- 7 1900 (Sad.) 27 o longau rhyfel i’w gweld yn y Bae oddi ar Gwbert.

- 6 1975 (Sul) Cymanfa Ganu Gwyl Cyhoeddi Eisteddfod y Dathlu 1976 ym Methania am 8.00.
- 5 1918 (Gwe.) Claddu Sarah Clougher, chwaer Arthur, gwerthwr llyfrau a phapurau (safle W.H. Smith heddiw).
- 4 1899 (Maw.) Claddu Lewis Evans, 86 oed o’r Wyrcws.

-
3 1927 (Sul) Cwymp simne’r Gwaith Brics. Y bwriad oedd tynnu’r simne lawr y noson cynt (Sadwrn) ond yn aflwyddiannus. Adeiladwyd y simne ym 1874 o dan oruchwyliaeth Mr William Woodward YH. Roedd y gwaith yn llwyddiannus iawn am gyfnod hir ond daeth y diwedd yn ystod y 1920au.
- 2 1969 (Mer.) Ymweliad y Tywysog Siarl yn dilyn yr arwisgo yng Nghaernarfon.
- 2 1813 (Gwe.) Claddu y Parchg Thomas Morgan, rheithor Bridell a ficer Eglwyswrw, curadur y plwyf a meistr yr Ysgol Ramadeg Rhydd, 34 oed.
- 1 1880 (Iau.) Agoriad swyddogol darn y fynwent ar gyfer Anghydffurfwyr, gan y maer William Woodward.