15–21 Hydref


  • 21 1871 (Sad.) Banc NP wedi agor yn 26 Stryd y Cei
  • 20 1880 (Mer.) Newyddion wedi cyrraedd y dref oddi wrth Capten D. Evans, master o’r brig Gowerson, o Drefdraeth fod Mr David James, gwr Mrs M. E. James, hetiwr o Aberteifi, wedi ei golli ar y môr ar y 6ed Hydref ar ôl cwympo i’r môr mewn storm enfawr ger arfodir Sbaen.
  • 19 1956 (Gwe.) Noson Chwist gan y Toriaid Ifanc yn y Guildhall.
  • 18 1880 (Iau) Darlith gan y Parchg W. Q. Davies, yng nghyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Aberteifi. Siaradodd ar ‘Diarhebion a’u hystyr’. Diddorol iawn oedd dyfarniad y gynulleidfa. Mr T. Davies, Banc House oedd y cadeirydd.
  • 17 1880 (Sul) Bedyddiwyd deg person yn yr afon Teifi ger y Netpool gan y Parchg John Williams, Bethania pnawn Sul o flaen torf o bobl. Y deg oedd :

Griffith Griffith, mab Thomas Griffiths, groser, Pendreuchaf; John Williams, mab William Williams, saer, Pendre isaf; David Jenkins, mab John Jenkins, waggoner, Heol Fair; James Thomas, morwr, Feidrfair; Anne Davies, merch Thomas Davies, gweithiwr yn Parcytrap; Anne Thomas, merch gwraig John Jenkins, masiwn, Pendre uchaf; Rachel Griffiths, merch John Griffiths, tinman, Lôn Heol Fair; Frances Heyes, White Hart, Heol Fair; Anne James, merch David James, Lôn Eben a  Margaret Jones, morwyn Mr Levi James, ironmonger.

  • 16 1951 (Maw.) Cyngor Celfyddydau Prydain yn cyflwyno Twelfth Night yn y Paf. Cynhyrchydd Kay Gardener . Ticedi cadw 5/- a 3/6. 2/- i bawb arall.
  • 15 1968 (Llun) Ynadon Aberteifi yn trafod achosion o gyffuriau am y tro cyntaf. Medd Aneurin James, y cadeirydd yn optimistaidd braidd: “We’ll nip this in the bud.”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s