1–7 Ebrill


  • 7 1880 (Llun) Priodas John H. Pettitt, Brodyr Pettitt, Gwneuthurwyr Esgidiau, Birmingham gyda Miss Lizzie Jane Evans, merch Evan Evans, llywodraethwr Carchar Aberteifi.
William Roberts1862–1912
William Roberts
1862–1912
  • 6 1988 (Mer.) Marw Wyn Jones, awdur Yr Hen Lwybrau a storiau eraill (Gomer, 1966)
  • 6 1951 (Fri.) Cardigan Society’s First venture: ‘The Long Mirror’
  • 6 1912 (Sad.) Marw William Roberts, awdur y dôn Bryngogarth, 50 oed

William Roberts (1862–1912)

[Addasiad o deyrnged y Parchg Esaia Williams, 19 Ebrill 1935, CTA]

Ganed William Roberts ar 1 Hydref 1862 mewn ty o’r enw Farmers’ Arms, Penybont, Aberteifi. [21 Stryd y Castell]

Brodor o Aberteifi oedd John Roberts, ei dad.  Maged ef yn Heol Fair. Morwr oedd ef yn ôl ei alwedigaeth a threuliodd ei oes ar y môr. Mary Roberts oedd ei fam, yn wreiddiol o Rafael, ger Blaenffos. Roedd ganddynt bedwar o blant: Mary Ann, William arall a fu farw’n ifanc, Sarah Lizzie a William. Bu fawr eu mam yn ifanc iawn a chafodd y plant eu codi gan chwaer eu mam Mrs Martha Roberts.

Dyn bychan ei gorff oedd William, ac anffurfiwyd ei gorff trwy ddamwain a gafodd pan oedd yn faban. Roedd ei gefn yn grwca. Derbyniodd ei addysg gynnar yn y British School a gynhelid yn yr hen Fethania (Caffi Central). Edward Hughes (Iorwerth Penfelyn ) oedd yr ysgolfeistr. Dyn rhagorol.

Ar ôl ychydig o addysg aeth William Roberts at ddyn o’r enw Griffith Griffiths, Castle Street i ddysgu ei grefft fel gwneuthurwr dodrefn. Bu’n gweithio wedyn gyda David Lewis, Llanifor, Penyparc, dros y ffordd y tu ol i’r Eagle Inn. Bu yma am rai blynyddoedd, ond oherwydd gwendid corfforol gorfod iddo roi heibio crefft saer. Ar ôl blynyddoedd cychwynodd fasnach iddo’i hun yn Heol y Bont, a pharhaodd felly hyd derfyn oes. Tynnwyd y siop i lawr c. 1933. Safai gyferbyn a Heol y Cei, yr ochr arall i’r ffordd.

Nid oedd yn nodedig am ei ddoniau cyhoeddus, ond ni bu neb erioed teyrngarach nag ef mewn eglwys. Un o’r rhai mwyaf addfwyn, diniwed a thyner galon, ac eto, pan fyddai galw am sefyll dros egwyddor yr oedd mor ddewr a llew, ac yn uchel ei brotest yn erbyn pechod ymhob ffurf arno.

Fel cerddor y daeth yn amlwg. Tua 1882 gwahoddodd rhai o gerddorion Bethania Mr Benjamin Lewis, Blaenanerch i gadw dosbarth Solffa yno. Ymunodd William Roberts â hwn. Yr oedd Benjamin Lewis yn gerddor gwych. Erbyn diwedd y tymor yr oedd pob un o ddosbarth a rifai 50 yn medru rhedeg unrhyw dôn ar yr olwg gyntaf arni. Yn ddiweddarach ymfudodd Benjamin Lewis i’r America.

Wedi cael blas ar gerddoriaeth daliodd ati. Ei offeryn cyntaf oedd y chwibanogl (fife). Wedyn y crwth. Digwyddodd i frodor o’r Eidal ddod drwy strydoedd Aberteifi ryw ddydd, a chwarae rhyw fath o delyn. Buan y daeth ei seiniau melys o’r stryd agored i glustiau William Roberts yn yr ystafell uwchben ei siop. Tarodd bargen â’r Eidalwr a daeth yn berchenog y delyn.

Dechreuodd gyfansoddi. Cychwynodd ef ac eraill gerdded i Gilgerran i ddysgu chynghanedd gan y Parchg W. Cynon Evans G. & L, a’i wraig. (Blaencwm, Rhondda yn ddiweddarach). Ni orffwysodd nes cael cerddorfa i’r dref. Bu’n aelod ffyddlon o’r Cardigan Male Voice Party, o dan arweiniad William Thomas, Carningli.

Tonau a gyfansoddodd: Bryngogarth, Blaenffos, Glanteifi, Llandudoch, Rhosgerdd, Cemaes, Bridge Street, William

I BLANT: Clodfori’r Gwaredwr, Dewuch ataf fi, Annwyl Iesu

Ei dôn enwocaf oedd Bryngogarth:

Bryngogarth

Bu’r diweddar Barchg John Williams ryw dro yn ei gerbyd yn pregethu yn Sir Befro, ac wrth ddod adref yn hwyr, gwelai olau yn ffenestr William Roberts, ac wrth basio trawodd y ffenestr a’i chwip. Bore trannoeth aeth i weld William Roberts, ac meddai: ‘Beth ichwi’n wneud lawr mor hwyr y nos? O! Mr Williams, y chwi oedd yna neithiwr. A dweud y gwir, rhoi finishing touches i dôn ar y geiriau ‘Angrhediniaeth, gad fi’n llonydd, yr oeddwn i’.

Galwyd y dôn honno yn Bryngogarth ar ôl enw cartref y diweddar Barch John Williams.

Bu farw 6 Ebrill 1912. Claddwyd ef ym mynwent Blaenffos. Maen coffa : Cerddor W. P. Roberts, Aberteifi. Awdur y dôn Bryngogarth.  A fu farw Ebrill 6, 1912, yn 50 oed.

Y Parchg Aaron Morgan:

  • Un hysbys oedd yn nosbarth – y gân fwyn,
  • Gwyn ei fyd, frawd diwarth;
  • Tra cenir nis gwelir gwarth
  • Yn gwgu o’i Fryngogarth
Bedd William Roberts ym mynwent Blaenffos
Bedd William Roberts ym mynwent Blaenffos
  • 5 1978 (Mer.) Claddu Trevor Williams, 6 Williams Terrace, rheolwr y Pav.
Trevor Williams
Trevor Williams
  • 5 1958 (Sad.) Pwllheli roc (rhif 8) a chyflaeth ar werth yn y farced.
  • 4 1973 (Mer.) Côr o Rwmania yn canu yn yr Ysgol Uwchradd. Yr arweinydd oedd Marin Constantin.
  • 4 1921 (Llun) Agorodd G. Picton Williams, sefydliad teilwriaid  yn Commerce House, rhan o Westy’r Commercial
  • 4 1827 (Mer.) Cyhuddwyd Williams, Andrews, crwydryn o Sais o ddwyn hen ddillad. Dyfarnwyd i farwolaeth a chrogwyd yn Carchar Aberteifi rhai dyddiau yn ddiweddarach.
  • 3 1942 (Gwe.) Ffurfio Clwb Bechgyn Aberteifi.
Y Parchg George Hughes, Mount Zion 1880–1925
Y Parchg George Hughes,
Mount Zion 1880–1925
  • 3 1925 (Gwe.) Marw y Parchg George Hughes, Llanberis, Aberteifi, 70 oed, gweinidog Mount Zion ers 1880.
  • 2 1949 (Sad.) 11.30 a.m. Cyfarfod awyr agored o Blaid Lafur Sir Aberteifi, yn Stryd Morgan. Siaradwyr yn cynnwys A. G. Waite, ymgeisydd Croesoswallt; Dr A. W. Spencer, llywydd Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin; a Iwan Morgan, ymgeisydd Plaid Lafur Sir Aberteifi.
  • 2 1949 (Sad.) Angladd William Phillips, Pendre, 93 oed. Ymddeolodd yn 87 oed  fel Prif Garddwr gyda Mr Berrington Davies, Castle Green a Phlas Llangoedmor. Aelod yn y Tabernacl. Claddwyd yn Llantwd.
  • 2 1832 (Llun) Marw Y Parchg. John Herring, Bethania, yn 43 oed yn ei gartref yn Llwynpiod. Claddwyd yn Nghilfowyr Dydd Gwener 6 Ebrill. Gadawodd wraig (a fu farw ychydig yn ddiweddarach ar 22 Ebrill) a 7 o blant.
  • 1 2013 (Llun) Wy deinosor wedi dod i’r golwg ar safle’r Castell! Dros y penwythnos daeth wy deinosor i’r golwg ar dir y Castell. Yn ôl gwyddonydd lleol gynted bydd y Post yn agor bore Mawrth bydd yr wy, sy’n pwyso tua 7.5 kg ac yn mesur 20 modfedd ar draws yn mynd trwy’r post i’r Amgueddfa yng Nghaerdydd ar gyfer profion DNA. Os wy deinosor yw e mae’n amlwg fod safle’r Castell tipyn henach na feddyliwyd hyd yn hyn.
  • 1 1959 (Mer.) Dechreuodd Sidney J. Woolnough, dirprwy glerc Cyngor Gwledig Dorking a Horley,  swydd Surrey, ei swydd fel Clerc y Dref.
  • 1 1889 (Llun) Diwedd ar y gatiau tollborth trwy’r sir. Symudwyd Iet y Gogledd ar De.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s