- 31 1874 (Gwe.) Lansio’r Lizzie Ellen (200 tunnell) a adeiladwyd gan John Williams a’i fab
- 30 1898 (Sad.) Cynhaliwyd arholiadau ysgoloriaethau yn yr Ysgol Uwchradd ar gyfer 6 bachgen a 5 merch.

- 29 1915 (Iau) Claddu Alfred Martin Webb, Pendre, 64 oed.

- 28 1922 (Gwe.) Agoriad swyddogol yr Ysbyty gan Margaret Lloyd George
- 27 1885 (Llun) Cychwyn y Farced misol ym Mhensarnau. Dosbarthwyd posteri a biliau llaw gan N. W. Mitchell, Clerc y Dref. Pan gyrhaeddodd y trên ym 1886 roedd cyfle i hysbysebu’r marchnadoedd.
Dyma Ysgawenydd, y bardd lleol:
The markets of late have suffered in town
Thro’ the want of conveyance close to the ground
Now the train is convenient and not far away
To carry the stock away the same day.
Good number of hurdles are here to keep,
Some for the cattle and some for the sheep.
And stables close by, and stalls all complete,
And corn, if required, or good hay to eat.
- 26 1914 (Sul) Gadawodd ‘Cwmni C’ Aberteifi i Borthmadog o dan Lefftenant Griffith a’r ail Lefftenant Illtyd R. G. Jones. Pan dorrodd y Rhyfel allan ar 1 Awst dychwelodd y milwyr. Ar 4 Awst aeth Brydain i ryfel yn erbyn yr Almaen. Am 5.00 pm bu’r Tiriogaethwyr yn martsio o flaen y Guildhall. Anerchwyd gan y maer Maj. R. W. Picton Evans. Ar ôl yr anerchiad buont yn martsio trwy’r dref a lawr am y stesion er mwyn dal y trên yn barod i fynd lawr i’r Camp yn Dale, ger Milffwrd.
- 25 1964 (Sad.) Freddie Starr a’r Midnighters yn y Blac.
- 25 1901 (Iau) T. M. Daniel yn cychwyn gwasanaeth car i Gastellnewydd Emlyn mewn cystadleuaeth i’r bws. Cyflwynywd ail gar ar 30 Gorffennaf. ‘Mae’n debyg bydd y cynllun yn un parhaol’, medd y Teifi-seid.
- 25 1876 (Maw.) Gweithwyr yn y Gwaith beics yn cael trip blynyddol i Gwbert.
- 24 1901 (Mer.) Y car cyntaf yn cyrraedd y dref gan T. M. Daniel. Tipyn o stwr wrth i’r car ymlwybro lawr y Stryd fawr.
- 24 1866 (Maw.) Syrcas yn cyrraedd! Steven’s Royal Menagerie & Foreign Legion o Adar a Chreaduriaid; Anghenfilod o’r Gwaelodion; Ymlusgiaid y Byd; Lladdwr Llewod; Dofwr Teigrod; a Hudwr Sarff. Dros 100 o wahanol anifeiliaid
- 23 1970 (Iau) Agoriad swyddogol yr Eglwys Gatholig am 6.30. Arweiniwyd y seremoni gan y Gwir Barchedig John E. Petit MA, Esgob Mynyw, a’r Gwir Barchedig Langton D. Fox, Esgob Cynorthwyol Mynyw.
- 23 1968 (Llun) Tân yn y Clwb Rygbi
- 23 1678 (Maw.) Aeth y Neptune o Ilfracombe â 15, 000 o gerrig i Ddulyn.

- 22 1966 (Gwe.) Agoriad siop Fashion Trend, 46 Pendre
- 22 1896 (Mer.) Mrs Richards, matron y wyrcws yn mynd â’r plant am drip i Poppit.