-
30 1888 (Llun) Ffarwel i’r Parchg M. Evans, Hope Chapel ar ei ymadawiad i Aberhonddu
-
29 1865 (Sad.) Marw Telynog y bardd poblogaidd a aned ar y Netpool.
- 28 1985 (Sul) Dathlu Canrif Cymanfa Ganu Bedyddwyr Cylch Aberteifi
- 28 1951 (Sad.) Twrnament Bocsio: Neuadd y Farchnad ar Ddydd Sadwrn Barlys, yn cynnwys bocswyr poblogaidd Aberteifi Haydn Gwyon ac Owen Edwards a oedd i ymddangos yn Neuadd Albert yn y ffeinal o Bencampwriaeth Rheilffyrdd Prydain.
- 28 1938 (Iau) Ymweliad Amy Johnson â’r dref fel rhan o Rali RAC.
- 28 1197 (Llun) Marw yr Arglwydd Rhys
- 27 1967 (Iau) Agoriad swyddogol y Clwb Rygbi gan Osmond John, cynrychiolydd Undeb Rygbi Cymru. Daeth Brian Thomas, Castellnedd lawr â XV o chwaraewyr enwog (gan gynnwys Hywel Williams!) i chwarae yn erbyn Aberteifi.
- 27 1826 (Iau) Marwolaeth Charles Symmons, ganed ym 1749.
- 26 1876 (Mer.) Cyfarfod cyhoeddus er mwyn ystried Bwrdd Claddu yn unol â Deddf Byrddau Claddu 1875.
- 25 1949 (Llun) Aberteifi v. Abertawe AFC. Y gêm i ddechrau am 6.00. A oes unrhyw un yn cofio’r sgor?
- 25 1949 (Llun) Angladd y Parchg Esaia Williams, Bethania
- 24 1914 (Gwe.) Claddu May Morris, William St., 22 oed, merch David.

- 23 1964 (Iau) Ymweliad Screaming Lord Sutch â’r Blac Leion. Dechrau’r ‘swinging sixties’ yn Aberteifi. Am ragor o’r hanes ewch at: http://nossadwrnynyblac.wordpress.com/ Os oes cyfraniad gyda chi at yr hanes cysylltwch!
- 23 1949 (Sad.) Ymweliad James Callaghan i weld ei hen ffrind Sylvan Howell.
- 22 1949 (Gwe.) Mae J. Teifryn Roberts yn dymuno cyhoeddi fod Pwmp petrol wedi’i osod tu fas i Garej Pioneer [gwaelod Brecon Terrace]
- 22 1852 (Iau) Geni George Francis Miles, arlunydd, a fu farw 15 Gorffennaf 1891.