- 21 1894 (Sad.) SS Seaflower yn helpu’r sgwner John James o Aberystwyth. Suddodd y llong â chriw o 4, ym Mae Ceredigion tua canol nos.
- 20 1949 (Mer.) ‘Meseia’, gan Handel ym Methania. Unawdwyr yn cynnwys Jennifer Vyvyan; Gwyneth Morgan; Trefor Anthony; a Hubert Hughes; Idris Griffith, Llanelli, organydd; Arweinydd Andrew Williams. Noson gofiadwy oherwydd i’r Barchg Esaia Williams, ddisgyn yn farw yn y pwlpud tra’n annerch y gynulleidfa.
- 19 1896 (Sul) Cyrdde Mawr Capel Mair. Pregethwyr yn cynnwys Miss Rosina Davies, (Efengylwraig), Treherbert a’r Parchg Oscar Owen, Pen-y-bont ar Ogwr.
- 18 1952 (Gwe.) Apwyntio Roderic Bowen yn 38 oed fel QC ieuengaf
- 18 1878 (Iau) Gwasanaeth arbennig dwyieithog ar gyfer gweithwyr yn Ysgol Sul y Beibl yn Lôn Eben. Y pregethwyr oedd y ficer y Parchg W. Cynog Davies a’i gurad D. Richards.
- 17 1953 (Gwe.) ‘Sebra crossings’ yn cyrraedd tu fas y Ship, a lan ar bwys yr ysgol gynradd (neu rhwng siop Johnny Davies a Peacocks!) Pwy oedd y cyntaf i groesi?
- 16 1877 (Llun) Achubwyd y Sgwner ‘Mary Helen o Fowey’ gan y bad achub John Stuart.
- 15 1963 (Llun y Pasg) Harold Lloyd’s World of Comedy (U) ymlaen yn y Pav