8–14 Gorffennaf


  • 14 1944 (Gwe.) Efaciwis yn cyrraeddd ar y trên o Ysgol Forest Row (Sussex).
  • 14 1880 (Mer.) Cynhaliwyd Eisteddfod tu ôl Pendre. Roedd y Pafiliwn yn dal 5, 000. Y prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).
Gêm Fawr
Gêm Fawr
  • 13 1991 (Sad.) Clwb Pêl Droed Cwmderi (Pobl y Cwm) v. Barbariaid Aberteifi.
  • 13 1984 (Gwe.) Gwasanaeth gollwng y Parchg Tom Roberts, Tabernacl.
  • 13 1951 (Gwe.) Ymweliad Duges Caint. Derbyniad ym meysydd chwarae y Brenin Sior V (Parc y Reiffl).
  • 12 1900 (Iau) Claddu John Turner Mathias, Feidrfair, 43, gwerthwr esgidiau
  • 12 1888 (Iau) Dyfarnwyd medal arian i William Niles, gwirfoddolwr gyda’r bad achub am 29 o flynyddoedd. Achubodd 85 o fywydau.
  • 12 1853 (Maw.) Marw Isaac Thomas (1820–53), cyhoeddwr Almanac y Cymro. Argraffwyd gan D. Leary & Co., Dulyn er mwyn osgoi treth argraffu. Claddwyd ym mynwent Capel Penybryn.
  • 11 1893 (Maw.) Claddu John James, 13 Strand, gof, 81 oed.
  • 10 1953 (Gwe.) Roedd Wally Barnes, chwaraewr pêl-droed i Arsenal a Chymru ar wyliau yn Aberteifi gyda’i ffrind Aneurin James, Stepseid.
  • 10 1888 (Maw.) Gosod carreg sylfaen Banc ‘Old Brecon’ y dre, gan Mrs Lewis gwraig Mr W. J. Lewis, YH o flaen torf o bobl. “Bydd yr adeilad yn gaffaeliad hardd i’r dref”. Ar ôl gosod y garreg sylfaen gwahoddodd y rheolwr y gweithwyr – 44 ohonynt – i gael cinio yn y ‘Coffee Tavern’ a baratowyd gan Mr J. Carpenter.
  • 9 1859 (Sad.) Agoriad Marchnad y Dre am 6 o’r gloch y bore.
Gosod carreg sylfaen y Guildhall, 1858
Gosod carreg sylfaen y Guildhall, 1858
  • 8 1858 (Iau) Gosod carreg sylfaen y Guildhall gan y maer , Yr Hendaur R. D. Jenkins, Priordy Aberteifi, am 2.00. Canwyd clychau’r Eglwys; taniwyd y cannon 3 gwaith ar y Netpool gan Stevens a Macdonald – hen filwyr; yr heddlu yn ngofal y drefn gyhoeddus; y ‘town crier’ i gyhoeddu llwybr yr orymdaith noswyl yr achlysur am 6 o’r gloch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s