- 21 1910 (Gwe.) Claddu Mary Lowther gwraig Lancelot, aelod ar gyngor y dref, a dirprwy clerc y dref yn 1872.
- 21 1905 (Sad.) Swyddfa Post newydd wedi agor. Jonathan Evans, postfeistr.
POSTFEISTRI ABERTEIFI:
- 1837 T Noot
- 1845 Mary Jones (senior?)
- 1857 Mary Jones
- 1871 Lewis Jones
- 1875 Elizabeth Evans
- 1878 Jonathan Evans
- 1913 Henry Thomas
- 1916 B Johns
- 1919 William Owen
- 1925 J H Hopkins
- 1930 J E Davies
- 1934 T J Davies
- 1947 D J Bowen
- 1952 R G Jones
- 1956 A G Evans
- 1959 A T Jones
- 1967 Norman Jones
- 1974 David L Baker
Enwau eraill?
- 20 1896 (Llun) Y Parchg J. Moelwyn Hughes yn cychwyn ei weinidogaeth yn y Tabernacl (CM)
- 19 1900 (Gwe.) Stryd Napier nawr ar agor fel heol gyhoeddus.
- 18 1985 (Gwe.) Rhew caled.
- 17 1988 (Sul) Marw T. T. Lloyd, maer 1969–70. Aelod o aden chwith Cyngor y Dre. Bu’n gweithio yn Aber-porth. Aelod ym Methania.
- 16 1999 (Sad.) Cyfarfod sefydlu y Parchg W. Raymond Jones yn y Tabernacl (CM)
- 15 1932 (Gwe.) Y Moose yn cychwyn gan y Swyddog Rhanbarthol y Brawd Rhys Davies, yn y Guildhall.
