- 7 1896 (Mer.) Gwynt cryf, glaw trwm a llanw uchel yn achosi llifogydd difrifol yn y dref, nenwedig yn ardal y Mwldan, y Strand, Stryd Santes Fair, ac o gwmpas y Bont. Methodd trên 7.30 a chyrraedd tan 9. Erbyn 9.40 gwaethygodd y sefyllfa fel nad oedd yn ddiogel i’r trên adael yr orsaf. Dim llythyron na phapurau newydd tan Dydd Iau am 1.30.
- 6 1897 (Mer.) Ganed mab i’r Parchg J. G. Hughes (Moelwyn). Llwyn Onn, Stryd y Priordy, gweinidog y Tabernacl.
- 5 1956 (Gwe.) Agoriad yr Hafod gan Miss Pat Hornsby Smith, AS, Ysg. Gwladol i’r Weinyddiaeth Iechyd ar gost o £47, 000.
- 4 1940 (Gwe.) Tân yng Ngwesty’r Cliff yn achosi £200 o ddifrod.
- 4 1892 (Maw.) Marwolaeth y Cyrnol C. W. Miles, perchennog Stad y Priordy yn Nhy Burton Hill, Malmesbury swydd Wiltshire. Ef oedd 6ed mab Phillip John Miles, AS. Dilynwyd y Cyrnel gan y Capten Napier Miles o’r Gwarchodlu Bywyd Cyntaf.
- 4 1843 (Mer.) 129 o aelodau gan Y Gwir Iforiaid Aberteifi
- 3 1952 (Gwe.) Gwerthwyd Ynys Aberteifi am swm o £300 i ddyn o Aberteifi’n wreiddiol – Mr E. Clarke o Walton-on Thames.
- 3 1914 (Sad.) Arestiwyd Almaenwr oedd yn gweithio yng Ngwesty’r Cliff. Aeth ag ef i Swyddfa’r Heddlu.
- 3 1831 (Llun.) Gwasnaeth Coetsys ar fin dechrau rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin. O Westy’r Albion (Foundry Tce.) am 8.00 y bore a dychwelyd y diwrnod canlynol o’r Ivy Bush am 10.
- 3 1821 (Wed.) Dienyddiwyd William James, 29 am dorri i mewn i dy a dwyn eiddo:
Ystyria lwybr dy draed a threfna dy holl ffyrdd yn uniawn – Diarh 4, 26
Yn Aberteifi fe ddigwyddodd
Tro ar gyhoedd yr holl dre.
Eu fath ni fu ers ugain mlynedd
O’r blaen o fewn magwyry’r lle.
Dihenyddiwyd ar y grogbren
Fachgen ieuangc heini llon
Trwy yspeilio a lladratta
Daeth ef i’r sefyllfa hon.
J. Lloyd, Aberteifi on 13 Hyd. 1821.
Ballad argraffwyd gan Evan Jones, Heol-y-prior, Caerfyrddin
- 2 1964 (Gwe.) Howard Winstone, pencampwr pwyse plu Prydain a’r Gymanwlad, a’r reolwr Eddie Thomas, yn gwrthio colofn o geiniogau lawr yng ngwesty’r Commercial er budd Distroffi’r Cyhyrau. Codwyd swm o £78.
- 2 1850 (Mer.) Darlithoedd ynglyn â Ffreno-mesmerism yn y Guidlhall
- 1 1953 (Iau.) Cyhoeddi Eisteddfod Fawr Aberteifi: Cyngerdd mawreddog: Parti Meibion Godre’r Aran, Llanuwchllyn, Telynores Uwchlyn, Triawd y Llan, John Abel Jones (adroddwr), Sassie Rees (soprano)
- 1 1921 (Sad.) Cais gan D. T. James, Gwalia i osod polion pren er mwyn carion gwifrau trydan ar hyd Heol y Gogledd, Gordon Tce. a Heol y Gwbert.