llundain). MA Prifysgol Llundain; ennillodd Ysgoloriaeth Hibbert, mynd i Berlin a Leipsig lle cafodd Doethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Celtaidd. Wedyn aeth i Baris lle bu’n astudio am chew mis yn y Sorbonne. Bu’n brifathro rhwng 1897 a 1932. Priododd Elizabeth M. Davies, merch henaf y Parchg John Davies, Yr Amwythig a chanddynt un mab.
Yn ôl nodyn golygyddol yn y Tivy-side 11.3.138:
‘Dr Dan Rees was not in the roll of common men. There was a distinction about him which could not but impress all with whom he came in contact. He had that elusive thing called personality… The schoolroom was his dukedom and here he wielded a daily influence the value of which it is impossible to estimate.’
Dr Dan Rees fel prifathro
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys yr Holl Saint, Hastings am 3 o’r gloch Dydd Sadwrn, 5ed Mawrth ac ymhlith eraill yn bresennol gan Mrs E. M. Rees (gwidw), Capt and Mrs Rees (mab a merch yng nghyfraith), Mr David Rees (brawd), Mrs F. Gower (chwaer), and Miss F. E. Davies (chwaer yng nghyfraith).
25 1950 (Sad.) Queens café / restaurant ar gau am byth. Y popty i barhau ac yn parhau heddiw (2013).
25 1889 (Llun) Claddu Solomon Blake, Mwldan, 65, garddwr a tad i 20 o blant.
25 1881 (Gwe.) Ar y dydd hwn ym 1881 hwyliodd W. R. Harries a Florrie ei wraig i America.
WILLIAM R. HARRIES
Nid brodor o Aberteifi oedd William R. Harries, ond gŵr a ddaeth i’r dref o Salem, Llangennech, wedi iddo sicrhau swydd gyda’r arwerthwr T. Griffiths, a dod yn aelod ym Methania ar 24 Medi 1876. Er mai byr oedd ei arhosiad yn Aberteifi gadawodd ei farc ar y gymuned. Yn ei amser hamdden bu’n helpu i sefydlu ysgol ar gyfer tlodion – y ‘Ragged School’ – yn y Mwldan, ysgol a weithredai’n ymarferol i gynnal corff ac enaid tlodion y Mwldan. Gadawodd William Harries a’i wraig newydd – Florence Lewis o Heol y Cei – ar 25 Chwefror 1881. Mae’n amlwg iddynt gael bywyd pur lewyrchus yn y wlad newydd oherwydd, wedi ei farw, dyma’r pennawd a ymddangosodd yn y New York Times ar 6 Chwefror 1915: ‘W. R. HARRIS LEFT $3,000,000′.
Ac yn ôl papur newydd arall o’r cyfnod:
William R. Harris, formerly Vice President of the American Tobacco Company, died on Monday at his home at Irvington-on-Hudson, N. Y., in his sixtieth year. He was born in Wales and came to this country in 1880. Mr Harris became associated with the Pullman Company in Chicago and resigned to assist in the formation of the American Tobacco Company. At the time of the dissolution of this company, and for many years previous, he was Chairman of the British-American Tobacco Company and took an active part in obtaining foreign business. Mr Harris also assisted at the reorganization of the American Tobacco and its associated companies when this was made necessary by the decree of the United States Supreme Court. He had been retired from active business for several years. Mr Harris is survived by his widow, three sons and a daughter.
Roedd wedi prynu eiddo 24 milltir y tu allan i Manhattan yn 1895 ac wedi gwario ffortiwn yn datblygu’r tŷ. Dyma y lle i fyw ymhlith enwogion busnes America. Fe’i cydnabyddid yn eang fel ‘Millionaire’s Colony’ a dyma lle’r ymsefydlodd teulu Rockefeller a chyfoethogion eraill yn ddiweddarach.
Does dim sôn iddo ddychwelyd i’r Mwldan.
24 1947 (Llun) Cymdeithas Operatig yr Ysgol Uwchradd yn cyflwyno ‘Merry England’.
23 1960 (Mer.) Ymwelodd Cliff Richard â’r dre. Galwodd mewn i Café Penri, Pendre (Happy City 2013). Bytodd Welsh cakes am y tro cyntaf – a joio! Dim sôn a oedd yn bwrw glaw y diwrnod hynny felly ddim yn siwr a ganodd o gwbl.
23 1949 (Mer.) Cymdeithas Gorawl Aberteifi yn perfformio ‘Messeiah’, Handel ym Methania. Yr arweinydd oedd Andrew Williams. Yr unawdwyr oedd Elsie Suddaby, Bryce Dargavel, Eileen Price, Rene Soames. Yr organydd oedd yr Athro Edward Morgan.
23 1928 (Iau) Claddwyd Samuel Young, maer ym 1908 a 1921.
22 1950 (Mer.) Cymdeithas Gorawl Aberteifi yn perfformio ‘Judas Maccabeus’ ym Methania