- 31 1928 (Mer.) Cinio cyntaf y Royal Antediluvian Order of Buffaloes yn y Blac Leion.
- 30 1993 (Sad.) Gwasanaeth sefydlu y Parchg G. Madoc-Jones yn y Tabernacl am 2.00
- 30 1964 (Gwe.) Torri’r dywarchen gyntaf y Bowling Green gan Ald Arthur Thomas
29 1956 (Llun) Richard III (U) yn y Pav. Laurence Olivier, Claire Bloom, Ralph Richardson, John Gielgud ac eraill.
- 29 1895 (Maw.) Barnabus Brown o Abertawe carcharor cyntaf yn y Carchar newydd.
- 28 1840 (Mer.) Perfformiad o Sheridan’s Rivals gan gwmni Mr Bass yn y Theatr, Aberteifi o dan nawdd A. L. Gwynne, Monachty ac E. Lloyd Williams, Neuadd Aldebrook, Stiwart yr Helfa.
- 27 1973 (Sad.) Anerchiad gan Jeremy Thorpe yng Ngwesty’r Cliff i Gymdeithas Rhyddfrydwyr Aberteifi a’r cylch. Adloniant pellach gan Gôr Meibion Blaenporth.

- 27 1970 (Maw.) Ymweliad Gareth Edwards i’r Clwb rygbi er mwyn cyflwyno portreadau lliw i 3 o ddisgyblion lleol: Brynmor Williams, Delfryn Owens a Dyfed Davies.


- 26 1880 (Maw.) Agoriad swyddogol Capel yr Hope (Hope Chapel), Pendre.
- 25 1918 (Gwe.) Claddu Samuel Thomas Phillips, 37 a Phoebe, 34, St Mary St, Boot & Shoe Maker
- 24 1870 (Llun) Y Parchg W. Meidrym Jones yn cychwyn yn y Tabernacl– tan 1877. Trem ar ddwy ganrif o hanes y Tabernacl Aberteifi 1760–1960, C. Currie Hughes, tudalen 19 – “Methwyd cael llun y Parch. Mydrim Jones”. – [na fi chwaith]
- 23 1891 (Gwe.) Claddu George Henry Trollip, mab 4 mlwydd oed Jacob, o Westy’r Llew
- 22 1897 (Gwe.) Claddu John Phillips, 17 Grangetown, 39, morwr